Interest in Carmarthen Food Assembly grows | Diddordeb yng Nghynulliad Bwyd Caerfyrddin yn tyfu

0
641
Pic: Carmarthen Food Assembly members with Carmarthenshire County Council chief executive Mark James, at The Warren in Carmarthen.

Interest in Carmarthen Food Assembly grows

 

MORE and more people in Carmarthen are ditching the supermarket trolley and buying fresh food directly from local producers.

The Carmarthen Food Assembly – an online platform that allows a direct link between customers and producers – continues to grow from strength to strength, helping people have more control about what ends up on their plates whilst supporting local businesses.

This week the assembly celebrated its first anniversary, and now boasts 700 customers and 20 producers, with fruit, vegetables, meat, dairy and baked goods sold and collected weekly.

Customers order their goods through an online platform, giving producers special requests if required, before picking it up on collection day at Carmarthen’s Xcel in Johnstown, or The Warren in Mansel Street.

As well as supporting the local economy the assembly also has health and environmental benefits – customers can find out exactly what has gone in to their food, and carbon footprint is also reduced with food travelling an average distance of 28 miles to the pick-up point compared to around 600 miles to a supermarket.

It also reduces waste as nothing gets picked or baked unless it is ordered.

Organiser Carrie Laxton is a retired GP who saw the benefits of a food assembly and decided to set one up in Carmarthen, with the support of Carmarthenshire County Council.

“Local producers are struggling to make a living, and this is an ideal way of supporting them,” she said.

“We have anywhere between 12 and 18 producers most weeks who set up a mini market at our collection points to meet their customers and hand over the pre-ordered goods. It makes good local food more accessible to local people as well as supporting local producers.”

Cllr Cefin Campbell, Carmarthenshire County Council’s executive board member for rural affairs, said: “This is a fantastic way to support the local economy and local producers. Rural industries continue to struggle but as consumers become more conscious of what they eat we hope that they will return back to the more traditional shopping route which is to buy from local farmers, bakers and butchers.

“The food assembly helps link customers and producers and bringing in the modern element of online orders it is working well for a growing number of people.”

Anyone can register to become a customer of the food assembly, and food producers in around the Carmarthen area are encouraged to find out how they can become involved.

Find information at www.foodassembly.com

 

Diddordeb yng Nghynulliad Bwyd Caerfyrddin yn tyfu

 

MAE mwy a mwy o bobl yng Nghaerfyrddin yn rhoi’r gorau i’r archfarchnad ac yn prynu bwyd ffres yn uniongyrchol gan gynhyrchwyr lleol.

Mae Cynulliad Bwyd Caerfyrddin – platfform ar-lein sy’n galluogi cyswllt uniongyrchol rhwng y cwsmeriaid a’r cynhyrchwyr – yn parhau i fynd o nerth i nerth, gan helpu pobl i gael mwy o reolaeth ar yr hyn sydd ar eu platiau yn ogystal â chefnogi busnesau lleol.

Bu’r Cynulliad yn dathlu ei ben-blwydd cyntaf yr wythnos hon. Erbyn hyn, mae ganddo 700 o gwsmeriaid ac 20 o gynhyrchwyr ac mae ffrwythau, llysiau, cig, cynhyrchion llaeth a nwyddau wedi’u pobi yn cael eu gwerthu a’u casglu bob wythnos.

Mae’r cwsmeriaid yn archebu eu nwyddau drwy ddefnyddio’r platfform ar-lein, gan roi ceisiadau arbennig i’r cynhyrchwyr os oes angen, cyn iddynt gasglu’r nwyddau ar y diwrnod casglu yn Xcel yn Nhre Ioan, Caerfyrddin, neu The Warren yn Heol Mansel, Caerfyrddin.

Yn ogystal â chefnogi’r economi leol, mae’r Cynulliad hefyd yn rhoi manteision o ran iechyd a’r amgylchedd – gall cwsmeriaid gael gwybod yn union beth sydd yn eu bwyd, ac mae’r Ă´l-troed carbon yn llai hefyd gan fod y bwyd yn teithio pellter o 28 milltir i’r pwynt casglu ar gyfartaledd, o’i gymharu â thua 600 o filltiroedd i’r archfarchnad.

Mae hefyd yn lleihau gwastraff gan nad oes unrhyw beth yn cael ei gasglu na’i bobi oni bai bod cwsmer yn ei archebu.

Mae’r trefnydd, Carrie Laxton, yn feddyg teulu sydd wedi ymddeol. Gwelodd fuddion Cynulliad Bwyd a phenderfynodd ei sefydlu yng Nghaerfyrddin gyda chymorth Cyngor Sir Caerfyrddin.

“Mae cynhyrchwyr lleol yn brwydro i gael bywoliaeth, ac mae hon yn ffordd ddelfrydol o’u cefnogi,” meddai.

“Mae gennym rhwng 12 a 18 o gynhyrchwyr y rhan fwyaf o’r wythnosau sy’n gosod marchnad fach yn ein mannau casglu er mwyn cwrdd â’u cwsmeriaid a dosbarthu’r nwyddau y maent wedi’u harchebu ymlaen llaw. Mae’n sicrhau bod bwyd lleol da yn fwy hygyrch i bobl leol yn ogystal â chefnogi cynhyrchwyr lleol.”

Dywedodd Cefin Campbell, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin dros Faterion Gwledig: “Mae hon yn ffordd wych o gefnogi’r economi leol a chynhyrchwyr lleol. Mae diwydiannau gwledig yn parhau i gael anhawster ond wrth i gwsmeriaid ddod yn fwy ymwybodol o’r hyn y maent yn ei fwyta, gobeithiwn y byddant yn mynd yn Ă´l i’r ffordd fwy traddodiadol o siopa, sef prynu gan ffermwyr, pobwyr a chigyddion lleol.

“Mae’r Cynulliad Bwyd yn helpu i gysylltu’r cwsmeriaid â’r cynhyrchwyr a thrwy ddod â’r elfen fodern o archebu ar-lein, mae’n gweithio’n dda ar gyfer nifer gynyddol o bobl.”

Gall unrhyw un gofrestru i fod yn un o gwsmeriaid y Cynulliad Bwyd, ac anogir cynhyrchwyr bwyd o gwmpas ardal Caerfyrddin i gael gwybod sut y gallant gymryd rhan.

Rhagor o wybodaeth yn www.foodassembly.com


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle