Tyisha community to be part of major change | Cymuned Ty-isa i fod yn rhan o newid mawr

0
712

Tyisha community to be part of major change

BIG changes are on the horizon for Llanelli’s Tyisha ward, and the community is being placed firmly in the driving seat.

Carmarthenshire County Council, working in partnership with a number of key organisations, is undertaking a huge community engagement programme to gain views and ideas ahead of the development of a regeneration plan for the area.

It means residents, tenants and businesses will have real opportunity to help plan for changes and improvements that will affect their future.

Cllr Cefin Campbell, executive board member for communities, and Cllr Linda Evans, executive board member for housing, are leading the engagement programme saying they want everyone in Tyisha to bring ideas and opinions on what matters to them.

The council has brought community engagement specialists on board and a programme of consultation activities will be held during the summer, aimed at reaching everyone who lives and works in the area.

Local school children will be making a 3D model of Tyisha, and the community will be invited to events to gather views and show where they want change to happen.

Local councillors and the AM and MP for Llanelli are being involved from the outset.

Cllr Campbell said: “We know that Tyisha has its problems, but we also recognise that it has a fantastic community spirit. People really want to see the area improve and we want people to be part of the change. There is real potential to do something and we’re excited about what lays ahead.”

All the views, opinions and ideas gathered from the community will feed in to a regeneration masterplan which will be developed early 2019.

Whilst representing socio-economic and environmental challenges, Tyisha is seen as an area of strategic importance, lying between Llanelli town centre and the proposed Life Science and Wellness Village at Delta Lakes.

It has the highest population density in Carmarthenshire, and over a quarter of housing is social rented, in low demand and difficult to let. There is also a high proportion of flats and maisonettes which no longer meet the needs of the community.

These are amongst the issues that need to be addressed.

Cllr Evans said: “With the Llanelli Life Science and Well-being Village being developed right on the doorstep of the Tyisha we want to ensure that the wider community benefits from such a significant development. We are all coming from common ground – we want the area to improve. We really hope that residents, tenants and businesses will take this opportunity with both hands and work with us all, the council and our partners, to ensure future investment and development is what the community needs and wants.”

Joining the council for the engagement programme are Dyfed Powys Police, Mid and West Wales Fire and Rescue Service, Llanelli Town Council, Pobl, and Ysgol Pen Rhos, amongst others.

Local officers and community representatives will be leading the engagement and will be attending a variety of community events, locations and projects during July and August.

This engagement model is being piloted in the Tyisha ward and if successful will be further developed and replicated in other communities across Carmarthenshire.

Further information will be made available to the Tyisha community in the coming weeks.

Cymuned Ty-isa i fod yn rhan o newid mawr

 

MAE newidiadau mawr ar y gweill i ward Ty-isa, Llanelli a’r gymuned sydd wrth y llyw.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin, mewn partneriaeth â nifer o sefydliadau allweddol, yn ymgymryd â rhaglen ymgysylltu cymunedol enfawr er mwyn cael sylwadau a syniadau ynghylch datblygu cynllun adfywio ar gyfer yr ardal.

Mae’n golygu y bydd gan breswylwyr, tenantiaid a busnesau gyfle go iawn i helpu i gynllunio ar gyfer newidiadau a gwelliannau a fydd yn effeithio ar eu dyfodol.

Y Cynghorydd Cefin Campbell, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a’r Cynghorydd Linda Evans, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Dai sy’n arwain y rhaglen ymgysylltu ac maen nhw eisiau i bawb yn ardal Ty-isa i ddod â syniadau a sylwadau ynghylch yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw.

Mae’r Cyngor wedi cynnwys arbenigwyr ymgysylltu cymunedol a chynhelir rhaglen o weithgareddau ymgynghori yn ystod yr haf gyda’r nod o gyrraedd pawb sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardal.

Bydd plant ysgol lleol yn gwneud model 3D o Dy-isa a gwahoddir holl aelodau’r gymuned i ddigwyddiadau er mwyn casglu sylwadau a dangos beth maent yn dymuno ei newid.

Mae cynghorwyr lleol a’r Aelod Cynulliad a’r Aelod Seneddol ar gyfer Llanelli ynghlwm wrth y rhaglen o’r dechrau.

Dywedodd y Cynghorydd Campbell: “Rydym yn gwybod bod gan Dy-isa broblemau ond rydym hefyd yn cydnabod bod ysbryd cymunedol gwych yn yr ardal. Mae pobl wir eisiau gweld yr ardal yn gwella ac rydym eisiau i bobl fod yn rhan o’r newid. Mae potensial go iawn i wneud rhywbeth ac rydym yn gyffrous am yr hyn sydd o’n blaenau.”

Bydd yr holl sylwadau, safbwyntiau a syniadau a gesglir o’r gymuned yn llywio prif gynllun adfywio a fydd yn cael ei ddatblygu yn gynnar yn 2019.

Er bod gan ardal Ty-isa heriau economaidd-gymdeithasol ac amgylcheddol, mae’n ardal o bwysigrwydd strategol, rhwng canol tref Llanelli a’r Pentref Gwyddor Bywyd a Llesiant arfaethedig yn Llynnoedd Delta.

Mae gan Dy-isa y dwysedd poblogaeth uchaf yn Sir Gaerfyrddin ac mae dros chwarter o’r tai yn yr ardal yn rhai rhent cymdeithasol sydd â galw isel amdanynt ac yn anodd eu gosod. Yn ogystal, mae nifer uchel o fflatiau a fflatiau deulawr nad ydynt bellach yn bodloni anghenion y gymuned.

Dyma rai o’r materion sydd angen ymdrin â nhw.

Meddai’r Cynghorydd Evans: “Gan fod Pentref Gwyddor Bywyd a Llesiant Llanelli yn cael ei ddatblygu nid nepell o Dy-isa, rydym eisiau sicrhau bod y gymuned ehangach yn cael budd o ddatblygiad mor nodweddiadol. Rydym ni i gyd eisiau’r un peth sef awydd i’r ardal wella. Rydym wir yn gobeithio y bydd preswylwyr, tenantiaid a busnesau yn manteisio ar y cyfle hwn â meddwl agored gan gydweithio â ni, y Cyngor a’n partneriaid er mwyn sicrhau buddsoddiad yn y dyfodol a datblygiad sydd ei angen ar y gymuned.”

Yn ogystal â’r Cyngor, mae Heddlu Dyfed-Powys, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Cyngor Tref Llanelli, Pobl, Ysgol Pen Rhos ymysg eraill yn rhan o’r rhaglen ymgysylltu hon.

Swyddogion lleol a chynrychiolwyr cymunedol fydd yn arwain y gwaith ymgysylltu a byddant yn ymweld â digwyddiadau cymunedol, lleoliadau a phrosiectau amrywiol yn ystod misoedd Gorffennaf ac Awst.

Mae’r model ymgysylltu hwn yn cael ei dreialu yn ward Ty-isa ac os bydd yn llwyddiannus, caiff ei ddatblygu a’i ailadrodd mewn cymunedau eraill ledled Sir Gaerfyrddin.

Bydd gwybodaeth ychwanegol ar gael i gymuned Ty-isa yn yr wythnosau nesaf.

 

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle