In the first fortnight of our Big NHS Change consultation we’ve heard that you want us to hold more public drop-in events about our proposals to fundamentally change the way that we provide local healthcare services so that they are safe, sustainable, accessible and kind for current and future generations.
We’re asking residents across Carmarthenshire, Ceredigion and Pembrokeshire, as well as the wider cross-border regions, to get involved and have your say on three proposals to improve the way we provide care for our population.
Due to high demand we are pleased to confirm that the following seven additional venues and dates have been arranged, together with a virtual event, hosted on our Facebook page, for anyone who cannot attend in person and would like to speak with our clinicians:
Monday 4th June 2pm-7pm / Rhys Pritchard Memorial Hall, Llandovery SA20 0DS
Monday 11th June 2pm-7pm / Penybanc Welfare Hall, Ammanford SA18 3QS
Thursday 14th June 2pm-7pm / City Hall, St.David’s SA62 6SD
Monday 18th June 2pm-7pm / Tysul Hall, Llandysul SA44 4HS
Tuesday 26th June 2pm-7pm / Pembrokeshire Archives Building, Haverfordwest SA61 2PE
Monday 2nd July 2pm-7pm / Victoria Hall, Lampeter SA48 7EE
Thursday 5th July 2pm-7pm / Pill Social Centre, Milford Haven SA73 2QT
Facebook Virtual Event – Wednesday 23rd May 6pm-8pm / Online question and answer session with a panel of clinicians, follow us on Facebook here for more details: https://www.facebook.com/TrawsnewidHywelDdaChange
Hywel Dda Chief Executive Steve Moore said: “I’d like to personally thank everyone who has taken the time to provide feedback on our proposals to change the way we provide local healthcare services across the three counties. Our public drop-in events have been especially well attended so far and as a reflection of this I’m pleased to announce these new dates to ensure that as many people as possible can continue to get involved and talk to our doctors, nurses and therapists about their views. Don’t forget – if you want your voice to be heard it’s also vitally important that you fill in our questionnaire – you can find this and other resources on our website at www.hywelddahb.wales.nhs.uk/hddchange.
“I’d also like to draw people’s attention to the virtual event that we will be holding on 23 May – this is aimed especially at those who cannot attend the public sessions in person and again will provide an opportunity to speak to our clinicians about the consultation proposals that we have put forward.”
Among the biggest challenges the health board currently faces are an ageing population, difficulty for many people in accessing services close to home, significant recruitment challenges – particularly specialist medical staff – and ageing hospital buildings which require a lot of maintenance to keep running.
To overcome these we want to radically change the way we provide local health care services so that people are accessing most of the care and treatment they need in their local community, and are able to stay at home while they are getting treatment rather than having to go into hospital. Reducing the number of main hospitals will mean having fewer medical rotas to fill, making it easier to attract clinicians to come and work for us; it will also mean shorter waiting times and fewer cancellations, and more money for local and community health services.
In all three of the proposals, Bronglais District General Hospital will continue to provide services for mid Wales; a new major hospital will be built somewhere between Narberth and St Clears, and there will be 10 community hubs across the Health Board area.
The proposals are:
Proposal A
- A new urgent care and planned care hospital between Narberth and St Clears
- Community hospitals in Glangwili, Prince Philip Hospital in Llanelli and Withybush
- A general hospital in Aberystwyth on the Bronglais Hospital site
Proposal B
- A new urgent care and planned care hospital between Narberth and St Clears
- Community hospitals in Glangwili and Withybush
- General hospitals at Prince Philip Hospital in Llanelli and Aberystwyth on the Bronglais Hospital site
Proposal C
- A new urgent care hospital between Narberth and St Clears
- A planned care hospital on Glangwili site
- A community hospital in Withybush
- General hospitals at Prince Philip Hospital in Llanelli and Aberystwyth on the Bronglais Hospital site
Hywel Dda’s Executive Medical Director & Director of Clinical Strategy, Dr Phil Kloer, added: “We’ve come up with three proposals that we think are safe, viable and offer an improvement on what we currently have, and we are presenting these to you, to listen and talk to you further and take on board your views and ideas.
“We all have a shared passion for the NHS, our services, our history and our staff and we want to harness this to design, together with you, the best health service for our population. We are so grateful to those of you who have already been involved in this as patients, staff and members of our communities, and we are pleased to be able to provide a platform for further discussion in the form of these additional dates.”
Please tell us your views by:
Completing the online questionnaire at: www.hywelddahb.wales.nhs.uk/hddchange
Emailing us at: hyweldda.engagement@wales.nhs.uk
Telephone: 01554 899 056
Coming to one of our drop-in events
———————————————————————————
Yn ystod pythefnos cyntaf ein ymgynghoriad Trawsnewid ein Gwasanaeth Iechyd rydym wedi clywed eich bod yn dymuno i ni gynnal mwy o ddigwyddiadau galw-heibio ar ein cynigion i drawsnewid yn sylfaenol y ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau gofal iechyd lleol fel eu bod yn ddiogel, yn gynaliadwy, yn hygyrch ac yn garedig, ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.
Rydym yn gofyn i drigolion ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, yn ogystal â’r rhanbarthau trawsffiniol ehangach, i fod yn rhan o hyn ac i ddweud eu dweud ar y tri chynnig i wella’r ffordd yr ydym yn darparu gofal ar gyfer ein poblogaeth.
Oherwydd yn galw mawr, rydym yn falch o gyhoeddi ein bod wedi trefnu saith lleoliad a dyddiad ychwanegol, ynghyd â digwyddiad ar-lein ar ein tudalen Facebook ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno siarad ag un o’n clinigwyr ond sy’n methu mynychu digwyddiad galw-heibio:
Dydd Llun 4 Mehefin 2pm-7pm / Neuadd Goffa Rhys Pritchard, Llandovery SA20 0DS
Dydd Llun 11 Mehefin 2pm-7pm / Neuadd Les Penybanc, Rhydaman SA18 3QS
Dydd Iau 14 Mehefin 2pm-7pm / Neuadd y Ddinas, Tŷ Ddewi SA62 6SD
Dydd Llun 18 Mehefin 2pm-7pm / Neuadd Tysul, Llandysul SA44 4HS
Dydd Mawrth 26 Mehefin 2pm-7pm / Adeilad Archifau Sir Benfro, Hwlffordd SA61 2PE
Dydd Llun 2 Gorffenaf 2pm-7pm / Neuadd Fictoria, Llanbedr Pont Steffan SA48 7EE
Dydd Iau 5 Gorffenaf 2pm-7pm / Canolfan Cymdeithasol Pill, Aberdaugleddau SA73 2QT
Digwyddiad Ar-lein Facebook – Dydd Mercher 23 Mai 6pm-8pm / sesiwn holi ac ate bar-lein gyda phanel o glinigwyr. Dilynwch ni ar Facebook fan hyn am fwy o wybodaeth: https://www.facebook.com/TrawsnewidHywelDdaChange
Meddai Steve Moore, Prif Weithredwr Hywel Dda: “Dymunaf ddiolch yn bersonol i bob un sydd wedi rhoi o’u hamser i ddarparu adborth ar ein cynigion i newid y ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau gofal iechyd lleol ar draws y tair sir. Mae llawer iawn wedi mynychu ein digwyddiadau galw-heibio cyhoeddus hyd yn hyn, ac o ganlyniad rwy’n falch o gyhoeddi bod y dyddiadau newydd hyn er mwyn sicrhau bod y nifer fwyaf bosibl o bobl yn medru cymryd rhan, siarad â’n meddyygon, nyrsys a therapyddion, a rhannu eu barn. Cofiwch – os ydych am i’ch barn gyfrif, mae’n holl bwysig hefyd eich bod yn llenwi ein holiadur – mae’r adnodd hwn ac eraill ar gael er ein gwefan www.bihyweldda.wales.nhs.uk/trawsnewidhdd.
“Rwyf hefyd yn dymuno tynnu sylw pobl at y digwyddiad ar-lein fydd yn digwydd ar 23 Mai – nod y digwyddiad hwn yw galluogi pobl nad ydynt yn medru mynychu digwyddiad galw-heibio i drafod cynigion yr ymgynghoriad â’n clinigwyr.”
Ymhlith yr heriau mwyaf sy’n wynebu’r bwrdd iechyd ar hyn o bryd mae poblogaeth sy’n heneiddio, nifer o bobl yn profi anawsterau i gael mynediad i wasanaethau yn agos at adref, heriau recriwtio sylweddol – yn enwedig staff meddygol arbenigol – a hen adeiladau ysbyty sydd angen llawer o gynnal a chadw.
Er mwyn goresgyn yr heriau hyn, rydym am wneud newid radical i’r ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau gofal iechyd lleol fel bod pobl yn cael y rhan helaeth o’r gofal a’r driniaeth sydd eu hangen arnynt yn eu cymuned leol, a fel bod pobl yn medru aros adref tra’u bod nhw’n cael triniaeth yn hytrach na gorfod mynd i ysbyty. Bydd lleihau’r nifer o brif ysbytai’n golygu llai o rotas meddygol i’w llenwi, gan wneud y dasg o ddenu clinigwyr i ddod i weithio i ni yn haws; bydd hefyd yn golygu amserau aros byrrach, llai o ganslo a mwy o arian ar gyfer gwasanaethau lleol a chymunedol.
Ym mhob un o’r tri chynnig, bydd Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Bronglais yn parhau i ddarparu gwasanaethau i’r canolbarth; byddwn yn adeiladu prif ysbyty newydd rhywle rhwng Arberth a San Clêr, a bydd 10 hyb cymunedol ar draws ardal y Bwrdd Iechyd.
Dyma’r cynigion:
Cynnig A
- Ysbyty gofal brys a gofal wedi’i drefnu newydd rhwng Arberth a San Clêr
- Ysbytai cymunedol yng Nglangwili, Tywysog Philip a Llwynhelyg
- Ysbyty cyffredinol yn Aberystwyth ar safle Ysbyty Bronglais
Cynnig B
- Ysbyty gofal brys a gofal wedi’i drefnu newydd rhwng Arberth a San Clêr
- Ysbytai cymunedol yng Nglangwili a Llwynhelyg
- Ysbytai cyffredinol yn Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli ac yn Aberystwyth ar safle Ysbyty Bronglais
Cynnig C
- Ysbyty gofal brys newydd rhwng Arberth a San Clêr
- Ysbyty gofal wedi’i drefnu ar safle Glangwili
- Ysbyty cymunedol yn Llwynhelyg
- Ysbytai cyffredinol yn Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli ac yn Aberystwyth ar safle Ysbyty Bronglais
Ychwanegodd Dr Phil Kloer, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol a Chyfarwyddwr Strategaeth Glinigol Hywel Dda: “Rydym wedi penderfynu ar dri chynnig y credwn eu bod yn ddiogel, yn bosibl ac yn cynnig gwelliant ar yr hyn sydd gennym yn bresennol. Rydym yn cyflwyno’r rhain i chi, yn gwrando arnoch ac yn ystyried eich barn a’ch syniadau.
“Mae pob un ohonom yn angerddol dros y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ein gwasanaethau, ein hanes a’n staff, ac rydym am ddefnyddio’r angerdd hwn i gynllunio – gyda chi – y gwasanaeth iechyd gorau ar gyfer ein poblogaeth. Rydym yn ddiolchgar dros ben i’r rhai hynny sydd eisoes wedi cymryd rhan – yn gleifion, staff ac aelodau o’n cymunedau, ac rydym yn hapus o allu darparu llwyfan ar gyfer trafodaethau pellach yn y digwyddiadau ychwanegol hyn.”
Cofiwch ddweud eich dweud yn y ffyrdd canlynol:
Llenwi’r holiadur ar-lein: www.bihyweldda.wales.nhs.uk/trawsnewidhdd
Ebostio: hyweldda.engagement@wales.nhs.uk
Ffonio: 01554 899 056
Dod i un o’n digwyddiadau galw-heibio
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle