CYC members give more than 1200 hours volunteering / Y Cyngor Ieuenctid yn gwirfoddoli dros 1200 awr

0
543
Carmarthenshire Youth Conference, County Hall, Carmarthen

CYC members give more than 1200 hours volunteering

 

MEMBERS from Carmarthenshire Youth Council (CYC) have devoted more than 1200 hours to volunteering on a local, regional and national level during the past 12 months.

Carmarthenshire County Council, Carmarthenshire Youth Council and CAVS have been working together over the years and developed a Youth Recognition Scheme for 11-14 year olds. They have lobbied GwirVol the Youth Volunteering initiative for Wales, to lower the Millennium Volunteers age from 16 to 14 – which they succeeded.

Since 2007, 92 Youth Councillors have registered on the CAVS Youth Recognition and Millennium Volunteers Scheme.

Members have volunteered with the Participation Project through planning and delivering a conference, meeting with decision makers and more.

Fifteen young people were presented with their certificates at this year’s Annual General Meeting in April.

Carmarthenshire Youth Councillor Amber Treharne, aged 14 from Burry Port, said: “Since becoming a member of CYC it has allowed me to gain many different experiences through volunteering. I think that volunteering is such a rewarding experience as it really does develop you as a character. Not only does volunteering open up a wealth of experiences, it allows you to gain a variety of skills, such as team-work, that are beneficial to you in day to day life and also as you progress into further study and careers. I would advise anyone who ever receives the chance to get involved with volunteering to go for it because only then will you fully understand how rewarding it is!”

Recognition of CYC volunteering hours were presented with National Millennium Volunteers Certificates by Cllr Cefin Campbell, Executive Board Member for Communities and Rural Affairs and Marie Mitchell Chief Officer at CAVS in recognition for the time they have given during the CYC AGM in April.

Executive Board member for education and children’s services, Cllr Glynog Davies, said: “By being a part of Carmarthenshire Youth Council many young people are volunteering their time to make a difference in their county. I would like to thank the Youth Council members for taking time out of their busy lives. These awards are a way of showing our thanks and to acknowledging that all their hours of volunteering is valued.”

For more information about Carmarthenshire Youth Council and to see all the pictures from the AGM please go to www.youthsirgar.org.uk

Y Cyngor Ieuenctid yn gwirfoddoli dros 1200 awr

 

MAE aelodau Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin wedi cyfrannu dros 1200 o oriau at wirfoddoli ar raddfa leol, ranbarthol a chenedlaethol yn ystod y 12 mis diwethaf.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin a Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr (CGGSG) wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd dros y blynyddoedd ac wedi datblygu Cynllun Cydnabod Ieuenctid i bobl ifanc 11-14 oed. Maent wedi lobïo GwirVol, menter Gwirfoddoli Ieuenctid Cymru, i ostwng oedran Gwirfoddolwyr y Mileniwm o 16 i 14, ac wedi llwyddo yn hynny o beth.

Ers 2007, mae 92 o Gynghorwyr Ieuenctid wedi cofrestru ar Gynllun Cydnabod Ieuenctid a Gwirfoddolwyr y Mileniwm CGGSG.

Mae aelodau wedi gwirfoddoli gyda’r Prosiect Cyfranogi drwy gynllunio a darparu cynhadledd, gan gwrdd â phobl sy’n gwneud penderfyniadau a mwy.

Cafodd pymtheg o bobl ifanc eu cyflwyno â’u tystysgrifau yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol eleni ym mis Ebrill.

Dywedodd Amber Treharne, sef Cynghorydd Ieuenctid Sir Gaerfyrddin, sy’n 14 oed ac yn hanu o Borth Tywyn: “Ers dod yn aelod o Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin rydw i wedi cael llawer o brofiadau gwahanol drwy wirfoddoli. Mae gwirfoddoli yn brofiad sy’n talu ar ei ganfed achos mae’n dy ddatblygu di fel cymeriad. Mae’n rhoi cyfoeth o brofiadau iti, ond hefyd yn dy alluogi di i ennill amrywiaeth o sgiliau, fel gwaith tîm, sydd o fudd iti yn dy fywyd bob dydd, a hefyd wrth iti symud ymlaen i astudio ymhellach a chychwyn gyrfa. Byddwn i’n cynghori unrhyw un i wirfoddoli os ydyn nhw’n cael cyfle i wneud hynny, achos dim ond ar ôl gwneud hynny y mae rhywun yn gweld pa mor fuddiol yw’r profiad!”

Er mwyn dathlu oriau gwirfoddoli Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin, cyflwynodd y Cyng. Cefin Campbell, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig, a Marie Mitchell, Prif Swyddog CGGSG, Dystysgrifau Cenedlaethol Gwirfoddolwyr y Mileniwm Cenedlaethol yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin ym mis Ebrill i gydnabod yr amser a gyfrannwyd.

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Gwasanaethau Plant: “Drwy fod yn rhan o Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin mae llawer o bobl ifanc yn gwirfoddoli eu hamser i wneud gwahaniaeth yn eu sir. Hoffwn ddiolch i aelodau’r Cyngor Ieuenctid am roi o’u hamser yn ystod eu bywydau prysur. Mae’r gwobrau hyn yn ffordd o ddiolch a chydnabod bod yr holl oriau y maent yn eu gwirfoddoli yn cael eu gwerthfawrogi.”

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin ac i weld yr holl luniau o’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ewch i www.youthsirgar.org.uk/cartref


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle