Powys County Council adult services must improve following inspection

0
667

Care Inspectorate Wales (CIW) has published its inspection report on Powys County Council’s adult services.

CIW undertook its inspection of Powys’ adult social services in January 2018. The inspection was prompted by concerns raised by people who use services, members of the public, Assembly Members and issues identified during the children’s services inspection in 2017.

 

Findings

  • Inspectors saw evidence some people received good care and support but this was not consistent.
  • Some people faced significant delays in being assessed for care and support and in receiving a service. Significant improvement is required.
  • There was good co-operation between frontline health and social care staff and a range of voluntary sector and community groups.
  • Urgent safeguarding referrals were dealt with swiftly and effectively.
  • There was an unacceptable backlog of safeguarding work at screening and enquiry stages.
  • Inspectors noted the commitment of staff who have shown professionalism whilst coping with many changes and depleted resources.

 

The existence of an Improvement and Assurance Board, which is independently chaired and includes external advisors to secure improvement across social services, and the appointment of a permanent Director of Social Services, should now drive the required improvements and ensure positive outcomes for adults in need of care or support and their carers in Powys.

CIW acknowledged Powys County Council had developed an improvement plan prior to the inspection. Inspectors were pleased to note senior managers accepted the findings and have committed themselves to achieving the necessary improvements.

 

Chief Inspector Gillian Baranski said:

“Although our inspection has identified significant areas for improvement, the local authority has taken positive steps to improve and stabilise the service, including the appointment of a permanent Director of Social Services.

“With the support of the Improvement and Assurance Board, we expect to see swift improvement across social services to ensure positive outcomes for people with care and support needs, their families and carers in Powys.

“We will continue to monitor progress in implementing Powys’ improvement plans for both children’s and now adult services.”

Mae’n rhaid i wasanaethau i oedolion Cyngor Sir Powys wella yn dilyn arolygiad 

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi cyhoeddi ei hadroddiad arolygu ar wasanaethau i oedolion Cyngor Sir Powys.

Cynhaliodd AGC ei harolygiad o wasanaethau cymdeithasol i oedolion Cyngor Sir Powys ym mis Ionawr 2018. Cafodd yr arolygiad ei sbarduno gan bryderon a godwyd gan bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth, aelodau o’r cyhoedd ac Aelodau Cynulliad, ac yn sgil problemau a nodwyd yn ystod yr arolygiad o wasanaethau plant yn ystod 2017.

 

Canfyddiadau

  • Gwelodd arolygwyr dystiolaeth fod rhai pobl yn derbyn gofal a chymorth da, ond nid oedd hyn yn gyson.
  • Roedd rhai pobl yn profi oedi sylweddol o ran cael eu hasesu ar gyfer gofal a chymorth a derbyn gwasanaeth. Mae angen gwneud gwelliannau sylweddol.
  • Roedd staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen yn cydweithio’n dda ag amrediad o grwpiau sector gwirfoddol a grwpiau cymunedol.
  • Roedd atgyfeiriadau diogelu brys yn derbyn sylw’n gyflym ac yn effeithiol.
  • Roedd ôl-groniad annerbyniol o waith diogelu yn ystod y camau sgrinio ac ymholiadau.
  • Nododd arolygwyr ymrwymiad y staff, sydd wedi dangos proffesiynoldeb wrth ymdopi â nifer o newidiadau a phrinder adnoddau.

Bellach dylai bodolaeth Bwrdd Gwella a Sicrwydd, a gaiff ei gadeirio’n annibynnol ac sy’n cynnwys ymgynghorwyr allanol i sicrhau gwelliant ar draws y gwasanaethau cymdeithasol, a phenodiad cyfarwyddwr parhaol i’r gwasanaethau cymdeithasol, yrru’r gwelliannau sydd eu hangen a sicrhau canlyniadau cadarnhaol ar gyfer oedolion sydd angen gofal neu gymorth a’u gofalwyr ym Mhowys.

Gwnaeth AGC gydnabod bod Cyngor Sir Powys wedi datblygu cynllun gwella cyn yr arolygiad. Roedd yr arolygwyr yn falch o nodi bod yr uwch-reolwyr wedi derbyn y canfyddiadau a’u bod wedi ymrwymo i weithredu’r gwelliannau angenrheidiol.

 

Dywedodd y Prif Arolygydd Gillian Baranski:

“Er bod ein harolygiad wedi nodi meysydd sylweddol i’w gwella, mae’r awdurdod lleol wedi cymryd camau cadarnhaol tuag at wella a sefydlogi’r gwasanaeth, gan gynnwys penodi prif weithredwr newydd dros dro a chyfarwyddwr i’r gwasanaethau cymdeithasol.

“Gyda chymorth gan y Bwrdd Gwella a Sicrwydd, rydym yn disgwyl gweld gwelliannau cyflym ar draws y gwasanaethau cymdeithasol, er mwyn sicrhau canlyniadau cadarnhaol ar gyfer pobl sydd ag anghenion gofal a chymorth, eu teuluoedd a’u  gofalwyr ym Mhowys.

“Byddwn yn parhau i fonitro’r  cynnydd wrth weithredu cynlluniau gwella Cyngor Sir Powys ar gyfer gwasanaethau i blant, ac erbyn hyn, gwasanaethau i oedolion.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle