People in living in Carmarthenshire, Ceredigion and Pembrokeshire could have far fewer operations cancelled if health services were structured in a different way, according to a senior doctor at Hywel Dda University Health Board.
Mr Mark Henwood, Consultant Surgeon and Clinical Director for Scheduled Care at Hywel Dda, said the cancellation rate for planned operations was “far too high” and argued that emergency and planned care needed to be delivered separately.
The health board has officially launched a 12-week consultation, “Hywel Dda – Our Big NHS Change,” which is aimed at making provision of local health and care better for our communities.
We’re asking residents across Carmarthenshire, Ceredigion and Pembrokeshire, as well as the wider cross-border regions, to get involved and have your say on three proposals to improve the way we provide care for our population. Each proposal has been designed and tested by our clinicians to ensure that our services are safe, sustainable, accessible and kind for our generation and those to come.
The health board currently provides both emergency and planned care at all four of its hospitals – but because of the number of people attending A&E departments there is “inevitably” a knock-on effect on planned care, as beds are prioritised for emergency patients, Mr Henwood said.
He added: “Having an operation for a lot of people is a once-in-a-lifetime event, so they might have to make childcare arrangements or get family members to help them, or they may plan to go and stay with family. And then we’re bringing them in to hospital on the day of their operation and we’re having to send them home.
“It’s very stressful and most patients are good about it and do accept it because I think everyone knows it is a possibility, but there is a knock-on effect because that patient still needs to have that operation. So then we might have to move someone else who was booked in to have their operation, possibly on the next available list.
“This has a big impact on patients and their families because of everything they have to do – they may take time off work, they may organise all sorts of things and then we go and stuff it up for them.”
Mr Henwood added: “We are still committed to delivering as much care as close to home as possible – we wouldn’t deliberately make people travel unless they specifically had to. We don’t want to bring patients to hospital unless they really have to come to hospital.
“The whole idea behind this process is to improve patient care. It’s not about saving money, it’s about delivering a more efficient health service because efficiency leads to improvements for patients. If we’re more efficient we can get the right treatments to the right patients at the right time.”
You can find out more about the consultation and the health board’s proposals, or tell us your views, by:
Completing the online questionnaire at: www.hywelddahb.wales.nhs.uk/hddchange
Emailing us at: hyweldda.engagement@wales.nhs.uk
Telephone: 01554 899 056
Coming to one of our drop-in events:
Tuesday 8th May 2pm – 7pm / St Peter’s Civic Hall, Carmarthen SA31 1PG
Friday 11th May 2pm – 7pm / Regency Hall, Saundersfoot SA69 9NG
Tuesday 15th May 2pm – 7pm / Letterston Memorial Hall, Letterston SA62 5RY
Friday 18th May 2pm – 7pm / Morlan Centre, Aberystwyth SY23 2HH
Tuesday 22nd May 2pm – 7pm / Selwyn Samuel Centre, Llanelli SA15 3AE
Thursday 24th May 2pm – 7pm / Llandybie Memorial Hall, Llandybie SA18 3UR
Monday 4th June 2pm-7pm / Rhys Pritchard Memorial Hall, Llandovery SA20 0DS
Monday 11th June 2pm-7pm / Penybanc Welfare Hall, Ammanford SA18 3QS
Thursday 14th June 2pm-7pm / City Hall, St.David’s SA62 6SD
Monday 18th June 2pm-7pm / Tysul Hall, Llandysul SA44 4HS
Tuesday 26th June 2pm-7pm / Pembrokeshire Archives Building, Haverfordwest SA61 2PE
Monday 2nd July 2pm-7pm / Victoria Hall, Lampeter SA48 7EE
Thursday 5th July 2pm-7pm / Pill Social Centre, Milford Haven SA73 2QT
Cyfraddau canslo llawdriniaethau wedi’u cynllunio yn “llawer rhy uchel” yn ôl llawfeddyg yn Hywel Dda
Gallai’r bobl sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro gael llawer llai o lawdriniaethau wedi’u canslo pe byddai’r gwasanaethau iechyd wedi’u trefnu mewn ffordd wahanol, yn ôl uwch feddyg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Dywedodd Mr Mark Henwood, Llawfeddyg Ymgynghorol a Chyfarwyddwr Clinigol ar gyfer Gofal wedi’i Drefnu yn Hywel Dda, fod nifer yr achosion o ganslo llawdriniaethau wedi’u cynllunio yn “llawer rhy uchel”, ac roedd yn dadlau bod angen darparu gofal brys a gofal wedi’u gynllunio ar wahân.
Mae’r Bwrdd Iechyd wedi lawnsio “Hywel Dda – Trawsnewid ein Gwasanaeth iechyd,” ymgynghoriad cyhoeddus 12-wythnos â’r nod o wella darpariaeth iechyd a gofal yn lleol.
Rydym yn gofyn i drigolion ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, yn ogystal â’r rhanbarthau trawsffiniol ehangach, i fod yn rhan o hyn ac i ddweud eu dweud ar y tri chynnig i wella’r ffordd yr ydym yn darparu gofal ar gyfer ein poblogaeth. Ein clinigwyr sydd wedi cynllunio a phrofi pob un o’r cynigion, er mwyn sicrhau bod ein gwasanaethau’n ddiogel, yn gynaliadwy, yn hygyrch ac yn garedig ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.
Ar hyn o bryd mae’r Bwrdd Iechyd yn darparu gofal brys a gofal wedi’i gynllunio, fel ei gilydd, ym mhob un o’i bedwar ysbyty – ond oherwydd nifer y bobl sy’n mynd i’r adrannau damweiniau ac achosion brys, mae yna effaith ddilynol “anochel” ar y gofal wedi’i gynllunio, a hynny oherwydd rhoddir blaenoriaeth i welyau ar gyfer cleifion brys, yn ôl Mr Henwood.
Ychwanegodd: “I nifer o bobl, mae cael llawdriniaeth yn ddigwyddiad unigryw, felly efallai y bydd yn rhaid iddynt wneud trefniadau gofal plant neu ofyn i aelodau o’r teulu eu helpu, neu efallai y byddant yn cynllunio i aros gyda’r teulu. Ac yna, rydym yn dod â nhw i’r ysbyty ar ddiwrnod eu llawdriniaeth ac yn gorfod eu hanfon gartref.
“Mae hyn yn achosi llawer o straen, ac mae’r mwyafrif o gleifion yn dda iawn amdano ac yn ei dderbyn oherwydd, yn fy marn i, mae pawb yn gwybod bod hyn yn bosibilrwydd; ond mae yna sgil-effaith oherwydd bydd angen i’r claf hwnnw gael y llawdriniaeth honno o hyd. Felly, efallai y byddai’n rhaid i ni symud rhywun arall yr oeddem wedi trefnu iddo gael llawdriniaeth, o bosibl ar y rhestr nesaf oedd ar gael.
“Mae hyn yn cael effaith fawr ar gleifion a’u teuluoedd oherwydd popeth y mae’n rhaid iddynt ei wneud – gallant gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith, gallant drefnu pob math o bethau, ac wedyn rydym ni’n tarfu ar eu trefniadau.”
Ychwanegodd Mr Henwood: “Rydym yn dal wedi ymrwymo i ddarparu cymaint o ofal mor agos i’r cartref â phosibl – ni fyddem yn fwriadol yn gwneud i bobl deithio oni bai fod yn rhaid iddynt yn benodol. Nid ydym am ddod â chleifion i’r ysbyty oni bai fod gwir angen iddynt ddod i’r ysbyty.”
“Yr holl syniad wrth wraidd y broses hon yw gwella’r gofal i gleifion. Nid yw’n ymwneud ag arbed arian, mae’n ymwneud â darparu gwasanaeth iechyd mwy effeithlon, oherwydd mae effeithlonrwydd yn arwain at welliannau ar gyfer cleifion. Os ydym yn fwy effeithlon, gallwn sicrhau bod y triniaethau cywir yn cael eu rhoi i’r cleifion cywir ar yr adeg gywir.”
Gallech ddweud eich dweud yn y ffyrdd canlynol:
Llenwi’r holiadur ar-lein: www.bihyweldda.wales.nhs.uk/trawsnewidhdd
Ebostio: hyweldda.engagement@wales.nhs.uk
Ffonio: 01554 899 056
Dod i un o’n digwyddiadau galw-heibio:
Dydd Mawrth 8 Mai 2pm – 7pm / Neuadd Ddinesig San Pedr, Caerfyrddin SA31 1PG
Dydd Gwener 11 Mai 2pm – 7pm / Neuadd Regency, Saundersfoot SA69 9NG
Dydd Mawrth 15 Mai 2pm – 7pm / Neuadd Goffa Treletert, Treletert SA62 5RY
Dydd Gwener 18 Mai 2pm – 7pm / Canolfan Morlan, Aberystwyth SY23 2HH
Dydd Mawrth 22 Mai 2pm – 7pm / Canolfan Selwyn Samuel, Llanelli SA15 3AE
Dydd Iau 24 Mai 2pm – 7pm / Neuadd Goffa Llandybie, Llandybie SA18 3UR
Dydd Llun 4 Mehefin 2pm-7pm / Neuadd Goffa Rhys Pritchard, Llandovery SA20 0DS
Dydd Llun 11 Mehefin 2pm-7pm / Neuadd Les Penybanc, Rhydaman SA18 3QS
Dydd Iau 14 Mehefin 2pm-7pm / Neuadd y Ddinas, Tŷ Ddewi SA62 6SD
Dydd Llun 18 Mehefin 2pm-7pm / Neuadd Tysul, Llandysul SA44 4HS
Dydd Mawrth 26 Mehefin 2pm-7pm / Adeilad Archifau Sir Benfro, Hwlffordd SA61 2PE
Dydd Llun 2 Gorffenaf 2pm-7pm / Neuadd Fictoria, Llanbedr Pont Steffan SA48 7EE
Dydd Iau 5 Gorffenaf 2pm-7pm / Canolfan Cymdeithasol Pill, Aberdaugleddau SA73 2QT
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle