Burry Port Harbour in hands of The Marine Group | Rhoi Harbwr Porth Tywyn yn nwylo’r Marine Group

0
847
Pic: Representatives of Carmarthenshire County Council and The Marine Group at Burry Port Harbour

Burry Port Harbour in hands of The Marine Group

 

BURRY Port Harbour is now in the safe hands of marina specialists to undergo investment and improvement as part of plans to create a world-class facility for boat owners and tourists.

The Marine Group is now on site, having been granted a long-term lease from Carmarthenshire County Council.

Leasing the harbour to experienced marina specialists is part of the council’s plan to ensure its long-term sustainability, and forms part of its wider regeneration masterplan for Burry Port.

The Marine Group has existing marinas in Cardiff, Aberystwyth and Port Dinorwic and has plans to develop the harbour with modern berthing facilities and initiatives to attract more users and visitors.

Plans are also in the pipeline to convert and extend the existing RNLI building, once the new lifeboat base is complete, to provide a new marina management office, with changing rooms and a café and restaurant unit.

Director Christopher Odling-Smee said: “We are delighted to be partnering with Carmarthenshire Council to realise the full potential of Burry Port Harbour. The marina will benefit from substantial focus and investment which will, in time, position it as a premier destination for boaters and non-boaters alike. We are proud to be associated with Burry Port.”

The long-term arrangement is set to create a financial return to the authority with a guaranteed revenue stream.

The council’s executive board member for leisure, Cllr Peter Hughes Griffiths, said: “We only want the best for Burry Port Harbour, and this move has put it in to the very safe hands of a company with lots of experience and resources to make a real difference. We look forward to seeing developments take shape, and of course the start of a wider positive impact for residents of Burry Port and the wider area who will benefit from this investment.”

 

Rhoi Harbwr Porth Tywyn yn nwylo’r Marine Group

 

MAE Harbwr Porth Tywyn bellach wedi’i roi yn nwylo diogel cwmni sy’n arbenigo mewn marinas er mwyn hwyluso’r gwaith o fuddsoddi yn yr harbwr a’i wella, a hynny fel rhan o gynlluniau i greu cyfleuster o safon ryngwladol ar gyfer perchnogion cychod ac ymwelwyr.

Mae’r Marine Group bellach ar y safle ar ôl cael prydles hirdymor gan Gyngor Sir Caerfyrddin.

Mae rhoi’r harbwr ar brydles i arbenigwyr ym maes marinas yn rhan o gynllun y Cyngor i sicrhau bod yr harbwr yn gynaliadwy yn yr hirdymor, ac yn rhan o brif gynllun ehangach y Cyngor i adfywio Porth Tywyn.

Mae’r Marine Group eisoes yn rhedeg marinas yng Nghaerdydd, Aberystwyth a’r Felinheli ac mae ganddo gynlluniau i ddatblygu’r harbwr gyda chyfleusterau angori modern er mwyn denu mwy o ddefnyddwyr ac ymwelwyr.

Mae cynlluniau eisoes ar y gweill i addasu a helaethu adeilad presennol yr RNLI unwaith y bydd canolfan newydd y bad achub wedi ei chwblhau, a hynny er mwyn darparu swyddfa reoli newydd i’r marina ynghyd ag ystafelloedd newid, caffi a bwyty.

Dywedodd Christopher Odling-Smee, Cyfarwyddwr: “Mae’n bleser o’r mwyaf cael cydweithio â Chyngor Sir Caerfyrddin i wireddu potensial llawn Harbwr Porth Tywyn. Bydd y marina yn elwa ar y sylw a’r buddsoddiad sylweddol a fydd, maes o law, yn sicrhau ei fod yn gyrchfan o’r radd flaenaf i’r rheiny sy’n hwylio ac ymwelwyr eraill hefyd.  Rydym yn falch o gael ein cysylltu â Phorth Tywyn.”

Mae disgwyl i’r trefniant hirdymor ddod ag elw ariannol i’r awdurdod a gwarantu ffrwd refeniw.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Hamdden: “Rydym am y gorau ar gyfer Harbwr Porth Tywyn ac mae’r cam hwn wedi rhoi’r harbwr yn nwylo diogel iawn cwmni sydd â phrofiad ac adnoddau lu ac a fydd yn gallu gwneud gwahaniaeth go iawn. Edrychwn ymlaen at weld y datblygiadau’n mynd rhagddynt ac at weld yr effaith gadarnhaol ehangach ar drigolion Porth Tywyn a’r ardal, a fydd yn elwa o’r buddsoddiad hwn.”

 

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle