Barbecue advice to prevent grass fires | Cyngor ynghylch cael barbeciw ac atal tân gwair

0
494

Barbecue advice to prevent grass fires

 

CARMARTHENSHIRE’S beautiful countryside and coast makes the ideal backdrop for a summer barbecue, but the county council is urging people to ensure they are kept under control and disposed of safely to prevent fires taking hold.

With the grass dry following a period intense heat, there are concerns about the risks of grass and forest fires, particularly in popular spots such as country parks, playing fields and along roadside verges.

Carmarthenshire County Council has issued advice and will be stepping up patrols at council-run locations to advise people about safety.

Grass fires can get out of control very quickly, cause extensive damage and put lives and wildlife at risk.

Discarded items such as cigarette butts and glass bottles can also cause fires.

Cllr Philip Hughes, Executive Board Member for Public Protection, said: “With the heatwave set to continue into the weekend, many families are likely to bring out the barbecue, but we are urging people to put safety first.

“Barbecues can be enjoyed safely if they are closely monitored, under control and disposed of in the right way.

“Litter is also a concern and as well as being unsightly can become a serious risk to our environment.

“We don’t want to spoil anyone’s fun but of course our priority is to keep everyone safe.”

 

Tips for barbecuing in a public place

  • If you are planning to have a barbecue in a public place, ensure that you are allowed to do so at the location you intend to use – and never leave the barbecue unattended
  • Particular care should be taken in hot, dry weather to reduce the risk of starting a forest or grass fire
  • Take care when getting rid of a disposable barbecue or barbecue coals – ensure they have cooled down before placing them in a bin, charcoal can stay hot for a long time, even if it looks like the heat has gone
  • Never take a used barbecue into an enclosed space, like a tent, as this may cause fatal carbon monoxide poisoning

 

  • Tips to help to prevent grass fires

 

  • Avoid using open fires in the countryside
  • Keep young children and ball games away from barbecues
  • Extinguish cigarettes and other smoking materials properly
  • Only use barbecues in suitable and safe areas and never leave them unattended
  • Never throw cigarette ends out of car windows
  • Ensure barbecues are fully extinguished and cold before disposing of the contents
  • Sunlight shining through glass can start large fires – take glass bottles/jars to the nearest community recycling center on your way home if there is no glass recycling facility in the vicinity

 

  • If a fire breaks out

 

  • Call the Fire and Rescue Service – 999 – immediately
  • It can be hard to give the location for an open area so mention any landmarks, such as a public house or a church in the vicinity
  • Do not attempt to put the fire out yourself unless it is very small. Grass and crop fire can travel very quickly and change direction without warning

 

  • Barbecue food safety advice

 

  • Pre-cook food in a conventional oven before lighting the barbecue, which can then be used to give the food a smoky flavour
  • Avoid cross-contamination by storing raw meat separately before cooking, using different utensils, plates and chopping boards for raw and cooked food, and washing hands thoroughly before and after handling raw foods including meat, fish, eggs and vegetables
  • Never wash raw chicken or other meat, which can cause bacteria to splash on to other foods or preparation surfaces
  • When cooking, remember that disposable barbecues take longer, so move the food around the barbecue and turn frequently to ensure even cooking, and cut open meat to ensure it is cooked through

Cyngor ynghylch cael barbeciw ac atal tân gwair

 

Mae arfordir a chefn gwlad hardd Sir Gaerfyrddin yn lleoedd delfrydol i gael barbeciw yn yr haf, ond mae’r Cyngor Sir yn annog pobl i sicrhau eu bod yn cadw eu barbeciws dan reolaeth ac yn eu gwaredu’n ddiogel i atal tanau.

Yn dilyn cyfnod o wres tanbaid mae’r gwair yn sych ac felly mae pryderon ynghylch tanau coedwig a gwair posibl, yn enwedig mewn llecynnau poblogaidd megis parciau gwledig a chaeau chwarae, ac ar hyd ymylon ffyrdd.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi darparu cyngor a bydd yn cynnal rhagor o batrolau mewn mannau a reolir gan y Cyngor i roi cyngor i bobl ynghylch diogelwch.

Gall tân gwair losgi’n ddireolaeth yn gyflym iawn, achosi difrod helaeth a pheryglu bywydau pobl a bywyd gwyllt.

Gall eitemau sydd wedi eu taflu megis bonion sigarét a photeli gwydr hefyd achosi tân.

Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu’r Cyhoedd: “Wrth i’r tywydd poeth barhau ar y penwythnos, mae llawer o deuluoedd yn debygol o ddefnyddio’r barbeciw, ond rydym yn annog pobl i roi diogelwch yn gyntaf.

“Mae modd mwynhau barbeciws yn ddiogel os cânt eu monitro’n ofalus, eu cadw dan reolaeth a’u gwaredu yn y ffordd iawn.

“Mae sbwriel hefyd yn destun pryder ac yn ogystal â chreu annibendod gall fod yn berygl difrifol i’n hamgylchedd.

“Nid ydym am dorri ar hwyl neb, ond wrth gwrs ein blaenoriaeth yw cadw pawb yn ddiogel.”

 

Cynghorion ynghylch cael barbeciw mewn lle cyhoeddus

  • Os ydych yn bwriadu cael barbeciw mewn man cyhoeddus, sicrhewch fod hawl gennych i wneud hynny yn y lleoliad yr ydych yn bwriadu ei ddefnyddio – a pheidiwch byth â gadael y barbeciw heb fod rhywun yn cadw golwg arno
  • Dylid cymryd gofal arbennig yn ystod tywydd poeth a sych i leihau’r risg o gynnau tân coedwig neu dân gwair
  • Byddwch yn ofalus wrth gael gwared ar farbeciw tafladwy neu olosg barbeciw – sicrhewch ei fod wedi oeri cyn ei roi mewn bin. Gall y golosg fod yn grasboeth o hyd a hynny am dipyn o amser, hyd yn oed os yw’n edrych fel petai wedi oeri
  • Peidiwch byth â mynd â barbeciw sydd wedi cael ei ddefnyddio i mewn i le caeedig megis pabell oherwydd gallai hyn achosi gwenwyn carbon monocsid angheuol

 

  • Cynghorion ynghylch atal tân gwair
  • Dylech osgoi defnyddio tanau agored yn y wlad
  • Cadwch blant ifanc a gemau pêl ymhell oddi wrth y barbeciw
  • Diffoddwch sigaréts a deunyddiau ysmygu eraill yn briodol
  • Defnyddiwch farbeciws mewn mannau addas a diogel yn unig a pheidiwch byth â’u gadael heb fod rhywun yn cadw golwg arnynt
  • Peidiwch byth â thaflu bonion sigarét allan o ffenestr y car
  • Sicrhewch fod barbeciws wedi eu diffodd yn llwyr a’u bod yn oer cyn cael gwared ar y cynnwys
  • Gall golau’r haul yn disgleirio drwy wydr gynnau tân mawr – ewch â photeli/jariau gwydr adref neu eu rhoi mewn bin gwastraff neu ailgylchu

 

  • Os bydd tân

 

  • Ffoniwch y Gwasanaeth Tân ac Achub – 999 – ar unwaith
  • Gall fod yn anodd nodi lleoliad ardal agored felly soniwch am unrhyw dirnodau, megis tafarn neu eglwys yn y cyffiniau
  • Peidiwch â cheisio diffodd y tân eich hun oni bai ei fod yn fach iawn. Gall tân gwair a chnydau deithio’n gyflym iawn a newid cyfeiriad heb rybudd

 

  • Cyngor ynghylch diogelwch bwyd wrth gael barbeciw

 

  • Cofiwch goginio bwyd ymlaen llaw yn ffwrn y gegin ac yna rhoi’r bwyd ar y barbeciw i gael blas mwg
  • Gofalwch eich bod yn osgoi croeshalogi drwy storio cigoedd amrwd ar wahân cyn eu coginio, defnyddio offer cegin, platiau a byrddau torri gwahanol ar gyfer bwydydd amrwd a bwydydd wedi’u coginio a golchi dwylo’n drylwyr cyn ac ar ôl trafod bwydydd amrwd sy’n cynnwys cig, pysgod, wyau a llysiau
  • Peidiwch byth â golchi cyw iâr amrwd neu gig amrwd arall gan y gallai hynny achosi i facteria dasgu ar fwydydd eraill neu ar arwynebau paratoi
  • Wrth goginio cofiwch fod barbeciws tafladwy yn coginio’n arafach, felly dylech symud y bwyd o amgylch y barbeciw a’i droi’n rheolaidd er mwyn coginio’r cwbl yn drylwyr. Hefyd gofalwch eich bod yn torri drwy’r cig er mwyn gweld ei fod wedi ei goginio’n iawn

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle