Carmarthenshire and Newport to host opening stage of Tour of Britain | Cymal cyntaf Taith Prydain yn Sir Gâr a Chasnewydd

0
595

Carmarthenshire and Newport to host opening stage of Tour of Britain

THE 2018 OVO Energy Tour of Britain will begin in South Wales for the first time as Carmarthenshire and Newport host the opening stage of Britain’s national Tour on Sunday 2 September.

It will mark the first time that the race has visited Carmarthenshire with the county set to welcome 120 of the world’s top professional cyclists next September for the start of Britain’s biggest professional cycle race.

The city of Newport last hosted the Tour of Britain in 2004, while the final stage of the 2017 race passed through the city on its way to the overall finish in Cardiff. Minister for Culture, Sport and Tourism, Lord Elis-Thomas, said: “Hosting the start of this iconic professional race and having an all Welsh stage is fantastic news for Wales.

Since hosting the Tour of Britain for the first time in 2010, the event has established itself in the Welsh sporting calendar with the race visiting various locations across Wales almost every year since – and I’m delighted that the Welsh Government has been able to support the event.

“The Tour of Britain is a fantastic opportunity for us to showcase Wales’ unique and beautiful landscape to the world, as well as highlighting our ability to host a variety of major events.

The event gives cycling fans the opportunity to see the world’s best teams and riders competing on their door step and spectators in Wales have always given the cyclists a real warm Welsh welcome and have created a fantastic atmosphere.

I hope that people from across south Wales come out to support the cyclists as they travel from Carmarthenshire to Newport on the first day of the race in September.” More details of Stage One, including the exact Start location in Carmarthenshire, details of the route and where the race will finish in Newport will be announced at the national launch of the 2018 route on Tuesday 5 June.

Councillor Peter Hughes Griffiths, Carmarthenshire County Council’s Executive Board Member for Culture, Sport and Tourism, said: “This is the largest professional road cycling event in the UK and we are proud that organisers have chosen Carmarthenshire as the starting venue for the race.

“As a televised event this is a wonderful opportunity to show our county’s beautiful scenery to the world. No doubt it will also be a massive boost to the local economy with thousands of people involved in the race and turning out to watch.”

Councillor Debbie Wilcox, Leader of Newport City Council, said; “We are very excited to again be involved in the Tour and promise to give competitors the warmest of Newport welcomes as they cross the first finish line in the heart of our city.

“Newport boasts such a diverse landscape which lends itself perfectly to events such as the Tour – from flat, urban routes to challenging climbs and descents through beautiful countryside – we are sure the cyclists, supporters and spectators alike will enjoy the leg and their time in our city.”

Commenting on the announcement, OVO Energy Tour of Britain Race Director Mick Bennett said; “We have been working with our partners at the Welsh Government and Carmarthenshire County Council for some time to put together this plan for the opening stage and visit the area for the first time, and are delighted to be able to confirm plans so spectators can begin to make their plans now for the 2nd September to join us for our opening leg.

“As the home of Welsh Cycling and the Wales National Velodrome it is fitting that the OVO Energy Tour of Britain will finish its opening stage of 2018 in the city and we look forward to working with Newport City Council and their partners to deliver the event.” Commenting on the announcement Nick Smith, Chairman at Welsh Cycling said: “It is absolutely fantastic news for Wales to play host to the opening of Britain’s biggest international cycling race.

“Beginning the entire race in Carmarthenshire is truly fitting to the county’s commitment to cycling, as they strive to become the cycling hub of Wales following the recent refurbishment of the Carmarthen Velodrome as well as the current construction work on the Pembrey Closed Road Circuit.

“Locals and fans in Wales will not only have the opportunity to cheer on the best cycling talent on their very own door steps as they begin the first stage of the competition in Carmarthenshire; but also congratulate the riders as they cross the finish line at the home of Welsh Cycling at the Wales National Velodrome in Newport. The OVO Energy Tour of Britain is British Cycling’s premier road cycling event, giving cycling fans the opportunity to see the world’s best teams and riders competing on their door step, taking place between Sunday 2 and Sunday 9 September 2018.

Carmarthenshire to Newport, Tour of Britain leg, Carmarthen velodrome.

Cymal cyntaf Taith Prydain yn Sir Gâr a Chasnewydd

BYDD Taith Prydain OVO Energy 2018 yn dechrau yn ne Cymru am y tro cyntaf wrth i Sir Gaerfyrddin a Chasnewydd gynnal cymal cyntaf Taith genedlaethol Prydain ddydd Sul, 2 Medi.

Dyma’r tro cyntaf i’r ras ymweld â Sir Gaerfyrddin wrth i’r sir groesawu 120 o feicwyr proffesiynol gorau’r byd fis Medi nesaf ar gyfer dechrau’r ras feicio broffesiynol fwyaf ym Mhrydain.

Cynhaliodd dinas Casnewydd Daith Prydain ddiwethaf yn 2004, ac aeth cymal olaf ras 2017 drwy’r ddinas ar ei ffordd i’r llinell derfyn yng Nghaerdydd.

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas, y Gweinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Mae cynnal dechrau’r ras broffesiynol eiconig hon a chael chymal cyfan yng Nghymru yn newyddion gwych i’r wlad.

Ers cynnal Taith Prydain am y tro cyntaf yn 2010, mae i’r digwyddiad le pwysig yng nghalendr chwaraeon Cymru ac mae’r ras wedi ymweld ag amrywiol leoliadau ledled Cymru bron bob blwyddyn ers hynny, ac rwyf wrth fy modd bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi’r digwyddiad.

“Mae Taith Prydain yn gyfle gwych inni ddangos tirwedd unigryw a phrydferth Cymru i’r byd, yn ogystal â thynnu sylw at ein gallu i gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau mawr. Mae’r digwyddiad yn rhoi cyfle i gefnogwyr beicio weld timau a beicwyr gorau’r byd yn cystadlu ar eu stepen drws, ac mae’r gwylwyr yng Nghymru bob amser wedi rhoi croeso cynnes Cymreig i’r beicwyr ac wedi creu awyrgylch arbennig. Rwy’n gobeithio y bydd pobl o bob cwr o dde Cymru yn dod i gefnogi’r beicwyr wrth iddynt deithio o Sir Gaerfyrddin i Gasnewydd ar ddiwrnod cyntaf y ras ym mis Medi.”

Cyhoeddir rhagor o fanylion am Gymal Un, gan gynnwys yr union leoliad y bydd y ras yn dechrau yn Sir Gaerfyrddin, manylion am y llwybr a ble bydd y ras yn gorffen yng Nghasnewydd, yn y lansiad cenedlaethol ddydd Mawrth, 5 Mehefin. Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, Aelod Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Dyma’r digwyddiad beicio ar y ffordd proffesiynol mwyaf yn y Deyrnas Unedig ac rydym yn falch bod y trefnwyr wedi dewis Sir Gaerfyrddin yn fan cychwyn ar gyfer y ras.

“Fel digwyddiad sy’n cael ei ddarlledu mae hwn yn gyfle gwych i ddangos golygfeydd prydferth ein sir i’r byd. Nid oes amheuaeth na fydd hefyd yn rhoi hwb anferth i’r economi leol gan y bydd miloedd o bobl yn rhan o’r ras ac yn dod i’w gwylio.” Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd:

“Rydym yn gyffrous iawn i fod yn rhan o’r Daith unwaith eto ac rydym yn addo rhoi croeso cynnes iawn i Gasnewydd i’r cystadleuwyr wrth iddynt groesi’r llinell derfyn gyntaf yng nghanol ein dinas.

“Mae gan Gasnewydd dirwedd hynod amrywiol sy’n gweddu i’r dim i ddigwyddiadau megis y Daith – o lwybrau gwastad, trefol i ddringfeydd heriol a disgynfeydd trwy gefn gwlad prydferth – rydym yn sicr y bydd y beicwyr, y cefnogwyr a’r gwylwyr fel ei gilydd yn mwynhau’r cymal a’u hamser yn ein dinas. Wrth sôn am y cyhoeddiad, dywedodd Mike Bennett, Cyfarwyddwr Ras Taith Prydain OVO Energy: “Rydym wedi bod yn gweithio gyda’n partneriaid yn Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin ers tro i greu’r cynllun hwn ar gyfer y cymal cyntaf ac ymweld â’r ardal am y tro cyntaf, ac rydym wrth ein bodd ein bod yn gallu cadarnhau’r cynlluniau er mwyn i wylwyr allu dechrau gwneud eu cynlluniau nawr ar gyfer 2 Medi i ymuno â ni ar gyfer ein cymal cyntaf.

“Fel cartref Beicio Cymru a Felodrom Cenedlaethol Cymru, mae’n addas y bydd Taith Prydain OVO Energy yn gorffen ei chymal cyntaf yn 2018 yn y ddinas ac edrychwn ymlaen at weithio gyda Chyngor Dinas Casnewydd a’i bartneriaid i gynnal y digwyddiad.”

Wrth sôn am y cyhoeddiad, dywedodd Nick Smith, Cadeirydd Beicio Cymru: “Mae’n newyddion hollol wych i Gymru ei bod yn gallu cynnal dechrau ras feicio genedlaethol fwyaf Prydain.

“Mae dechrau’r ras gyfan yn Sir Gaerfyrddin yn gweddu’n llwyr i ymrwymiad y sir i feicio, gan ei bod yn gwneud ei gorau glas i fod yn ganolbwynt beicio Cymru yn dilyn adnewyddu Felodrom Caerfyrddin yn ddiweddar, yn ogystal â’r gwaith adeiladu presennol ar y Gylchffordd Gaeedig ym Mhen-bre.

“Bydd gan y bobl leol a’r cefnogwyr yng Nghymru nid yn unig y cyfle i roi anogaeth i’r talent beicio gorau ar eu stepen drws wrth iddynt ddechrau cymal cyntaf y gystadleuaeth yn Sir Gaerfyrddin, ond byddant hefyd yn gallu llongyfarch y beicwyr wrth iddynt groesi’r llinell derfyn yng nghartref Beicio Cymru yn Felodrom Cenedlaethol Cymru yng Nghasnewydd.

Taith Prydain OVO Energy yw prif ddigwyddiad beicio ar y ffordd Beicio Prydain, gan roi cyfle i gefnogwyr beicio weld timau a beicwyr gorau’r byd yn cystadlu ar eu stepen drws. Mae’r daith yn cael ei chynnal rhwng dydd Sul, 2 Medi a dydd Sul, 9 Medi 2018.

Carmarthenshire to Newport, Tour of Britain leg, Carmarthen velodrome.

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle