Welsh in Education Plan launched/Lansio Cynllun y Gymraeg mewn Addysg

0
564
Pic caption: L-R Catrin Griffiths Welsh Language Development Manager; Gareth Morgans Director of Education and Children’s Services; Cllr Glynog Davies, executive board member for Education and Children’s Services; Aeron Rees, Head of Curriculum and Wellbeing.

Welsh in Education Plan launched

 

CARMARTHENSHIRE’S Welsh in Education Strategic Plan (WESP) has been launched today (Monday, June 25)

In accordance with statutory requirements, under the Standards and Organisation (Wales) Act 2013, Local Authorities are required to prepare a Welsh in Education Strategic Plan (WESP).

Carmarthenshire’s WESP was approved by Welsh Government in March 2018 following full statutory public consultation.

Carmarthenshire’s WESP aims to ensure that all pupils are given the opportunity to be able to become more fluently bilingual by the end of primary school (Key Stage 2) to their expected levels and then develop this attribute through to secondary school, whilst also ensuring the acquisition of other languages, as set out in the New Curriculum for Wales.

The Plan reflects the Welsh Government’s wider strategy for the Welsh language which is to realise ‘A million Welsh speakers by 2050’. To achieve that, the Welsh Government believes that several things need to happen, one of which includes ‘more children in Welsh-medium education’.

Executive board member responsible for education and children’s services, Cllr Glynog Davies, said: “We are proud that here in Carmarthenshire we are making great strides towards helping the Welsh Government to fulfil its vision for a million Welsh speakers by 2050 by implementing our Welsh in Education Strategic Plan. We intend to move every primary and secondary school along the language continuum, so that each school plays its particular part in realising this ambition. For those schools which are already on the journey the timescale will be comparatively short, for others, it will be a longer term aim.

“Support will be available to train staff in order to improve their linguistic skills, where required, and also to offer professional development, thus enhancing teaching provision across all age groups. We will be developing the skills and confidence of teachers to teach through the medium of Welsh whilst also upskilling support staff to lend assistance in the classroom.”

Guidance will also be offered to school governors and school leaders.

Leader of the council, Cllr Emlyn Dole said: “I recognise the importance of creating opportunities for the pupils of Carmarthenshire to become confident in Welsh and English.

“All our young people, from all walks of life, should have the opportunity to be bilingual when they emerge from our education system, proud of their identity and able to celebrate both languages.”

 

Find out more about WESP by vising the education pages at www.carmarthenshire.gov.uk

Lansio Cynllun y Gymraeg mewn Addysg

 

MAE Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Sir Gaerfyrddin wedi cael ei lansio heddiw (Dydd Llun, 25 Mehefin).

Yn unol â gofynion statudol, o dan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth (Cymru) 2013, mae’n ofynnol i Awdurdodau Lleol baratoi Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg.

Cafodd y Cynllun ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ym Mawrth 2018 yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus statudol llawn.

Nod y Cynllun yw sicrhau bod yr holl ddisgyblion yn cael cyfle i fod yn rhugl yn y ddwy iaith erbyn diwedd eu cyfnod yn yr ysgol gynradd (Cyfnod Allweddol 2) i’w lefelau disgwyliedig ac yna datblygu’r nodwedd hon ymlaen i’r ysgol uwchradd, ond ar yr un pryd, sicrhau bod disgyblion yn dysgu ieithoedd eraill, fel y nodir yn y Cwricwlwm Newydd ar gyfer Cymru.

Mae’r Cynllun yn adlewyrchu strategaeth ehangach Llywodraeth Cymru o ran yr Iaith Gymraeg sef cyrraedd ‘Miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050’. I gyrraedd y nod hwn, mae Llywodraeth Cymru yn credu bod angen i sawl peth ddigwydd ac un o’r rheiny yw ‘mwy o blant mewn addysg cyfrwng Cymraeg’.

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Gwasanaethau Plant: “Rydym yn falch yma yn Sir Gaerfyrddin ein bod ni’n cymryd camau tuag at helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni ei weledigaeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 drwy weithredu ein Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg. Rydym yn bwriadu symud bob ysgol gynradd ac uwchradd ymlaen ar hyd y continwwm iaith er mwyn i bob ysgol chwarae rhan benodol o ran gwireddu’r uchelgais hwn. Ar gyfer yr ysgolion hynny sydd eisoes ar y siwrnai, bydd yr amserlen yn gymharol fyr ond i eraill, bydd yn nod fwy tymor hir.

“Bydd cymorth ar gael i hyfforddi staff er mwyn gwella’u sgiliau ieithyddol, lle bo angen, a hefyd cynnig datblygiad proffesiynol ac o ganlyniad gwella’r ddarpariaeth addysgu ar draws yr holl grwpiau oedran. Byddwn ni’n datblygu sgiliau a hyder athrawon i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ac ar yr un pryd, gwella sgiliau staff cymorth i helpu yn yr ystafell ddosbarth.”

Yn ogystal, cynigir arweiniad i lywodraethwyr ysgolion ac arweinwyr ysgolion.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Emlyn Dole: “Rwy’n cydnabod pwysigrwydd creu cyfleoedd i ddisgyblion Sir Gaerfyrddin gael bod yn hyderus yn y Gymraeg ac yn Saesneg.

“Dylai ein holl bobl ifanc, waeth beth yw eu cefndir, gael y cyfle i fod yn ddwyieithog pan fyddant yn gadael ein system addysg, yn falch o’u hunaniaeth ac yn gallu dathlu’r ddwy iaith.”

 

Gellir cael rhagor o wybodaeth ynghylch Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg drwy fynd i’r tudalennau addysg: www.sirgar.llyw.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle