Major funding boost for transport and road safety
CARMARTHENSHIRE County Council has been awarded £2.8million by the Welsh Government to spend on improving highways, transport infrastructure and road safety schemes.
Amongst the projects to benefit from the funding will be phase two of the Cross Hands Economic Link Road, a new roundabout at Ammanford’s Tirydail Lane intersection, and ‘active travel’ projects which focus on linked walking and cycling routes across the county.
Money will also be spent on improving the safety of routes in communities in the west of Llanelli and Newcastle Emlyn, designed to encourage walking and cycling, particularly to schools.
As part of the aim to reduce casualties on our roads, significant funding has been allocated to support schemes and projects that improve highway safety along the C2130 Capel Hendre to Ammanford road, the B4312 Johnstown to Llansteffan road, and the B4302 Llandeilo to Crugybar road.
Road safety schemes including training courses to support motorbikers, new and young drivers, and cyclists, as well as school-based road safety sessions have also been funded.
Cllr Hazel Evans, executive board member for environment, said: “We welcome this significant funding from the Welsh Government which will be put to good use improving our transport network and road safety.
“As well as making our highways better and safer for drivers, cyclists, and pedestrians, the schemes benefitting from this investment will open up new opportunities for Carmarthenshire’s business and tourism economies. It’s fantastic news.”
Hwb ariannol mawr i drafnidiaeth a diogelwch ffyrdd
MAE Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cael £2.8 miliwn gan Lywodraeth Cymru i’w wario ar wella priffyrdd, seilwaith trafnidiaeth a chynlluniau diogelwch ffyrdd.
Mae’r prosiectau fydd yn elwa o’r arian yn cynnwys cam dau Ffordd Gyswllt Economaidd Cross Hands, cylchfan newydd wrth groesffordd Lôn Tir-y-dail, Rhydaman, a phrosiectau ‘teithio llesol’ sy’n canolbwyntio ar lwybrau cerdded a beicio cysylltiedig ledled y sir.
Hefyd caiff arian ei wario ar wella diogelwch llwybrau mewn cymunedau yng ngorllewin Llanelli a Chastellnewydd Emlyn, gyda’r nod o hybu cerdded a beicio, yn enwedig i ysgolion.
Fel rhan o’r nod o leihau nifer y bobl sy’n cael eu lladd neu eu hanafu ar ein ffyrdd, mae swm sylweddol o arian wedi’i ddyrannu i gefnogi cynlluniau a phrosiectau sy’n gwella diogelwch ffyrdd ar hyd yr C2130, rhwng Capel Hendre a Rhydaman, y B4312, rhwng Tre Ioan a Llansteffan, a’r B4302, rhwng Llandeilo a Chrug-y-bar.
Mae arian hefyd wedi cael ei roi i gynlluniau diogelwch ffyrdd gan gynnwys cyrsiau hyfforddant i gefnogi beicwyr modur, gyrwyr ifanc a newydd, a beicwyr, yn ogystal â sesiynau diogelwch ffyrdd mewn ysgolion.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, sef yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Rydym yn croesawu’r cyllid sylweddol hwn gan Lywodraeth Cymru a gaiff ei ddefnyddio i wella ein rhwydwaith trafnidiaeth a diogelwch ffyrdd.
“Yn ogystal â sicrhau bod ein priffyrdd yn well ac yn fwy diogel i yrwyr, beicwyr a cherddwyr, bydd y cynlluniau sy’n elwa o’r buddsoddiad hwn yn agor cyfleoedd newydd ar gyfer economïau busnes a thwristiaeth Sir Gaerfyrddin. Mae’n newyddion gwych.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle