Carmarthen West will be complete by the end of the year
WORK on the second phase of the £5million Carmarthen West transport scheme will be underway again this week.
Carmarthenshire County Council has reached agreement on the acquisition of a final key area of land and says the scheme should be complete by the end of the year.
The Council has also been granted a Compulsory Purchase Order over all the land required, to ensure the road can be completed, given the lack of agreement with one or two landowners.
The road will connect the A40 at Travellers Rest with College Road providing direct access to the trunk road network for key employment sites at St David’s Park, Hywel Dda Health Board’s Hafan Derwen and the University of Wales Trinity St David’s Carmarthen campus.
It will also serve the new S4C headquarters Yr Egin, a major project for the Swansea Bay City Region.
Carmarthen West has been identified as a strategic site within the council’s Local Development Plan and is allocated for mixed use development including 1,100 new homes, a primary school, employment space, a small retail centre, open space and affordable housing. The first phase of the scheme was completed in October, with the opening of a new junction at Job’s Well Road, laying of services and the formation of the route of the road. A new arch bridge has also been constructed over the Tawelan Brook.
Negotiations have since been underway between the council and landowners, to allow the second phase to be completed.
The council has now instructed its contractors, Alun Griffiths (Contractors) Ltd, to proceed with works.
A planning agreement, which will release £2.4million of funding towards the scheme as part of the planning permission for 250 houses, has also been signed off.
The agreement also provides for affordable housing and play areas.
Cllr Hazel Evans, executive board for environment, said: “This is a huge transport scheme that will improve the road network and complement a number of key development schemes in the pipeline for Carmarthen West. We’re delighted to instruct our contractors to proceed with works.”
Leader of the council, Cllr Emlyn Dole, added: “This development brings a significant economic benefit to the county, not only in terms of the employment and training opportunities it creates in the construction phase, but in opening up new links for business in the long-term.”
Cwblhau Gorllewin Caerfyrddin erbyn diwedd y flwyddyn
BYDD gwaith yn ailddechrau yr wythnos hon ar ail gam cynllun trafnidiaeth Gorllewin Caerfyrddin a fydd yn costio £5 miliwn.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi dod i gytundeb ynghylch caffael y darn allweddol terfynol o dir ac yn dweud y dylai’r cynllun gael ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn.
Hefyd mae Gorchymyn Prynu Gorfodol wedi cael ei roi i’r Cyngor dros yr holl dir sydd ei angen, i sicrhau y gellir cwblhau’r ffordd, o ystyried diffyg cytundeb ag un neu ddau dirfeddiannwr.
Bydd y ffordd yn cysylltu’r A40 ger Travellers Rest â Ffordd y Coleg, gan ddarparu mynediad uniongyrchol i’r rhwydwaith cefnffyrdd ar gyfer safleoedd cyflogaeth allweddol sef Parc Dewi Sant, Hafan Derwen Bwrdd Iechyd Hywel Dda a champws Caerfyrddin Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Bydd y ffordd newydd hefyd yn gwasanaethu pencadlys newydd S4C, sef Yr Egin, sy’n brosiect mawr ar gyfer Dinas-ranbarth Bae Abertawe.
Mae Gorllewin Caerfyrddin wedi’i nodi’n safle strategol yng Nghynllun Datblygu Lleol y Cyngor ac mae wedi cael ei ddynodi ar gyfer datblygiad defnydd cymysg gan gynnwys 1,100 o dai newydd, ysgol gynradd, lle cyflogaeth, canolfan siopa fach, man agored a thai fforddiadwy. Cwblhawyd cam cyntaf y cynllun ym mis Hydref a oedd yn cynnwys agor cyffordd newydd yn Heol Ffynnon Job, gosod gwasanaethau a ffurfio llwybr y ffordd. Hefyd, mae pont fwa newydd wedi cael ei hadeiladu dros Nant Tawelan.
Ers hynny mae trafodaethau wedi bod ar waith rhwng y Cyngor a’r tirfeddianwyr i ganiatáu i’r ail gam gael ei gwblhau.
Mae’r Cyngor bellach wedi cyfarwyddo ei gontractwyr, Alun Griffiths (Contractors) Ltd, i fwrw ymlaen â’r gwaith.
Mae cytundeb cynllunio, a fydd yn rhyddhau £2.4 miliwn o gyllid tuag at y cynllun fel rhan o’r caniatâd cynllunio i godi 250 o dai, hefyd wedi cael ei gymeradwyo.
Mae’r cytundeb hefyd yn darparu ar gyfer tai fforddiadwy a mannau chwarae.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Mae hwn yn gynllun trafnidiaeth enfawr a fydd yn gwella’r rhwydwaith ffyrdd ac yn ategu nifer o gynlluniau datblygu allweddol sydd ar y gweill ar gyfer Gorllewin Caerfyrddin. Rydym yn falch iawn o gael cyfarwyddo ein contractwyr i fwrw ymlaen â’r gwaith.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor: “Mae’r datblygiad hwn yn cynnig manteision economaidd sylweddol i’r sir, nid yn unig o ran y gwaith a’r cyfleoedd hyfforddiant y mae’n eu creu yn ystod y cyfnod adeiladu, ond o ran agor cysylltiadau newydd ar gyfer busnes yn y tymor hir.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle