Dog fouling on playing field costs man £230/ Baw cŵn ar faes chwarae yn costio £230 i ddyn

0
697

Dog fouling on playing field costs man £230

 

A LLANELLI man has been ordered to pay more than £200 for not clearing up dog faeces on a children’s playing field.

Lee Stuart Evans, aged 36, of Heol Elfed, pleaded guilty by post to breaching Carmarthenshire County Council’s (Dog Control) Public Spaces Protection Order 2016.

Environmental enforcement officers were on patrol in Llwynhendy on October 27 when they saw a man walking a huskie type dog on Trallwm Playing Fields.

The dog squatted as if to defecate. When the officers walked over to the location, they could see fresh faeces. The man (Evans) walking the dog told officers that he had no bags.

Officers told Evans that he would be issued with a Fixed Penalty Notice (FPN), however due to this being a children’s playing field, the officers gave him bags and asked him to pick up the faeces and put it in the bin, which he did. Evans was made aware that an FPN was still going to be issued as he would not have picked it up had he not been approached by officers.

Evans told officers that he had been working nights and that he didn’t normally walk the dog. He signed to accept the FPN of £100, or £50 if paid within 10 days, however only £10 has since been received by the council despite payment reminders being sent.

Evans was fined £100 by Llanelli magistrates court, and was ordered to pay costs of £100 and victim surcharge of £30.

Executive board member responsible for environmental enforcement, Cllr Philip Hughes, said: “Although the majority of dog owners are responsible and clean up after their pets, unfortunately there are a minority who don’t. Dog faeces left anywhere can be a serious health risk. We are determined to stop the problem of dog fouling in the county and will use our powers to fine anyone who is caught not cleaning up after their dog.”

 

You can report dog fouling by calling Carmarthenshire Direct on 01267 234567 or report it online

Baw cŵn ar faes chwarae yn costio £230 i ddyn

 

GORCHMYNNWYD dyn o Lanelli i dalu mwy na £200 am beidio â chodi baw cŵn ar faes chwarae i blant.

Plediodd Lee Stuart Evans, sy’n 36 oed, o Heol Elfed, yn euog drwy’r post am dorri Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus (Rheoli Cŵn) Cyngor Sir Caerfyrddin 2016.

Roedd swyddogion gorfodi materion amgylcheddol ar batrôl yn Llwynhendy ar 27 Hydref pan welsant ddyn yn cerdded ci, tebyg i hysgi, ar Feysydd Chwarae y Trallwm.

Aeth y ci ar ei gwrcwd fel petai’n baeddu. Pan gerddodd y swyddogion draw i’r lleoliad, gwelsant faw ffres. Dywedodd y dyn (Evans) a oedd yn mynd â’i gi am dro nad oedd ganddo fagiau.

Dywedodd y swyddogion wrth Evans y byddai’n cael Hysbysiad Cosb Benodedig ond gan mai maes chwarae i blant oedd hwn, rhoddodd y swyddogion fagiau iddo a gofynnwyd iddo godi’r baw â’i roi yn y bin ac fe wnaeth hynny. Rhoddwyd gwybod i’r dyn y byddai Hysbysiad Cosb Benodedig yn dal i gael ei chyflwyno iddo oherwydd ni fyddai wedi codi’r baw pe na fyddai’r swyddogion wedi mynd draw ato.

Dywedodd Evans wrth y swyddogion ei fod wedi bod yn gweithio sifft nos ac nad oedd yn arfer mynd â’r ci am dro. Llofnododd ei fod yn derbyn yr Hysbysiad Cosb Benodedig o £100 neu £50 petai’n talu o fewn 10 diwrnod fodd bynnag dim ond £10 sydd wedi dod i law’r Cyngor hyd yn hyn er gwaethaf anfon negeseuon atgoffa am y taliad ato.

Cafodd Evans ddirwy o £100 gan Lys Ynadon Llanelli ynghyd â gorchymyn i dalu £100 tuag at gostau’r erlyniad a gordal dioddefwr o £30.

Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol sy’n gyfrifol am yr Amgylchedd: “Er bod y rhan fwyaf o berchnogion cŵn yn gyfrifol ac yn codi baw eu cŵn, yn anffodus mae lleiafrif o bobl sydd heb. Mae baw ci sy’n cael ei adael yn rhywle yn gallu achosi peryglon iechyd difrifol. Rydym yn benderfynol o roi stop ar y broblem o faw cŵn yn y sir a byddwn yn defnyddio ein pwerau i ddirwyo unrhyw un sy’n cael ei ddal yn methu â chodi baw cŵn.”

 

Gallwch roi gwybod am faw cŵn drwy ffonio Galw Sir Gâr ar 01267 234567 neu roi gwybod ar-lein


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle