We are currently experiencing a shortage of GPs to cover the Out of Hours service in Carmarthenshire this weekend. Efforts are continuing until the last possible moment to fill the shifts affected, which are on Saturday night in Glangwili Hospital, and from Sunday afternoon to Monday morning in Prince Philip Hospital only. We would like to emphasise that this position may improve and in the meantime, there are other services that can help you if you are unwell:
- for health information and advice, including online symptom checkers, please visit NHS Direct Wales: www.nhsdirect.wales.nhs.uk
- call 111 – they can help to signpost you to the right service, for example a GP, nurse, pharmacist or Minor Injury Unit, they also provide health information on a wide range of conditions for self care if appropriate
- attend a minor injury unit, available at Glangwili, Prince Philip Hospital and Llandovery
- use your community pharmacy, some of these have enhanced services like ‘triage and treat’ for treatment of minor conditions
- ONLY in an emergency for serious or life-threatening conditions should you dial 999
Deputy Chief Executive and Director of Operations Joe Teape said: “We have recently seen a significant improvement in staffing the GP Out of Hours rota, however we are unfortunately continuing to experience GP shortages from time to time. I would like to apologise for any concern or inconvenience caused to Carmarthenshire residents this weekend; we know that all of our staff and GPs are working really hard to provide safe services for our patients and we appreciate this.
“The public’s health is our number one priority and although we sometimes cannot achieve everything that we want to achieve, we are doing our utmost to ensure that we can continue to provide services that are safe and robust for our local communities.”
Diweddariad ar gwasanaeth Tu-Allan-i-Oriau Dydd Gwener 27.4.18
Rydym ar hyn o bryd yn profi prinder Meddygon Teulu i gynnal y gwasanaeth Tu Allan i Oriau yn Sir Gaerfyrddin y penwythnos hwn. Bydd ymdrechion yn parhau tan y foment olaf un i lenwi’r sifftiau sydd wedi’u heffeithio, sydd ar nos Sadwrn yn Ysbyty Glangwili, ac o brynhawn dydd Sul tan fore dydd Llun yn Ysbyty Tywysog Philip. Rydym am bwysleisio y gallai’r sefyllfa hon wella yn y cyfamser, ac mae gwasanaethau eraill ar gael i’ch helpu os ydych yn sâl:
- am wybodaeth a chyngor iechyd, yn cynnwys gwiriwr symptomau ar-lein, trowch at Galw Iechyd Cymru: www.galwiechydcymru.wales.nhs.uk
- ffonio 111 – gall y gwasanaeth hwn eich cyfeirio chi at y gwasanaeth cywir, er enghraifft Meddyg Teulu, nyrs, fferyllydd neu Uned Mân Anafiadau, maen nhw hefyd yn darparu gwybodaeth iechyd ar hunan-reoli ystod eang o gyflyrau, os yn briodol
- mynychu uned mân anafiadau, sydd ar gael yn ysbytai Glangwili, Tywysog Philip a Llanymddyfri
- defnyddio eich fferyllfa gymunedol, mae rhai o’r rhain yn cynnwys gwasanaethau ychwanegol fel ‘brysbennu a thrin’ ar gyfer trin mân gyflyrau
- DIM OND mewn argyfwng difrifol neu cyflwr sy’n bygwth bywyd y dylid ffonio 999
Meddai Joe Teape, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Gweithrediadau: “Yn ddiweddar, rydym wedi gweld gwelliant arwyddocaol mewn staffio’r rota Meddygon Teulu Tu Allan i Oriau. Fodd bynnag, yn anffodus, rydym yn parhau i brofi prinder Meddygon Teulu pob hyn a hyn. Dymunaf ymddiheuro am unrhyw bryder neu anghyfleustra a achosir i drigolion Sir Gaerfyrddin y penwythnos hwn; gwyddom bode in staff a Meddygon Teulu yn gweithio’n galed iawn i ddarparu gwasanaethau diogel ar gyfer ein cleifion, ac rydym yn gwerthfawrogi hyn.
“Ein prif flaenoriaeth yw iechyd y cyhoedd ac er nad ydym bob amser yn medru cyflawni popeth y dymunwn eu cyflawni, rydym yn gwneud ein gorau glas i sicrhau y medrwn barhau i ddarparu gwasanaethau sy’n ddiogel ac yn gadarn ar gyfer ein cymunedau lleol.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle