Major step forward for multi-million pound Llanelli life science and well-being village | Cam mawr ymlaen i bentref gwyddor bywyd a llesiant

0
2076

Major step forward for multi-million pound Llanelli life science and well-being village

MULTI-MILLION pound plans for a life science and well-being village in Llanelli have taken a major step forward.

An outline planning application has now been submitted to Carmarthenshire Council for the innovative project at Delta Lakes, which includes new sport and leisure facilities, along with state-of-the-art services for health and well-being.

Subject to planning approvals, work could start on the £200 million development towards the end of the year.

The life science and well-being village is aiming to create up to 2,000 high-quality, well-paid jobs over 15 years, helping give the local economy a £467 million boost.

Other features of the development include business and research opportunities, education, training and assisted living accommodation. The site will also be landscaped to give opportunities for scenic walks, cycles and recreation.

Cllr Emlyn Dole, Carmarthenshire Council Leader, said: “The submission of an outline planning application is another step forward for an exciting, bold and innovative project that will place Llanelli at the heart of global life science and well-being innovation.

“As well as cutting-edge medical research facilities and services, assisted living accommodation and opportunities for training and education, the life science and well-being village will also boost Llanelli and Carmarthenshire as a whole by creating new high-value jobs, pathways to employment for local people and facilities for community use, including a state-of-the-art leisure centre.

“A recent drop-in event held in Llanelli showed more than 90% of people are either supportive or very supportive of the project, which is extremely encouraging because we’re determined to deliver this development for their benefit.

“Sustainability will be key to the development, along with sensitive design that ensures new buildings are in keeping with the character of the nearby area.”

The life science and well-being village is being led by Carmarthenshire Council, in partnership with Swansea University, the Hywel Dda University Health Board and the Abertawe Bro Morgannwg University Health Board.

The development is part of the £1.3bn Swansea Bay City Deal programme, which includes 11 major projects across Carmarthenshire, Swansea, Neath Port Talbot and Pembrokeshire. Work is progressing with the Welsh and UK Governments to develop the bid to secure a £40 million investment for the life science and well-being village as part of this programme.

Signed by the Prime Minister in March last year, the City Deal includes funding from the UK and Welsh Governments, the public sector and the private sector.

Cllr Dole said: “Life sciences and well-being are among the key themes of the City Deal, which will improve people’s lives, opportunities and aspirations right across the Swansea Bay City Region.

“Like all City Deal projects, the life science and well-being village at Delta Lakes will be underpinned by world class digital infrastructure and a skills and talent initiative that will give local people opportunities to access the high-value jobs that will be created.”

The first phase of the project, set to be open in early 2021, will include a community health hub, extensive landscaping and a wellness hub featuring a top quality leisure centre.

The submission of the outline planning application follows a pre-planning application consultation period that’s now finished.

 

Cam mawr ymlaen i bentref gwyddor bywyd a llesiant

MAE’R cynlluniau gwerth miliynau o bunnoedd i greu pentref gwyddor bywyd a llesiant yn Llanelli wedi cymryd cam mawr ymlaen.

Mae cais cynllunio amlinellol bellach wedi’i gyflwyno i Gyngor Sir Gaerfyrddin ar gyfer y prosiect arloesol yn Llynnoedd Delta, sy’n cynnwys cyfleusterau chwaraeon a hamdden newydd, ynghyd â gwasanaethau o’r radd flaenaf o ran iechyd a llesiant.

Yn amodol ar gael caniatâd cynllunio, gallai’r gwaith ar y datblygiad, sy’n werth £200 miliwn, ddechrau tua diwedd y flwyddyn.

Nod y pentref gwyddor bywyd a llesiant yw creu hyd at 2,000 o swyddi o ansawdd sy’n talu’n dda dros 15 mlynedd, gan helpu i roi hwb o £467 miliwn i’r economi leol.

Mae nodweddion eraill y datblygiad yn cynnwys cyfleoedd busnes ac ymchwil, addysg, hyfforddiant a llety byw â chymorth. Bydd y safle hefyd yn cael ei dirweddu i roi cyfleoedd ar gyfer llwybrau cerdded â golygfeydd, beicio a hamdden.

Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: “Mae cyflwyno cais cynllunio amlinellol yn gam arall ymlaen ar gyfer prosiect cyffrous, mentrus ac arloesol a fydd yn sicrhau bod Llanelli yn rhan ganolog o arloesi ym maes gwyddor bywyd a llesiant yn fyd-eang.

“Yn ogystal â gwasanaethau a chyfleusterau ymchwil meddygol arloesol, llety byw â chymorth a chyfleoedd ar gyfer addysg a hyfforddiant, bydd y pentref gwyddor bywyd a llesiant hefyd yn rhoi hwb i Lanelli a Sir Gaerfyrddin yn ei chyfanrwydd drwy greu swyddi newydd o werth uchel, llwybrau i gyflogaeth ar gyfer pobl leol a chyfleusterau i’r gymuned, gan gynnwys canolfan hamdden fodern.

“Dangosodd digwyddiad galw heibio diweddar yn Llanelli fod mwy na 90% o bobl naill ai’n gefnogol neu’n gefnogol iawn i’r prosiect, sy’n hynod o galonogol oherwydd rydym yn benderfynol o gyflawni’r datblygiad hwn er eu budd nhw.

“Bydd cynaliadwyedd yn allweddol i’r datblygiad, ynghyd â dylunio sensitif sy’n sicrhau bod adeiladau newydd yn gydnaws â chymeriad yr ardal gyfagos.”

Mae’r pentref gwyddor bywyd a llesiant yn cael ei arwain gan Gyngor Sir Caerfyrddin, mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.

Mae’r datblygiad yn rhan o raglen Bargen Ddinesig Bae Abertawe sy’n werth £1.3 biliwn ac sy’n cynnwys 11 o brosiectau mawr ledled Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Sir Benfro. Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ddatblygu’r cais i sicrhau buddsoddiad o £40 miliwn ar gyfer y pentref gwyddor bywyd a llesiant fel rhan o’r rhaglen hon.

Cafodd y Fargen Ddinesig ei llofnodi gan y Prif Weinidog ym mis Mawrth y llynedd a chaiff gyllid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a’r sector preifat.

Dywedodd y Cynghorydd Dole: “Gwyddorau bywyd a llesiant yw rhai o brif themâu’r Fargen Ddinesig, a fydd yn gwella bywydau, cyfleoedd a dyheadau pobl ledled Dinas-ranbarth Bae Abertawe.

“Fel pob prosiect yn y Fargen Ddinesig, bydd y pentref gwyddor bywyd a llesiant yn Llynnoedd Delta yn cael ei ategu gan seilwaith digidol o’r radd flaenaf a menter sgiliau a thalentau fydd yn rhoi cyfleoedd i bobl leol gael y swyddi o werth uchel a grëir.”

Bydd cam cyntaf y prosiect, y bwriedir ei agor yn gynnar yn 2021, yn cynnwys canolfan iechyd cymuned, gwaith tirweddu helaeth a chanolfan lesiant fydd yn cynnwys canolfan hamdden o safon uchel.

Mae’r cais cynllunio amlinellol yn cael ei gyflwyno yn sgil cyfnod ymgynghori cyn cyflwyno cais cynllunio sydd bellach wedi dod i ben.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle