Statement regarding Ash Grove Medical Practice, Llanelli / Datganiad ynghylch Practis Meddygol Ash Grove, Llanelli

0
522

Hywel Dda University Health Board would like to reassure patients of Ash Grove Medical Practice that the Practice will remain open following the resignation of the partners from 1 September 2018.

The partners’ resignation and return of the Practice’s GMS contract means that the provision of services at the Surgery will become the direct responsibility of the Health Board for the time being, until the best way forward for the Practice becomes clearer.

The Practice remains open as normal, and GP cover will continue to be provided by the partners.

Patients registered with Ash Grove should remain registered at the Practice and should continue to access services as normal.

Elaine Lorton, Assistant Director of Primary Care at the Health Board said: “We accept that this news may concern the community, however the Health Board wishes to reassure patients of Ash Grove Medical Practice that they can continue to access GP services locally as they have done.

“The continued sustainability of General Medical Services for the patients registered at the Practice is of paramount importance for the Health Board and we see this as an opportunity to strengthen services locally. Planning processes are underway to determine the available options for the Practice, and the Health Board is working closely with the Practice to provide support.

“The Health Board is keen to listen to patients and stakeholders to define what long-term model is needed for the community.

“We will write to patients shortly giving them further information about the options we will be considering along with details of an information and forthcoming drop-in session that we will be organising towards the end of May.”

Patients of Ash Grove Medical Centre should any direct enquiries to Laura Lloyd Davies, Primary Care Locality Development Manager on 07805 799658.

————————————————————————————-

Hoffai Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda sicrhau cleifion Meddygfa Ash Grove y bydd y Practis yn parhau ar agor yn dilyn ymddiswyddiad y partneriaid o 1 Medi 2018.

Mae ymddiswyddiad y partneriaid, ynghyd â dychweliad contract Gwasanaeth Meddygol Cyffredinol y Practis, yn golygu mai’r Bwrdd Iechyd a fydd yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau yn y Feddygfa am y tro, hyd nes i’r ffordd orau ymlaen ar gyfer y Practis ddod yn fwy eglur.

Bydd y Practis yn parhau ar agor fel arfer, a bydd y Meddygon Teulu cyflogedig a meddygon locwm rheolaidd yn gyfrifol am y ddarpariaeth.

Dylai’r cleifion sydd wedi cofrestru gyda Meddygfa Ash Grove barhau i fod wedi cofrestru gyda’r Practis, a dylent barhau i gyrchu gwasanaethau fel arfer.

Dywedodd Elaine Lorton, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gofal Sylfaenol y Bwrdd Iechyd: “Rydym yn cydnabod y gallai’r newyddion hwn beri pryder i’r gymuned; fodd bynnag, hoffai’r Bwrdd Iechyd sicrhau cleifion Meddygfa Ash Grove y gallant barhau i gael gwasanaethau Meddygon Teulu yn lleol, fel arfer.

“Mae cynaliadwyedd parhaus y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol ar gyfer cleifion sydd wedi cofrestru gyda’r Practis o’r pwys mwyaf i’r Bwrdd Iechyd ac rydym yn ystyried hyn yn gyfle i gryfhau gwasanaethau yn lleol. Mae prosesau cynllunio ar waith i bennu’r opsiynau posibl ar gyfer y Practis, ac mae’r Bwrdd Iechyd yn gweithio’n agos gyda’r Practis i ddarparu cymorth.

“Mae’r Bwrdd Iechyd yn awyddus i wrando ar gleifion a rhanddeiliaid er mwyn diffinio’r model hirdymor sydd ei angen ar gyfer y gymuned.

“Byddwn yn ysgrifennu at y cleifion yn fuan, gan roi gwybodaeth iddynt am yr opsiynau y byddwn yn eu hystyried, ynghyd â manylion am sesiwn galw heibio y byddwn yn ei threfnu ar gyfer diwedd mis Mai.”

Dylai cleifion Canolfan Feddygol Llwyn Onn anfon ymholiadau at Laura Lloyd Davies, Rheolwr Datblygu Lleoliad Gofal Sylfaenol trwy ffonio 07805 799658.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle