Lammas Street licencing consultation | Ymgynghoriad ynghylch trwyddedu – Heol Awst

0
562

Lammas Street licencing consultation

FEEDBACK is wanted on a possible restrictions on the number of premises selling alcohol and late night takeaways on Lammas Street in Carmarthen.

Responses to a survey now launched by Carmarthenshire Council will help assess the overall impact on the street through what is called a cumulative impact policy.

By guarding against the issuing of new or varied licences to sell alcohol and for late night takeaways within a designated area, cumulative impact policies are aimed at tackling crime and disorder, improving people’s safety and stopping places from becoming public nuisances.

The council survey, which runs until June 1, is asking people whether they think there’s an anti-social behaviour problem on Lammas Street related to alcohol and takeaway premises. If people support the potential introduction of a cumulative impact policy there, they’re also being asked if it should apply to the whole street or just certain parts of it, and what type of premises it should cover.

Cllr Philip Hughes, Carmarthenshire Council’s Executive Board Member for Public Protection, said: “We value the contribution that our takeaways, pubs, clubs, shops and other businesses selling alcohol make to the town’s vibrant night-time economy, but it’s time to explore whether the number of premises of this kind on Lammas Street has reached a saturation point.

“If a cumulative impact policy was introduced at the street in future, then it doesn’t mean licences will be taken away from premises that already sell alcohol there. All it means is that there will be a presumption against the issuing of new or varied licences on Lammas Street to stop the over concentration of premises of this type, which can lead to crime, disorder, anti-social behaviour and public nuisance.

“But no decisions have yet been made. All feedback we receive in response to our survey will help inform a revised licensing policy for Carmarthenshire that will go to Full Council for approval in December, so we’d urge as many people as possible to have their say.”

The survey has already been shared with licence holders and representatives of local residents and businesses. It will also be promoted at meetings being held with trade representatives and representatives of statutory authorities including Dyfed Powys Police.

Head to Carmarthenshire Council’s website to have your say online – www.carmarthenshire.gov.wales

Hard copies of the survey are also available by contacting Emyr Jones from the council’s licensing team on EORJones@carmarthenshire.gov.uk or 01267 228717.

Ymgynghoriad ynghylch trwyddedu – Heol Awst

 

GOFYNNIR am adborth ynghylch cyfyngiadau posibl ar nifer y safleoedd sy’n gwerthu alcohol a llefydd cludfwyd hwyrnos yn Heol Awst, Caerfyrddin.

Bydd ymatebion i arolwg sydd wedi’i lansio gan Gyngor Sir Caerfyrddin yn helpu i asesu’r effaith gyffredinol ar y stryd drwy’r hyn a elwir yn bolisi effaith gronnol.

Trwy beidio â chyflwyno trwyddedau newydd neu amrywiad i werthu alcohol ac ar gyfer llefydd cludfwyd hwyrnos mewn ardal benodol, nod polisïau effaith gronnol yw mynd i’r afael â throsedd ac anhrefn, gwella diogelwch pobl ac atal llefydd rhag bod yn niwsans cyhoeddus.

Mae arolwg y Cyngor, sydd yn weithredol tan 1 Mehefin, yn gofyn i bobl a ydynt yn credu fod problem ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Heol Awst sy’n gysylltiedig ag alcohol a safleoedd cludfwyd. Os yw pobl yn cytuno ar gyflwyno polisi effaith gronnol yno, gofynnir iddynt hefyd a ddylai’r polisi fod yn berthnasol i’r stryd gyfan neu dim ond rhannau penodol ohoni a pha fath o safleoedd dylai eu cynnwys.

Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin dros Ddiogelu’r Cyhoedd: “Rydym yn gwerthfawrogi’r cyfraniad y mae ein siopau cludfwyd, tafarnau, clybiau, siopau a busnesau eraill sy’n gwerthu alcohol yn ei wneud i economi hwyrol fywiog y dref ond mae’n amser ystyried a oes digon o’r safleoedd o’r math hwn yn Heol Awst.

“Petai polisi effaith gronnol yn cael ei gyflwyno yn y stryd yn y dyfodol, nid yw’n golygu y bydd trwyddedau’n cael eu cymryd i ffwrdd o’r safleoedd sydd eisoes yn gwerthu alcohol yno. Y cyfan mae’n ei olygu yw y bydd rhagdybiaeth yn erbyn cyflwyno trwyddedau newydd neu amrywiadau yn Heol Awst i atal gormod o lefydd o’r math hwn, sy’n gallu arwain at droseddau, anhrefn, ymddygiad gwrthgymdeithasol a niwsans cyhoeddus.

“Ond nid oes dim penderfyniadau wedi cael eu gwneud eto. Bydd yr holl adborth sy’n dod i law mewn ymateb i’n harolwg yn helpu i lywio polisi trwyddedu diwygiedig ar gyfer Sir Gaerfyrddin a fydd yn mynd gerbron y Cyngor Llawn i’w gymeradwyo ym mis Rhagfyr felly byddem yn annog cynifer o bobl â phosibl i ddweud eu dweud.”

Eisoes, rhannwyd yr arolwg â deiliaid trwyddedau a phreswylwyr a busnesau lleol. Bydd yr arolwg hefyd yn cael ei hyrwyddo mewn cyfarfodydd a gynhelir â chynrychiolwyr masnach a chynrychiolwyr awdurdodau statudol gan gynnwys Heddlu Dyfed-Powys.

Ewch i wefan Cyngor Sir Caerfyrddin i ddweud eich dweud ar-lein – www.sirgar.llyw.cymru.

Yn ogystal, mae copïau caled o’r arolwg ar gael drwy gysylltu ag Emyr Jones o dîm trwyddedu’r Cyngor: EORJones@sirgar.gov.uk / 01267 228717.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle