THE potential for more free parking pilot initiatives for council run car parks in Carmarthenshire are to be explored.
Carmarthenshire County Councilâs executive board member for environment, Cllr Hazel Evans, has asked officers to look at opportunities to trial free parking schemes to see what effect it has on our town centres.
It is part of a range of measures the council is looking at to support town centre traders and increase footfall.
The council has already undertaken several free parking trials in town centres, and currently supports free parking on up to five days a year for all town centres to promote key events.
In Llanelli, working with the local Business Improvement District, the council piloted free parking after 3pm in 2015, and âpark for a poundâ on Saturdays at the townâs multi-storey car park in the run up to Christmas 2017.
It has also implemented free limited waiting bays at pick up and drop off points in the town centres.
The council will now use Welsh Government funding to support new free parking pilots, which will be developed in partnership with the existing town centre business forums and measured to assess the impact it has on footfall and trade.
Cllr Evans has made the call after reflecting on an earlier decision to use the funding to upgrade pay and display machines so that they accept card payments. The council will now use its own capital programme funding to modernise the machines.
âOn reviewing the letter issued by Welsh Government I am proposing to introduce other measures to ensure the funding is spent in the spirit it was primarily intended for,â she said.
âI have asked officers to explore opportunities for a parking offer to include a pilot for free car parking and bring a new proposal to me for decision.
âIt is still our ambition to modernise meters in line with the wishes of traders and local business forums, and we will proceed with the introduction of a âpay on exitâ initiative at Llanelliâs multi-storey car park as the first phase of this programme.
âOther elements of the modernisation programme, to upgrade our machines so they accept card payments, will be funded from our capital programme.â
Cynlluniau peilot newydd ar gyfer parcio am ddim ym meysydd parcio’r Cyngor
MAE rhagor o fentrau peilot yn mynd i gael eu cynnal i archwilio’r posibilrwydd o gynnig parcio am ddim ym meysydd parcio’r Cyngor yn Sir Gaerfyrddin.
Mae’r Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin dros yr Amgylchedd, wedi gofyn i swyddogion edrych ar y cyfleoedd i dreialu cynlluniau parcio am ddim i weld pa effaith a gaiff hyn ar ganol ein trefi.
Mae’n rhan o ystod o fesurau a gaiff eu hystyried gan y Cyngor er mwyn cefnogi masnachwyr yng nghanol y trefi a chynyddu nifer yr ymwelwyr.
Mae’r Cyngor eisoes wedi cynnal sawl cynllun peilot parcio am ddim mewn canol trefi, ac ar hyn o bryd mae’n cefnogi hyd at bum diwrnod parcio am ddim y flwyddyn ar gyfer yr holl ganol trefi er mwyn hyrwyddo digwyddiadau allweddol.
Yn Llanelli bu’r Cyngor, gan weithio gyda’r Ardal Gwella Busnes leol, yn treialu parcio am ddim ar Ă´l 3pm yn 2015, a âpharcio am buntâ ar ddydd Sadwrn ym maes parcio aml-lawr y dref yn ystod y cyfnod yn arwain at Nadolig 2017.
Mae hefyd wedi cyflwyno lleoedd aros am ddim am gyfnod cyfyngedig mewn mannau codi a gollwng yng nghanol y trefi.
Bydd y Cyngor yn awr yn defnyddio cyllid Llywodraeth Cymru i gefnogi cynlluniau peilot newydd ar gyfer parcio am ddim, a fydd yn cael eu datblygu mewn partneriaeth â fforymau busnes canol trefi a’u mesur i asesu’r effaith a gânt ar nifer yr ymwelwyr ac ar fasnach.
Galwodd y Cynghorydd Evans am hyn ar Ă´l ystyried y penderfyniad cynharach i ddefnyddio’r cyllid i uwchraddio’r peiriannau talu ac arddangos fel eu bod yn derbyn taliadau cerdyn. Bydd y Cyngor yn awr yn defnyddio ei gyllid rhaglen gyfalaf ei hun i foderneiddio’r peiriannau.
âO adolygu’r llythyr a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru rwyf yn cynnig bod mesurau eraill yn cael eu cyflwyno i sicrhau bod y cyllid yn cael ei wario yn ysbryd a fwriadwyd yn y lle cyntaf,â meddai.
âRwyf wedi gofyn i’r swyddogion archwilio’r cyfleoedd am gynnig parcio, a fyddai’n cynnwys cynllun peilot ar gyfer parcio am ddim.
âEin huchelgais o hyd yw moderneiddio’r mesuryddion yn unol â dymuniadau masnachwyr a fforymau busnes lleol, a byddwn yn mynd ati i gyflwyno’r dull âtalu wrth adaelâ ym maes parcio aml-lawr Llanelli fel cam cyntaf y rhaglen hon.
âBydd elfennau eraill o’r rhaglen foderneiddio, i uwchraddio ein peiriannau fel eu bod yn derbyn taliadau cerdyn, yn cael eu cyllido o’n rhaglen gyfalaf.â
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle