Parc Howard Collaboration Group | Grŵp Cydweithredu Parc Howard

0
947
Llun/pic: Parc Howard Collaboration Group

Parc Howard Collaboration Group

 

CARMARTHENSHIRE County Council and Llanelli Town Council have established a joint Committee to oversee joint management of Parc Howard and the Museum.

The Parc Howard Collaboration Group is made up of four councillors from each organisation and follows a decision by Llanelli Town Council to fund 50 per cent of the county council’s running costs of the facilities from April 1, 2018.

Establishment of the new group follows discussions in a series of meetings over recent months involving representatives of both councils to consider how joint working arrangements can be taken forward to maintain and improve the park.

Previous proposals for the park will be explored, as well as new ideas to secure its long-term future under public ownership.

The park and museum will continue to be managed and maintained by Carmarthenshire County Council on behalf of the people of Llanelli and the wider area, with support from the Town Council.

The Parc Howard Collaboration Group will also continue to work alongside The Park Howard Association, The Friends of Llanelli Museum and Llanelli Community Heritage.

Cllr Peter Hughes Griffiths, county executive board member for culture, sport and tourism, said: “I welcome the formal partnership arrangement with Llanelli Town Council, which will further reinforce our commitment to this important facility for Llanelli.”

Llanelli Town Council Leader, Cllr Shahana Najmi, and Mayor, Cllr Jeff Edmunds, said: “We are keen to help fund the management of Parc Howard, which will help to ensure further improvements to the facility. In time, this may pave the way for full management of the facility by the town council. In the meantime we look forward to working in partnership with the county council.”

 

Further background for Editors:

In 2014 the County Council sought expressions of interest from local councils or groups to take over management of parks and playgrounds as part of a county-wide asset transfer programme. No expressions of interest were received for Parc Howard and the park was taken off the list of assets available for transfer.

During 2016 and 2017, the leader of the county council, Cllr Emlyn Dole, led a series of meetings with a range of interested parties to brainstorm ideas for improvements, including discussions with Parc Howard Association, Friends of Llanelli Museum, Llanelli Community Heritage and Llanelli Town Council.

The county council has since invested in new play equipment and has sought planning permission for a car park to encourage more visitors. Discussions are also ongoing following a call for expression of interest in sensitive commercialisation of the mansion house, in conjunction with enhanced museum use.

Grŵp Cydweithredu Parc Howard

 

MAE Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Llanelli wedi sefydlu Cyd-bwyllgor i oruchwylio’r gwaith o ran rheoli Parc Howard a’r Amgueddfa ar y cyd.

Mae Grŵp Cydweithredu Parc Howard yn cynnwys 4 Cynghorydd o bob sefydliad ac mae’n dilyn penderfyniad gan Gyngor Tref Llanelli i ariannu 50% o gostau’r cyngor sir o ran cynnal y cyfleusterau o 1 Ebrill 2018.

Sefydlwyd y grŵp newydd yn dilyn trafodaethau mewn cyfres o gyfarfodydd dros y misoedd diwethaf yn cynnwys cynrychiolwyr o’r ddau gyngor i ystyried sut y gellir bwrw ati â threfniadau cydweithio er mwyn cynnal a gwella’r parc.

Rhoddir sylw i gynigion blaenorol ar gyfer y parc, yn ogystal â syniadau newydd i sicrhau ei ddyfodol yn y tymor hir o dan berchenogaeth y cyhoedd.

Bydd y parc a’r amgueddfa yn parhau i gael eu rheoli a’u cynnal gan Gyngor Sir Caerfyrddin ar ran pobl Llanelli a’r ardal ehangach, gyda chymorth gan y cyngor tref.

Bydd Grŵp Cydweithredu Parc Howard hefyd yn parhau i weithio ochr yn ochr â  Chymdeithas Parc Howard, Cyfeillion Amgueddfa Llanelli a Threftadaeth Gymunedol Llanelli.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Rwy’n croesawu’r trefniant ar gyfer partneriaeth ffurfiol â Chyngor Tref Llanelli, a fydd yn atgyfnerthu ymhellach ein hymrwymiad i’r cyfleuster pwysig hwn ar gyfer Llanelli.”

Dywedodd Arweinydd (y Cynghorydd Shahana Najmi) a Maer (y Cynghorydd Jeff Edmunds) Cyngor Tref Llanelli: “Rydym yn awyddus i helpu i ariannu’r gwaith o reoli Parc Howard, a fydd yn helpu i sicrhau bod rhagor o welliannau’n cael eu gwneud i’r cyfleuster. Ymhen amser, efallai y bydd hyn yn paratoi’r ffordd ar gyfer sefyllfa lle gwelir y cyngor tref yn rheoli’r cyfleuster yn llawn. Yn y cyfamser, rwy’n edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth â’r cyngor sir.”

 

Rhagor o gefndir i Olygyddion:

Yn 2014 gofynnodd y cyngor sir am ddatganiadau o ddiddordeb gan grwpiau neu gynghorau lleol mewn rheoli parciau a meysydd chwarae fel rhan o raglen trosglwyddo asedau ledled y sir. Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb ar gyfer Parc Howard a thynnwyd y parc oddi ar y rhestr o’r asedau oedd ar gael i’w trosglwyddo.

Yn ystod 2016 a 2017, bu Arweinydd y cyngor sir, y Cynghorydd Emlyn Dole, yn arwain cyfres o gyfarfodydd ag amryw o bartïon â diddordeb er mwyn casglu syniadau ar gyfer gwelliannau, gan gynnwys trafodaethau â Chymdeithas Parc Howard, Cyfeillion Amgueddfa Llanelli, Treftadaeth Gymunedol Llanelli a Chyngor Tref Llanelli.

Ers hynny mae’r cyngor sir wedi buddsoddi mewn offer chwarae newydd ac wedi ceisio caniatâd cynllunio ar gyfer maes parcio i ddenu rhagor o ymwelwyr. Hefyd mae trafodaethau’n parhau yn dilyn galw am fynegiannau o ddiddordeb o ran masnacheiddio’r plasty mewn modd sensitif, ar y cyd â gwneud gwell defnydd o’r amgueddfa.

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle