Pembrey Country Park steps back in time/Parc Gwledig Pen-bre yn camu’n ôl i’r gorffennol

0
670

Pembrey Country Park steps back in time

Pembrey Country Park will travel back in time to World War I over the May bank holiday.

Thousands of visitors are expected to turn out to see infantry, cavalry, medical services, munitionettes, period police officers and civilians from that era interacting with each other.

A WWI field hospital will be staged, complete with medical equipment.

The two-day event on Sunday and Monday, May 6 and 7 promises to be bigger and better than last year and gives visitors an insight into what it was like living during that period.

Visitors will also be able to meet the Yeomanry and their mounts, be instructed on the use of arms and equipment and learn about the shady activities of the members of ‘La Dame Blanche’ (The White Lady).

A mix of living history and talks will be delivered by historians, experts and authors on the fighting at Mametz and the engineering projects built by conscientious objectors as well as the general history of Pembrey munitions factory.

Dyfed Archaelogical Trust will also be there to provide information on the history of the park. Entry to the event is free. Usual car parking charges apply.

Parc Gwledig Pen-bre yn camu’n ôl i’r gorffennol

Bydd Parc Gwledig Pen-bre yn camu’n ôl i’r gorffennol i gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf dros Ŵyl Banc Calan Mai.

Disgwylir i filoedd o ymwelwyr ddod i weld troedfilwyr, marchfilwyr, gwasanaethau meddygol, merched y ffatrïoedd arfau, plismyn y cyfnod a phobl gyffredin o’r cyfnod hwnnw yn rhyngweithio â’i gilydd.

Bydd ysbyty maes ffug o gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf yn cael ei godi yn y parc a fydd yn cynnwys offer meddygol.

Mae’r digwyddiad hwn, sy’n para am ddau ddiwrnod, sef dydd Sul, 6 Mai a dydd Llun, 7 Mai, yn argoeli i fod yn fwy ac yn well na’r digwyddiad y llynedd, ac mae’n rhoi cipolwg i ymwelwyr ar sut brofiad oedd byw yn ystod y cyfnod hwnnw.

Yn ogystal, bydd ymwelwyr yn gallu cwrdd â’r Iwmoniaeth a’u ceffylau, cael cyfarwyddiadau sut i ddefnyddio arfau ac offer a dysgu am weithgareddau amheus aelodau’r ‘La Dame Blanche’ (Y Ddynes Wen).

Bydd cyfuniad o hanes byw a sgyrsiau yn cael eu rhoi gan haneswyr, arbenigwyr ac awduron ynghylch yr ymladd ym Mametz a’r prosiectau peirianegol a adeiladwyd gan wrthwynebwyr cydwybodol, ynghyd â hanes cyffredinol am ffatri arfau Pen-bre.

Bydd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yno hefyd i roi gwybodaeth am hanes y parc. Mae mynediad am ddim i’r digwyddiad. Bydd y taliadau parcio arferol yn berthnasol.

 

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle