Scarlets v Stade Rochelais

0
749

SCARLETS fans are being encouraged to make travel plans in preparation for this Friday’s quarter final match versus Stade Rochelais. This Friday will see Parc y Scarlets host its first ever European Rugby Champions Cup quarter final with a record attendance of nearly 15,500 rugby fans. The game versus Stade Rochelais will be played to a sold out stadium bringing with it an increase in traffic. Three park and rides have been put in place – Festival Fields, Schaeffler (UK) Ltd and Technium Dafen. People are being encouraged to make use of these park and ride facilities to help alleviate traffic build up around the stadium. People are also being asked to show consideration to residents living near the stadium and the emergency services when parking their cars. Leader of Carmarthenshire County Council, Cllr Emlyn Dole said: “We’re expecting thousands of fans to visit Carmarthenshire to enjoy not only the rugby but the fantastic croeso that Carmarthenshire and Llanelli will offer. This is an important sell-out match which will create a fantastic atmosphere at Parc y Scarlets, the third time this season to draw crowds of this number. It is providing a big boost to the local economy with hotels and guest houses booked up. No doubt restaurants, pubs and retailers will benefit too. I’m sure many French visitors will make a weekend of it and explore the county’s coast, countryside and local attractions – but of course we hope the better side wins – West is Best!”

  • Follow @OfficialScarlets on Facebook and @scarlets_rugby on Twitter for up to date information.

 

Scarlets v Stade Rochelais

 

CAIFF cefnogwyr y Scarlets eu hannog i wneud eu cynlluniau teithio yn barod ar gyfer y gêm gogynderfynol a gynhelir ddydd Gwener yn erbyn Stade Rochelais. Dyma’r tro cyntaf i gêm gogynderfynol Cwpan Pencampwriaeth Rygbi Ewrop gael ei chynnal ym Mharc y Scarlets, a disgwylir y bydd bron i 15,500 o gefnogwyr rygbi yn bresennol yno ddydd Gwener sydd yn ffigwr mwy nag erioed o’r blaen. Bydd y gêm yn erbyn Stade Rochelais yn cael ei chwarae gerbron stadiwm lawn, ac felly bydd hyn yn arwain at gynnydd mewn traffig. Rhoddwyd trefniadau ar waith ar gyfer tri safle parcio a theithio – y Meysydd Gŵyl, Schaeffler (UK) Ltd a Technium Dafen. Caiff pobl eu hannog i ddefnyddio’r cyfleusterau parcio a theithio hyn i helpu i ysgafnhau’r traffig trwm o amgylch y stadiwm. Gofynnir hefyd i bobl fod yn ystyriol o’r trigolion sy’n byw gerllaw’r stadiwm a’r gwasanaethau brys wrth barcio eu ceir. Meddai’r Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: “Rydym yn disgwyl y bydd miloedd o gefnogwyr yn ymweld â Sir Gaerfyrddin, nid yn unig i fwynhau’r rygbi ond hefyd i brofi’r croeso cynnes a fydd yn cael ei gynnig gan Sir Gaerfyrddin a Llanelli. Mae hon yn gêm bwysig; mae’r holl docynnau wedi’u gwerthu a bydd yn creu awyrgylch gwych ym Mharc y Scarlets, sef y trydydd tro y tymor hwn i dyrfaoedd mawr o’r maint hwn gael eu denu yno. Mae’n rhoi hwb mawr i’r economi leol ac mae’r gwestai’n llawn. Does dim dwywaith y bydd bwytai, tafarnau ac adwerthwyr ar eu hennill hefyd. Rwyf yn siŵr y bydd llawer o ymwelwyr o Ffrainc yn treulio’r penwythnos llawn yma ac yn archwilio’r hyn sydd gan y sir i’w gynnig, yn arfordir, cefn gwlad ac atyniadau lleol – ond wrth gwrs rydym yn gobeithio y bydd yr ochr orau’n ennill – West is Best!”

  • Dilynwch @OfficialScarlets ar Facebook a @scarlets_rugby ar Twitter i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

 

 

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle