Two Hywel Dda Nursing Staff are accepted onto the Foundation of Nursing Studies – Inspire Improvement Programme / Dau aelod o staff nyrsio Hywel Dda wedi eu derbyn ar Raglen Ysbrydoli Gwelliant y Sefydliad Astudiaethau Nyrsio

0
887
Sian Perry (Left) and Helen Furneaux (Right)

Hywel Dda are delighted to announce that two of our nursing staff, Health Visitor Team Leader, Helen Furneaux and Senior Sister Paediatric Ambulatory Care, Sian Perry have both been accepted onto the prestigious Inspire Improvement programme run by the Foundation of Nursing Studies (FoNS).

Inspire Improvement is an exciting new programme, supported by the Burdett Trust for Nursing, which aims to develop a community of FoNS Improvement Fellows – clinical leaders with expertise in facilitating continuous improvement and culture change at the frontline of practice.

The programme is delivered over 12 months and enables Fellows to develop their skills as facilitators, explore and enable the use of effective strategies for creating person-centred workplace cultures and to promote/lead continuous improvement practices from within their teams. They will also refine their facilitation and problem solving skills, promote reflective practice and will share the outcomes of their learning across the organisation to help develop best practice.

Commenting on their achievement Mandy Rayani, Director of Nursing, Quality and Patient Experience said “Helen and Sian were up against some pretty tough competition to be accepted onto the programme so we were delighted to hear that they had each been given a place. FoNS were looking for enthusiastic practitioners leading nursing and/or care teams at the frontline of clinical care who have a desire to create a more person centred, safe, caring and effective workplace cultures for patients/residents and staff and Helen and Sian fitted the profile perfectly.

“We look forward to them bringing back to workplace what they have learnt, sharing it with colleagues and ultimately introducing positive culture changes and processes of continuous improvement.”

Dau aelod o staff nyrsio Hywel Dda wedi eu derbyn ar Raglen Ysbrydoli Gwelliant y Sefydliad Astudiaethau Nyrsio

Mae Hywel Dda yn falch iawn o gyhoeddi bod dau aelod o’n staff nyrsio sef Helen Furneaux, Arweinydd Tîm Ymwelwyr Iechyd a Sian Perry Uwch Brif Nyrs Gofal Ambiwladol Paediatreg, wedi’u derbyn i’r rhaglen fawreddog Ysbrydoli Gwelliant y Sefydliad Astudiaethau Nyrsio (FoNS).

Mae Ysbrydoli Gwelliant yn rhaglen newydd gyffrous, a gefnogir gan Ymddiriedolaeth Burdett dros Nyrsio, sy’n anelu at ddatblygu cymuned o Gymrodyr Gwelliant FoNS – arweinwyr clinigol gydag arbenigedd mewn hwyluso gwelliant parhaus a newid diwylliant ar flaen y gad.

Cyflwynir y rhaglen dros 12 mis ac mae’n galluogi Cymrodyr i ddatblygu eu sgiliau fel hwyluswyr, i archwilio a galluogi defnydd o strategaethau effeithiol ar gyfer creu diwylliannau yn y gweithle sy’n canolbwyntio ar y person ac i hyrwyddo / arwain ar arferion gwelliant parhaus o fewn eu timau. Byddant hefyd yn mireinio eu sgiliau hwyluso a datrys problemau, yn hyrwyddo ymarfer myfyriol a byddant yn rhannu deilliannau eu dysgu ar draws y sefydliad i helpu i ddatblygu arfer gorau.

Wrth sôn am eu cyflawniad, meddai Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf: “Roedd Helen a Sian yn wynebu cystadleuaeth anodd i’w derbyn ar y rhaglen felly roeddem wrth ein bodd yn clywed eu bod wedi cael lle. Roedd FoNS yn chwilio am ymarferwyr brwdfrydig sy’n arwain timau nyrsio a / neu ofal sydd ar flaen y gad o ran gofal clinigol a chanddynt ddymuniad i greu diwylliannau yn y gweithle sy’n fwy diogel, gofalgar ac effeithiol i gleifion / trigolion a staff, ac mae Helen a Sian yn ateb hyn i’r dim.

“Rydym yn edrych ymlaen iddynt ddod nôl â’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu i’r gweithle, ei rannu gyda chydweithwyr ac, yn y pen draw, cyflwyno newidiadau diwylliannol cadarnhaol a phrosesau gwelliant parhaus.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle