Major road resurfacing gets underway/Dechrau’r gwaith o osod wyneb newydd ar ffyrdd

0
636
Pic Jeff Connell 13/04/15

Major road resurfacing gets underway

 

CARMARTHENSHIRE County Council is starting a £4m programme of major road resurfacing on a number of roads around the county.

Carmarthenshire has the second largest road network in Wales and has secured £2.2m in funding from Welsh Government to add to its own budgets to enable a substantial investment in the county’s roads.  The works being undertaken will repair many existing roads and help sustain the highway network for the future.

Nearly 100 sections of road will be resurfaced in total with some of the routes selected to support the forthcoming 2018 OVO Energy Tour of Britain cycle race in September.

Motorists are urged to exercise patience when works are being undertaken and to be aware of any advance warning signs and diversion routes which are put in place to help motorists.

All of the works should be complete by the end of October and further details of roadworks are available through the County Council’s website.

Executive Board Member with responsibility for environment Cllr Hazel Evans said: “Our road network is of vital importance to Carmarthenshire and we need to keep it fit for purpose. This investment will help ensure good quality road surfaces and maintain road safety. I would like to thank road users for their patience whilst these works are being carried out.”

To find out more about OVO Energy  and tneir involvement in the Tour of Britain cycle race click here: https://www.ovoenergy.com/tour-of-britain

Dechrau’r gwaith o osod wyneb newydd ar ffyrdd

MAE Cyngor Sir Caerfyrddin yn dechrau rhaglen gwerth £4 miliwn sy’n cynnwys gosod wyneb newydd ar nifer o ffyrdd ledled y sir.

Sir Gaerfyrddin sydd â’r rhwydwaith priffyrdd ail fwyaf yng Nghymru a llwyddwyd i gael £2.2m gan Lywodraeth Cymru yn ogystal â’i chyllideb ei hun er mwyn sicrhau buddsoddiad sylweddol yn ffyrdd y sir. Bydd y gwaith hwn yn golygu bod nifer o ffyrdd presennol yn cael eu hatgyweirio a bydd yn helpu i gynnal y rhwydwaith priffyrdd ar gyfer y dyfodol.

Bydd wyneb newydd yn cael ei osod ar bron i 100 darn o ffyrdd ac mae rhai o’r llwybrau wedi’u dewis i gefnogi ras feicio Taith Prydain OVO Energy 2018 ym mis Medi.

Mae gyrwyr yn cael eu hannog i fod yn amyneddgar tra bydd y gwaith yn cael ei wneud ac i fod yn ymwybodol o unrhyw arwyddion rhybuddio ac unrhyw lwybrau dargyfeirio sy’n cael eu gweithredu i helpu modurwyr.

Dylai’r holl waith fod wedi’i gwblhau erbyn diwedd mis Hydref ac mae manylion pellach ynghylch gwaith ffordd ar gael ar wefan y Cyngor Sir.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol sy’n gyfrifol am yr Amgylchedd: “Mae ein rhwydwaith ffyrdd yn hanfodol bwysig i Sir Gaerfyrddin ac mae angen inni sicrhau ei fod yn addas i’r diben. Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i sicrhau wynebau ffyrdd o safon dda a chynnal diogelwch ffyrdd. Hoffwn ddiolch i ddefnyddwyr ffordd am eu hamynedd tra bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud.”

I ddarganfod mwy am OVO Energy a chymryd rhan ym maes beicio Tour of Britain, cliiciwch yma:https://www.ovoenergy.com/tour-of-britain



Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle