Pembrey Country Park to host cross country champs
PEMBREY Country Park has been chosen to host major athletics championship events in an exciting new partnership with Welsh Athletics.
The park has built a strong reputation for major sporting events in recent years, including athletics, cross country and all-terrain cycling, and last year played host to a successful Gwent Cross Country League which drew a huge crowd of runners and spectators.
In this new partnership, Welsh Athletics has committed to holding a number of events in Carmarthenshire for the first time, including the prestigious National Cross Country Championships, previously held in North Wales and Swansea.
Securing the event is a big coup for the park, which is also set to hit the sporting limelight in September when it hosts the âGrand Departâ of the Tour of Britain, bringing some of the worldâs best elite cyclists to the county in September.
Alex Donald, Competitions lead for Endurance events at Welsh Athletics, said: âWelsh Athletics are delighted to be able to work in partnership with Carmarthenshire County Council to bring our flagship Cross Country event to West Wales next year.
âPembrey provides the ideal setting and great facilities to host the race, and athletes can expect a fun, scenic and challenging course around the park. The Welsh Cross Country Championships has a rich history and weâre looking forward to seeing our top endurance athletes across all the age ranges come here to test themselves and compete for National honours next February.â
The news has been welcomed by local athletes, including Team GB athlete Caryl Jones, GB Youth International Ben Thomas and Swansea Harriers runner Dewi Griffiths â who all hail from Carmarthenshire.
âPembrey Country Park is on my doorstep so is an ideal place to train,â said Caryl. âIâm excited about this partnership which will see more major athletics events held here in Carmarthenshire.â
Ben Thomas added: âThe landscape and facilities that the park offers make it a great venue for cross country championships. It will be great to have home advantage and the support of a local crowd during these competitions, Iâm really looking forward to it.â
Cllr Peter Hughes Griffiths, Carmarthenshire County Councilâs Executive Board Member for Culture, Sport and Tourism, said: âPembrey Country Park is fast becoming the major sporting venue in Wales and we are delighted to have secured this commitment from Welsh Athletics which will attract huge numbers to the park. This is an exciting development, which â alongside the fantastic cycling opportunities we are bringing to the Park â really puts Carmarthenshire first place on the map for sporting events.â
Pencampwriaeth Traws Gwlad i Barc Gwledig Pen-bre
DEWISWYD Parc Gwledig Pen-bre i gynnal digwyddiadau pencampwriaeth athletau o bwys yn sgil partneriaeth newydd a chyffrous ag Athletau Cymru.
Mae’r parc wedi ennill enw da am gynnal digwyddiadau chwaraeon pwysig yn y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys athletau, traws gwlad a beicio pob tirwedd, a llynedd cafodd Cynghrair Traws Gwlad Gwent ei chynnal yn y parc, a oedd wedi denu torf enfawr o redwyr a gwylwyr.
Yn y bartneriaeth newydd hon, mae Athletau Cymru wedi ymrwymo i gynnal nifer o ddigwyddiadau yn Sir Gaerfyrddin am y tro cyntaf, gan gynnwys y Pencampwriaethau Traws Gwlad Cenedlaethol nodedig, a gynhaliwyd yn flaenorol yng Ngogledd Cymru ac yn Abertawe.
Mae sicrhau’r digwyddiad yn gaffaeliad sylweddol i’r parc, a fydd hefyd yn cael llawer o gyhoeddusrwydd yn y byd chwaraeon pan fydd yn cynnal y “Grand Departâ sef agoriad Taith Prydain ym mis Medi, gan ddenu rhai o feicwyr elitaidd, gorau’r byd i’r sir.
Dywedodd Alex Donald, Arweinydd Cystadlaethau Digwyddiadau Dygnwch Athletau Cymru: “Mae Athletau Cymru yn falch iawn o gael gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Caerfyrddin er mwyn dod â’n digwyddiad Traws Gwlad blaenllaw i Orllewin Cymru y flwyddyn nesaf.
“Mae Pen-bre yn darparu lleoliad delfrydol a chyfleusterau ardderchog i gynnal y ras, a gall athletwyr ddisgwyl cwrs heriol yn llawn hwyl â golygfeydd godidog o amgylch y parc. Mae gan Bencampwriaeth Traws Gwlad Cymru hanes cyfoethog ac rydym yn edrych ymlaen at weld ein hathletwyr dygnwch gorau o bob oedran yn dod i’r parc i herio eu hunain ac i gystadlu am Anrhydeddau Cenedlaethol mis Chwefror nesaf.”
Mae’r newyddion wedi cael croeso gan athletwyr lleol, gan gynnwys yr athletwraig Caryl Jones o dĂŽm Prydain Fawr, Ben Thomas o dĂŽm Ieuenctid Rhyngwladol Prydain Fawr, a’r rhedwr Dewi Griffiths o Harriers Abertawe – sydd oll yn dod o Sir Gaerfyrddin.
“Mae Parc Gwledig Pen-bre ar garreg y drws i mi, felly mae’n lle delfrydol i ymarfer,” dywedodd Caryl. “Rwy’n llawn cyffro am y bartneriaeth hon, lle bydd rhagor o ddigwyddiadau athletau pwysig yn cael eu cynnal yma yn Sir Gaerfyrddin.”
Ychwanegodd Ben Thomas: “Mae’r dirwedd a’r cyfleusterau y mae’r parc yn eu cynnig yn golygu ei fod yn lleoliad gwych ar gyfer Pencampwriaethau Traws Gwlad. Bydd yn wych i gael y fantais gartref a chefnogaeth y dorf leol yn ystod y cystadlaethau hyn, rwyf wir yn edrych ymlaen at y bencampwriaeth.
Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, Aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Mae Parc Gwledig Pen-bre yn prysur ddod yn brif leoliad chwaraeon yng Nghymru ac rydym wrth ein boddau ein bod wedi llwyddo i gael yr ymrwymiad hwn gan Athletau Cymru a fydd yn denu nifer o bobl i’r parc. Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous sydd yn cyd-fynd â’r cyfleoedd beicio gwych yr ydym yn eu cynnig yn y Parc, mae hyn wir yn rhoi Sir Gaerfyrddin ar y blaen o ran digwyddiadau chwaraeon.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle