Hanfod Cymru yn cyhoeddi ei fod am ddod i ben / Hanfod Cymru announces it is to come to an end

0
587

Hanfod Cymru announces it is to come to an end in Summer 2019

The Board of Hanfod Cymru, the grant-distribution charity, has announced that it will come to an end in summer 2019 – despite its remarkable success in distributing grants worth £120,000 to 52 charities since its launch in April 2017. This decision is directly linked to the Loteri Cymru Board’s decision to place the company in the hands of administrators on 27th March after 11 months of trading.

Although Hanfod Cymru is an entirely independent charity and company, Loteri Cymru was Hanfod Cymru’s sole source of funding, enabling it to distribute grants. The Hanfod Cymru Board has been part of the negotiations to find a new buyer for Loteri Cymru but it came to the view last week that the levels of grants it would be able to distribute across Wales, with Loteri Cymru in the hands of a new operator, would not fully support its charitable objectives – distributing grants to make a real difference to grass-roots charities in Wales’ communities.

Deris Williams, Chair of Hanfod Cymru said:

“The past year, since Hanfod Cymru was launched, has been remarkably successful. We have made a real difference to charities at grassroots level across the whole of Wales. We have also been very fortunate to have had such excellent staff members to drive the success of the charity forwards, and it is a matter of huge regret to the Hanfod Cymru Board that we will now need to make the staff redundant. Siôn Brynach, the Chief Executive and Angharad Gaylard, the Grants Administration Officer, will leave their posts at the end of May this year.

“The Hanfod Cymru Board’s intention is now to fulfil its statutory obligations, and to take whatever steps necessary to wind up the charity. We expect to be able to do this by summer 2019.”

Deris continued, saying:

“Hanfod Cymru has made a real difference to the funding landscape in Wales during the past year. In addition, the staff have been pioneering in the area of publicity and PR, releasing a new video each week on the Hanfod Cymru website and through social media to not only gain publicity for Hanfod Cymru itself, but also those charities that have received grants from us.

“It is a matter of great pride to the Board and Staff that we have managed to raise our profile so effectively in such a short period of time, and it is hugely disappointing that now have to bring this fantastic activity to an end.

“Although we will distribute no further grants, we will be bringing the charity to a close with a truly striking record of having been able to help 52 charities across Wales giving each a share of grants worth £120,000 which have made a real difference to people in communities across Wales.”

Hanfod Cymru yn cyhoeddi ei fod am ddod i ben yn ystod Haf 2019

Mae Bwrdd Hanfod Cymru, yr elusen ddyrannu grantiau, wedi cyhoeddi ei fod am ddod i ben yn ystod haf 2019 – er gwaetha ei lwyddiant ysgubol yn dyrannu grantiau gwerth £120,000 i 52 o elusennau yn y cyfnod ers ei lansio ym mis Ebrill 2017. Mae’r penderfyniad hwn yn uniongyrchol gysylltiedig â phenderfyniad Bwrdd Loteri Cymru i roi’r cwmni hwnnw yn nwylo’r gweinyddwyr ar 27ain Mawrth ar  ôl 11 mis o fasnachu.

Er bod Hanfod Cymru yn elusen ac yn gwmni cwbl annibynnol, Loteri Cymru oedd unig ffynhonnell ariannol Hanfod Cymru i’w alluogi i ddosbarthu grantiau. Mae Bwrdd Hanfod Cymru wedi bod yn rhan o’r trafodaethau i geisio dod o hyd i brynwr newydd ar gyfer Loteri Cymru ond daeth y Bwrdd i’r farn wythnos diwethaf, gyda Loteri Cymru yn nwylo gweithredwr newydd, na fuasai Hanfod Cymru yn medru dosbarthu grantiau ar lefel ddigonol i fedru bodloni amcanion canolog yr elusen, sef gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i elusennau ar lawr gwlad cymunedau Cymru.

Dywedodd Deris Williams, Cadeirydd Hanfod Cymru:

“Mae’r flwyddyn ddiwethaf ers lansio Hanfod Cymru, wedi bod yn un lwyddiannus tu hwnt. Rydym wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i elusennau ar lawr gwlad ar draws Cymru. Rydym wedi bod yn ffodus tu hwnt hefyd o fod wedi cael aelodau nodedig o staff i yrru’r elusen ymlaen ac mae’n fater o dor-calon i fwrdd Hanfod Cymru ein bod yn awr angen gwneud y staff yn ddi-waith. Bydd Siôn Brynach, y Prif Weithredwr ac Angharad Gaylard, y Swyddog Gweinyddu Grantiau, yn gadael eu swyddi ar ddiwedd Mai eleni.

“Bwriad Bwrdd Hanfod Cymru bellach yw bodloni’r gofynion statudol sydd arnom, a chymryd y camau sydd eu hangen i ddod â’r elusen i ben. Disgwyliwn fedru gwneud hynny erbyn haf 2019.”

Aeth Deris yn ei blaen gan ddweud:

“Mae Hanfod Cymru wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r tirwedd ariannu yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf. Yn ogystal mae’r staff wedi arloesi ym maes cyhoeddusrwydd gan gyhoeddi fideo ar wefan Hanfod Cymru a thrwy’r cyfryngau cymdeithasol yn wythnosol er mwyn tynnu sylw nid yn unig at Hanfod ei hun, ond hefyd at yr elusennau sydd wedi derbyn grantiau gennym.

“Mae’n fater o falchder i’r Bwrdd ac i’r Staff ein bod wedi llwyddo i godi proffil yr elusen mor effeithiol mewn amser mor fyr, ac yn siomedig tu hwnt bod angen yn awr i ni ddod â’r gweithgarwch nodedig hwn i ben.

“Er na fyddwn yn medru dosbarthu unrhyw grantiau pellach, byddwn yn dod â’r elusen i ben gyda record gwirioneddol drawiadol o fod wedi cynorthwyo 52 o elusennau led-led Cymru trwy ddosbarthu grantiau gwerth £120,000 i wneud gwahaniaeth go iawn i bobl ar lawr gwlad.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle