Nearly £400 bill for dumping butt/Bil o bron i £400 am ollwng stwmpyn sigarét

0
552

Nearly £500 bill for dumping butt

 A Llanelli woman has to pay nearly £500 for dumping her cigarette butt on railings.

Daisy Marie Beck, of Maes Yr Haf in Pwll, was ordered to pay the fee by Llanelli magistrates after she was caught red handed committing the offence by council enforcement officers.

In a prosecution brought by Carmarthenshire Council, the court was told that the 22-year-old was spotted smoking at Llanelli Bus Station in East Gate on September of last year by patrolling officers. Beck was spotted placing the butt on pedestrian guard railings before walking away towards the Spar Shop.

Officers approached her and issued a fixed penalty notice. Despite reminders no payment was made and the case was then taken to court.

It is an offence to litter and failure to pay could lead to prosecution in the magistrates court where the maximum fine is £2,500.

Beck admitted the offence by post and was fined £120. She must also pay £340.04 costs and £30 victim surcharge.

The councils’ executive board member for public protection, Cllr Philip Hughes said: “A simple act which has proved very costly for this woman could have been avoided if she had placed her butt in the bins provided. There are no excuses for littering and anyone who is caught by our officers committing an offence will be held accountable. Littering blights the landscape and costs the council a lot of money which could be better spent on our front line services.”

 

Bil o bron i £500 am ollwng stwmpyn sigarét

 Mae menyw o Lanelli wedi gorfod talu bron i £500 am ollwng ei stwmpyn sigarét ar reiliau.

Gorchmynnwyd i Daisy Marie Beck, o Faes Yr Haf yn y Pwll, dalu’r ffi gan Lys Ynadon Llanelli ar ôl iddi gael ei dal yn cyflawni’r drosedd gan swyddogion gorfodi y Cyngor.

Mewn erlyniad gan Gyngor Sir Caerfyrddin, dywedwyd wrth y llys y gwelwyd y fenyw, 22 oed yn smygu yng Ngorsaf Fysiau Llanelli ym Mhorth y Dwyrain ym mis Medi’r llynedd gan swyddogion a oedd ar batrôl. Gwelwyd Beck yn rhoi’r stwmpyn ar reiliau diogelwch cyn cerdded i ffwrdd tuag at siop Spar.

Aeth y swyddogion ati a chyflwyno hysbysiad cosb benodedig iddi. Er gwaethaf anfon negeseuon atgoffa ati, ni chafwyd unrhyw daliad ac aeth yr achos i’r llys.

Mae’n drosedd gollwng sbwriel a gallai methu â thalu’r ddirwy arwain at erlyn yr unigolyn yn llys ynadon lle gallai gael dirwy o hyd at £2,500.

Gwnaeth Beck gyfaddef i’r drosedd drwy’r post a chafodd ddirwy o £120. Mae’n rhaid iddi hefyd dalu £340.04 o gostau a gordal dioddefwr o £30.

Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol y Cyngor dros Ddiogelu’r Cyhoedd: “Mae un weithred syml wedi costio’n ddrud i’r fenyw hon ac yn rhywbeth y gellid fod wedi’i osgoi petai hi wedi rhoi’r stwmpyn yn y bin. Nid oes esgus dros ollwng sbwriel a bydd unrhyw un sy’n cael ei ddal yn cyflawni trosedd gan ein swyddogion yn gorfod wynebu’r canlyniadau. Mae gollwng sbwriel yn anharddu’r dirwedd ac yn costio llawer o arian i’r Cyngor – arian y gellid gwneud gwell defnydd ohono ar ein gwasanaethau rheng flaen.”

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle