Wales Wildflower Weekend – Penwythnos Blodau Gwyllt Cymru

0
928

Go Wild in the Garden

 

Wonderful wildflowers will be celebrated with two days of special events at the National Botanic Garden of Wales this weekend (June 16-17).

 

Wales Wildflower Day has been held at the Garden for the past six years but this year, as part of the Growing the Future project, it will be a weekend-long celebration of these important and beautiful flowers.

 

Nature lovers will get the chance to get up close and personal, not only with a whole host of wildflowers, especially in the orchid-rich meadows, but with the insects, butterflies and moths which mingle with the wild plant life as part of Wales Wildflower Weekend.

 

Why should we care about wildflowers?  With talks and guided walks, experts will be on hand to talk about wildflower and pollinators.  They’ll also demonstrate how you can help to conserve wildflowers, and their pollinators, in your own garden.

 

Saturday’s highlights include a talk on how to create a wildflower garden, by the Botanic Garden’s Head of Science, Dr Natasha de Vere, and a Welsh-language guided walk by Garden volunteer, Marie Evans, which will also be suitable for Welsh learners.  Also on Saturday, there will be a special tribute to the late Quentin Kay, who was instrumental in establishing the National Botanic Garden of Wales and was on the original steering committee, working tirelessly to bring it into being. There will be a display of his life’s work in Principality House and a walk to a new commemorative bench in an orchid-rich hay meadow.

 

Sunday includes butterfly and bee walks by Deborah Sazer and a talk on Wales’ rarest wildflowers by one of the Garden’s horticulturists, Carly Green.  A full programme of walks and talks can be found on the Garden’s website.

 

There’ll be something to get children interested in wildflowers too, with our fab family activities!  The weekend’s activities include guided walks for children, clay botanical pressing, finger print painting and making foam bee coasters.

 

Organiser Bruce Langridge said: “Our beautiful orchid-rich meadows and displays of rare and endangered wildflowers are only a few minutes from the Garden’s Four Seasons restaurant. Wales Wildflower Weekend will be a great opportunity to join plant enthusiasts and pollinator experts in being inspired by Welsh wildflowers.”

 

The Garden is open from 10am to 6pm with last entry at 5pm. Admission to the Garden is £14.50 (including Gift Aid) for adults and this includes entry to the new British Birds of Prey attraction. Under 5s are free. Entry is FREE for Garden members and parking is free for all.

 

For more information about this or other events, please call 01558 667149, email gtf@gardenofwales.org.uk or visit botanicgarden.wales.

Ewch yn Wyllt yn yr Ardd

 

Caiff blodau gwyllt hyfryd eu dathlu gyda dau ddiwrnod o ddigwyddiadau arbennig yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru’r penwythnos yma, Mehefin 16-17.

 

Mae Diwrnod Blodau Gwyllt Cymru wedi cael ei gynnal yn yr Ardd am y chwe blynedd diwethaf ond eleni, fel rhan o brosiect Tyfu’r Dyfodol, bydd yn ddathliad penwythnos cyfan o’r blodau pwysig a hardd hyn.

 

Bydd y rhai hynny sy’n dwlu am natur yn cael y cyfle i agosáu ddim yn unig at lu o flodau gwyllt, yn enwedig yn y gweunydd llawn tegeirianau, ond hefyd at bryfed, pili-palod a’r gwyfynod, sy’n ffactorau holl bwysig ym mywydau’r blodau gwyllt fel rhan o Benwythnos Blodau Gwyllt Cymru.

 

Pam y dylem ofalu am flodau gwyllt? Gyda sgyrsiau a theithiau tywys, bydd gan arbenigwyr lawer i’w rannu gyda chi am flodau gwyllt a pheillwyr. Byddant hefyd yn dangos sut y gallwch helpu i warchod blodau gwyllt, a’u peillwyr, yn eich gardd eich hun.

 

Mae uchafbwyntiau Dydd Sadwrn yn cynnwys sgwrs ar sut i greu gardd flodau gwyllt, gan Bennaeth Gwyddoniaeth yr Ardd Fotaneg, Dr Natasha de Vere, a thaith gerdded drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg dan arweiniad un o wirfoddolwyr yr Ardd, Marie Evans. Bydd y daith hefyd yn addas i ddysgwyr.   Hefyd ar ddydd Sadwrn, bydd teyrnged arbennig i’r diweddar Quentin Kay, a oedd yn allweddol wrth sefydlu Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ac yn aelod o’r pwyllgor lliwio gwreiddiol, gan weithio’n ddiflino i wireddu’r atyniad. Bydd yna arddangosfa o waith ei fywyd yn Nhŷ Principality a thaith gerdded i fainc goffa newydd mewn gwaun sy’n llawn tegeirianau.

 

Mae dydd Sul yn cynnwys teithiau cerdded ar wenyn a phili-palod dan arweiniad Deborah Sazer a sgwrs ar flodau gwyllt mwyaf prin Cymru gan un o arddwyr yr Ardd, Carly Green.  Gallwch weld rhestr lawn o’r teithiau cerdded a sgyrsiau ar wefan yr Ardd.

 

Bydd rhywbeth ar gael i ennyn diddordeb y plant mewn blodau gwyllt hefyd, gyda’n gweithgareddau llawn hwyl i’r teulu. Mae gweithgareddau’r penwythnos yn cynnwys teithiau tywys i blant, gwasgu blodau mewn i glai, peintio gydag olion bysedd a chreu matiau diod gwenynen gan ddefnyddio ewyn.

 

Meddai’r trefnydd, Bruce Langridge: “Mae ein gweunydd hyfryd sy’n llawn tegeirianau ac arddangosfeydd o flodau gwyllt prin o fewn rhai munudau o Fwyty Tymhorau’r Ardd.  Bydd Penwythnos Blodau Gwyllt Cymru yn gyfle i ymuno â selogion ac arbenigwyr ar blanhigion, paill a phryfed peillio, a chael eich ysbrydoli gan flodau gwyllt Cymru.”

 

Mae’r Ardd ar agor rhwng 10yb a 6yh, gyda’r mynediad diwethaf am 5yh. Mae’r tâl mynediad i’r Ardd yn £14.50 (gan gynnwys Cymorth Rhodd) i oedolion ac sy’n cynnwys mynediad i’r atyniad Adar Ysglyfaethus newydd.  Mae plant dan 5 mlwydd oed am ddim. Mae mynediad AM DDIM i aelodau’r Ardd a pharcio am ddim i bawb.

 

Am fwy o wybodaeth am hwn a digwyddiadau eraill, ffoniwch 01558 667149, e-bostiwch gtf@gardenofwales.org.uk neu ewch i garddfotaneg.cymru os gwelwch yn dda.

 

Mae’r digwyddiad hwn fel rhan o brosiect Tyfu’r Dyfodol Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.  Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid trwy Raglen Datblygu Wledig 2014-2020 – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Ardaloedd Gwledig, a Llywodraeth Cymru.

 

Dilynwch yr Ardd ar Facebook, Twitter ac Instagram

Dilynwch prosiect Tyfu’r Dyfodol ar Facebook a Twitter ac Instagram

 

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle