Have your say on Carmarthenshire’s gambling policy | Cyfle i ddweud eich dweud am bolisi hapchwarae

0
533

Have your say on Carmarthenshire’s gambling policy

 

VIEWS are being sought to help inform a review of Carmarthenshire’s gambling policy.

Feedback is wanted from residents, businesses, licence holders and their representatives as part of a survey that’s now running until June 1.

Law dictates that the current gambling policy, formally adopted by Carmarthenshire Council in February 2016, has to be reviewed every three years to ensure views from local communities across the county are regularly reflected.

Guided by the UK Government’s Gambling Act of 2005, the Carmarthenshire policy regulates activities including betting, bingo and gaming machines in places like arcades, clubs, pubs, family entertainment centres and betting shops.

Some of the questions forming part of the survey include whether people are aware of gambling related problems in their communities and if they know of organisations either locally or nationally that provide advice and support for gambling related problems.

Cllr Philip Hughes, Carmarthenshire Council’s Executive Board Member for Public Protection, said: “Maintaining a vibrant night-time economy across the county is important, but we need to ensure gambling doesn’t exploit the vulnerable or become a source of crime and disorder.

“Gambling has to be conducted in a fair and open way, so we’re looking for as much feedback as possible during this consultation exercise to ensure we’re able to maintain an effective licensing system for Carmarthenshire as a whole, while striking the right balance to meet the needs of residents and businesses.

“All views submitted will help inform a revised gambling policy for Carmarthenshire, which will go to Full Council for approval later this year.”

Other questions forming part of the live survey include whether people are aware of any premises where problems have arisen from gaming machines being made available to the public. People are also being asked if they know of problems arising from gambling premises being located close to buildings like schools and treatment centres for drug, alcohol or other addictions.

The survey is now available online on Carmarthenshire Council’s homepage in the ‘Have your say’ section. Hard copies can also be requested by contacting Emyr Jones from the council’s licensing team on EORJones@carmarthenshire.gov.uk or 01267 228717.

Cyfle i ddweud eich dweud am bolisi hapchwarae

 

RYDYM am gael barn pobl er mwyn helpu i lywio adolygiad o bolisi hapchwarae Sir Gaerfyrddin.

Hoffem gael adborth gan breswylwyr, busnesau, deiliaid trwydded a’u cynrychiolwyr fel rhan o arolwg sydd bellach ar agor tan 1 Mehefin.

Mae’n ofynnol o dan y gyfraith bod y polisi hapchwarae presennol, a fabwysiadwyd yn ffurfiol gan Gyngor Sir Caerfyrddin ym mis Chwefror 2016, yn cael ei adolygu bob tair blynedd er mwyn sicrhau bod barn cymunedau lleol ar draws y sir yn cael ei adlewyrchu’n rheolaidd.

Yn unol â Deddf Hapchwarae 2005 Llywodraeth y DU, mae polisi Sir Gaerfyrddin yn rheoleiddio gweithgareddau gan gynnwys betio, bingo a pheiriannau hapchwarae mewn lleoedd megis arcedau, clybiau, tafarnau, canolfannau adloniant teulu a siopau betio.

Mae rhai o’r cwestiynau sy’n rhan o’r arolwg yn cynnwys a yw pobl yn ymwybodol o broblemau sy’n gysylltiedig â hapchwarae yn eu cymunedau ac a ydynt yn gwybod am sefydliadau naill ai’n lleol neu’n genedlaethol sy’n darparu cyngor a chymorth ynghylch problemau yn ymwneud â hapchwarae.

Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin dros Ddiogelu’r Cyhoedd: “Mae cadw economi hwyr y nos sy’n fywiog ar draws y sir yn bwysig, ond mae angen i ni sicrhau nad yw hapchwarae yn camfanteisio ar bobl agored i niwed nac yn fod yn achosi troseddau ac anhrefn.

“Mae’n rhaid cynnal hapchwarae mewn ffordd deg ac agored, felly hoffem gael cymaint o adborth â phosibl yn ystod yr ymarfer ymgynghori hwn er mwyn sicrhau y gallwn gynnal system drwyddedu effeithiol ar gyfer Sir Gaerfyrddin yn ei chyfanrwydd, yn ogystal â sicrhau’r cydbwysedd iawn o ran diwallu anghenion preswylwyr a busnesau.

“Bydd pob barn a gyflwynir yn helpu i lywio polisi hapchwarae diwygiedig ar gyfer Sir Gaerfyrddin, a fydd yn mynd gerbron y Cyngor Llawn am gymeradwyaeth yn ddiweddarach eleni.”

Mae cwestiynau eraill sy’n rhan o’r arolwg byw yn cynnwys a yw pobl yn ymwybodol o unrhyw safleoedd lle mae problemau wedi codi oherwydd bod peiriannau hapchwarae ar gael i’r cyhoedd. Hefyd, gofynnir i bobl a ydynt yn gwybod am broblemau sy’n codi oherwydd bod safleoedd hapchwarae yn agos i ysgolion a chanolfannau triniaeth ar gyfer pobl sy’n gaeth i gyffuriau, alcohol neu rhywbeth arall.

Mae’r arolwg bellach ar gael ar-lein ar wefan Cyngor Sir Caerfyrddin yn yr adran ‘Dweud eich dweud’. Gellir gofyn am gopïau papur hefyd drwy gysylltu ag Emyr Jones o Dîm Trwyddedu’r Cyngor drwy e-bostio EORJones@sirgar.gov.uk neu ffonio 01267 228717.

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle