Make your own Father’s Day gift/Creu anrheg i’r ardd ar gyfer Sul y Tadau

0
575

Make your own Father’s Day gift

Dad’s are being urged to get creative for Father’s Day and reward themselves with a garden planter.

The council’s White to Green Goods scheme, Gwyn I Wyrdd and The Crefft Pren project along with The National Botanic Garden of Wales (NBGW) have teamed up to offer fathers a chance to make their own garden planter out of recycled washing machine drums.

The workshops will be held on Friday, June 15th, two days before Father’s Day on the 17th. Drums, timber cladding, bolts will be supplied by Gwyn I Wyrdd to construct the planters. The NBGW will also source the compost and the plants. Full instruction will be delivered by qualified and experienced project officers.

Booking is advisable due to limited spaces on 01558 667150. Session costs £90 and includes entry to the gardens, all equipment and materials. Activity to run 11am until 2pm.

Family members can also take part in the session and use the planter as a surprise Father’s Day gift, alternatively they can purchase a space for their loved one on the workshop as a gift.

The council’s executive board member for social care, Cllr Jane Tremlett said: “This is a great idea and makes a very useful gift for Father’s Day. The workshop not only provides an opportunity to bring out people’s creative side and a chance to take what they have made home, it makes good use of old or unwanted goods or furniture.”

Gwyn i Wyrdd Domestic Appliance Reuse Centre Cross Hands Carmarthenshire is a project to minimize the amount of WEEE (Electrical Waste) generated in Carmarthenshire and to promote the recycling, repair and reuse of electrical goods in particular white goods. The project is part of a training facility for adults with disabilities and individuals that are economically inactive seeking work experience and training. Reusable appliances that can be economically refurbished such as electric cookers, washing machines, washer/dryers, dishwashers, tumble dryers, refrigeration and wooden furniture can be collected. Up to three items costs £15. Opening times 8.30am to 4pm Monday to Thursday, Friday 8.30am to 3.30pm. For further information visit http://www.gwyniwyrdd.co.uk

 

Creu anrheg i’r ardd ar gyfer Sul y Tadau

Caiff tadau eu hannog i fod yn greadigol ar Sul y Tadau ac i greu bocs dal blodau i’w hunain.

Mae cynllun Gwyn i Wyrdd y Cyngor Sir, prosiect Crefft Pren a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru oll wedi dod ynghyd i gynnig cyfle i dadau greu bocs dal blodau i’w hunain mas o ddrwm peiriant golchi dillad.

Cynhelir y gweithdy ar ddydd Gwener, 15 Mehefin, deuddydd cyn Sul y Tadau ar 17 Mehefin. Bydd drymiau, bolltau a styllod pren yn cael eu cyflenwi gan Gwyn i Wyrdd er mwyn creu’r bocsys dal blodau. Bydd yr Ardd Fotaneg yn darparu’r compost a’r planhigion. Rhoddir cyfarwyddyd llawn gan swyddogion prosiect cymwys a phrofiadol.

Awgrymir eich bod yn archebu lle – 01558 667150 – oherwydd y cyntaf i’r felin fydd hi. £90 yw pris y sesiwn ac mae’n cynnwys mynediad i’r gerddi, yr holl offer a’r deunyddiau. Cynhelir y gweithgaredd rhwng 11am a 2pm.

Mae croeso i aelodau’r teulu hefyd gymryd rhan yn y sesiwn a defnyddio’r bocs dal blodau fel anrheg Sul y Tadau neu fe allant brynu lle ar y gweithdy fel anrheg i’w perthynas.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, sef yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol: “Dyma syniad gwych a fyddai’n anrheg ddefnyddiol iawn ar gyfer Sul y Tadau.   Mae’r gweithdy nid yn unig yn cynnig cyfle i bobl fod yn greadigol ac i fynd adre â’r hyn maen nhw wedi’i greu, ond hefyd mae’n ddefnydd da o nwyddau neu ddodrefn diangen.”

Prosiect i leihau cymaint â phosibl ar y cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff sy’n cael ei greu yn Sir Gaerfyrddin yw Gwyn i Wyrdd. Mae’r prosiect, sydd wedi’i leoli yn Cross Hands, hefyd yn hybu ailgylchu, atgyweirio, ac ailddefnyddio nwyddau trydanol yn enwedig nwyddau gwyn. Mae’r prosiect yn rhan o ganolfan hyfforddiant ar gyfer oedolion sydd ag anableddau ac unigolion sydd heb fod yn weithgar yn economaidd ac sy’n chwilio am brofiad gwaith a hyfforddiant. Maent yn gallu casglu peiriannau y mae modd eu defnyddio eto a’u hadnewyddu’n gost effeithlon, megis cwceri trydan, peiriannau golchi dillad, peiriannau golchi llestri, peiriannau sychdaflu dillad ac oergelloedd, ynghyd â dodrefn pren. Mae’n costio £15 am hyd at dair eitem. Mae ar agor rhwng 8.30am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Iau, a rhwng 8.30am a 3.30pm ar ddydd Gwener. I gael rhagor o wybodaeth ewch i http://www.gwyniwyrdd.co.uk

 

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle