Action Day to tackle Llanelli litter issue/ Diwrnod Gweithredu i fynd i’r afael â phroblem sbwriel Llanelli

0
705

CARMARTHENSHIRE County Council’s recycling advisors are holding an action day to raise awareness and educate residents about the littering challenges we are facing in Llanelli Town Centre and the surrounding streets.

The advisors will be available on Monday, July 16, 10am – 2pm, outside Boots in Llanelli, handing out advice and freebies such as portable ash trays and gum wraps.

The aim of the action day is to engage with those who live, work and visit Llanelli, to ask them what they think about the environmental quality in the area, what they think could be done to tackle any litter related issues, and who they think the culprits are.

We will also be guiding the public on the correct use of litter and recycling bins, and how to report dog fouling and litter offences.

There will be the chance to sign up and volunteer to do community litter picks, leading to the opportunity to earn time credits which reward volunteers for every hour of time they give.

Cllr Hazel Evans, Executive Board Member for Environment, said: “An action day is a great way for us to engage with the community, and an opportunity for us to communicate crucial information and our methods to the public. Our residents will also get a chance to voice their concerns and suggestions.”

Diwrnod Gweithredu i fynd i’r afael â phroblem sbwriel Llanelli

 

MAE ymgynghorwyr ailgylchu Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynnal diwrnod gweithredu i godi ymwybyddiaeth ac addysgu trigolion am yr heriau yr ydym yn eu hwynebu o ran sbwriel yng nghanol tref Llanelli a’r strydoedd cyfagos.

Bydd yr ymgynghorwyr ar gael ddydd Llun, 16 Gorffennaf, rhwng 10am – 2pm, y tu allan i Boots yn Llanelli, a byddant yn rhoi cyngor ac yn dosbarthu trugareddau am ddim megis blychau llwch cludadwy a phapurau lapio gwm cnoi.

Nod y diwrnod gweithredu yw ymgysylltu â’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yn Llanelli ac yn ymweld â’r dref i ofyn am eu barn ynghylch ansawdd amgylcheddol yr ardal, yr hyn y maent yn credu y gellid ei wneud i fynd i’r afael ag unrhyw broblemau yn ymwneud â sbwriel, a phwy sy’n gyfrifol am ollwng y sbwriel yn eu barn hwy.

Byddwn hefyd yn rhoi arweiniad i’r cyhoedd ynglŷn â’r ffordd gywir o ddefnyddio biniau sbwriel ac ailgylchu, a sut i roi gwybod am droseddau’n ymwneud â baw cŵn a sbwriel.

Bydd yna gyfle i gofrestru er mwyn gwirfoddoli yn ein sesiynau codi sbwriel cymunedol. Mae’r rhain yn arwain at y cyfle i ennill credydau amser, sy’n gwobrwyo gwirfoddolwyr am bob awr o’u hamser y maent yn ei rhoi.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, sef yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Mae diwrnod gweithredu yn ffordd wych o ymgysylltu â’r cyhoedd, ac mae’n gyfle i ni gyfleu gwybodaeth hollbwysig i’r cyhoedd ynghyd â’n dulliau o weithio. Bydd ein trigolion hefyd yn cael cyfle i leisio eu pryderon a’u hawgrymiadau.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle