Views sought on draft Welsh Language Promotional Strategy/Ceisio barn ar strategaeth ddrafft i hybu’r Gymraeg

0
623

Neath Port Talbot Council is asking for views on a draft strategy that has been developed to help promote theWelsh language, with the aim of increasing the number of Welsh speakers in the countyborough.

A four week consultation is underway and will run until 22ndJune 2018.

Councillor Doreen Jones, Cabinet Member for Corporate Services and Equality said:

“The Council has supportedand promoted the Welsh language since 1996, through the commitments made in our Welsh LanguageSchemes. This has included welcoming correspondence in Welsh, providing bilingualdocumentation and publications and ensuring our website is bilingual.

“We have also provided language and cultural awareness training for staff and social work degreestudents, ensured simultaneous translation facilities are available at scheduledCouncil meetings and supported and delivered various Welshlanguage and cultural events and activities through the Youth Service and partnersorganisations.

“The Welsh Language Promotional Strategy is intended to build on this work and help us to meet our obligations under the Welsh Language Standards and we are keen to receive feedback on the document from as many people as possible.”

The draft strategy has been developed by a cross party member task and finish group, with support from MenterIaith Castell-nedd Port Talbot. While it is not in the Council’s gift alone to increase the numbers of Welsh speakers,the draft strategy outlines how the Council can utilise its responsibilities to help influence this, both directly and indirectly, across thecounty borough.

 A copy of the draft strategy and an online questionnaire can be found at www.npt.gov.uk/welshstrategy. Paper copies of the questionnaire and boxes for returning these can be found at civic buildings and libraries across the county borough.

 

Ceisio barn ar strategaeth ddrafft i hybu’r Gymraeg

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gofyn am farn ar y strategaeth ddrafft a luniwyd i helpu i hybu’r Gymraeg,gyda’r nod o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn y fwrdeistref sirol.

Cynhelir ymgynghoriad pedair wythnos a bydd ar waith tan 22 Mehefin 2018.

Meddai’r Cynghorydd Doreen Jones, Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Corfforaethol a Chydraddoldeb,

“Mae’r cyngor wedi cefnogi a hybu’r Gymraeg ers 1996, drwy’r ymrwymiadau a wnaed yn ein Cynlluniau Iaith Gymraeg. Mae hyn wedi cynnwys croesawu gohebiaeth yn Gymraeg, darparu dogfennaeth a chyhoeddiadau dwyieithog a sicrhau bod ein gwefan yn ddwyieithog.

“Rydym hefyd wedi darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith a diwylliannol i staff a myfyrwyr gradd gwaith cymdeithasol, sicrhau bod cyfleusterau cyfieithu ar y pryd ar gael yng nghyfarfodydd y cyngor ac wedi cefnogi a chyflwyno digwyddiadau a gweithgareddau Cymraeg a diwylliannol amrywiol drwy’r gwasanaeth ieuenctid a sefydliadau partner.

“Nod Strategaeth Hybu’r Gymraeg yw adeiladu ar y gwaith hwn a’n helpu i fodloni ein rhwymedigaethau yn ôl Safonau’r Gymraeg ac rydym yn awyddus i dderbyn adborth ar y ddogfen gan gynifer o bobl â phosib.”

Lluniwyd y strategaeth ddrafft gan grŵp tasg a gorffen trawsbleidiol, gyda chefnogaeth gan Fenter Iaith Castell-nedd Port Talbot. Nid gwaith y cyngor yn unig yw cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, ond mae’r strategaeth ddrafft yn amlinellu sut gall y cyngor ddefnyddio ei gyfrifoldebau i ddylanwadu ar hyn, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol, ar draws y fwrdeistref sirol.

Mae copi o’r strategaeth ddrafft a holiadur ar-lein ar gael yn www.npt.gov.uk/StrategaethyGymraeg. Mae copïau caled o’r holiadur a blychau ar gyfer eu dychwelyd ar gael mewn adeiladau dinesig a llyfrgelloedd ar draws y fwrdeistref sirol.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle