Schools try out Pembrey’s closed road cycle circuit | Ysgolion yn rhoi cynnig ar gwrs beicio ffordd gaeedig Pen-bre

0
1361
Cycle circuit opening, Pembrey Country Park, Pembrey, Carmarthenshire.

Schools try out Pembrey’s closed road cycle circuit

 

LOCAL school children have been the first to try out the new Closed Road Cycling Circuit at Pembrey Country Park.

A small section of the circuit was opened last Friday for a school cycling festival ahead of the full public opening in early August.

Final touches and safety testing is underway on the purpose-built 1.9km circuit, which will provide a safe, traffic-free environment for coaching and training as well as competitive cycling events and public recreation.

It has been designed and built to British cycling standard, with a 6m wide tarmac surface of varying gradients and bends, to attract local, regional and national events, races and training camps.

Some of the world’s top cyclists will also be using the circuit as part of the prestigious Tour of Britain which will start at Pembrey Country Park on Sunday, September 2.

Carmarthenshire County Council has contributed £500,000 capital funding towards the circuit, with support from Welsh Cycling and Sport Wales.

It is another investment the council has made in cycling infrastructure in the county as part of its ambition for Carmarthenshire to become the cycling hub of Wales.

Elsewhere the council has contributed to renovation of Carmarthen velodrome, and is spending millions on active travel routes, including the Towy Valley Path which is currently underway.

Executive Board Member for Culture, Sport and Tourism, Cllr Peter Hughes-Griffiths, said: “It was fantastic to see local school children using the closed road cycle circuit for the first time. Work has been delayed slightly due to the extreme warm weather we’ve had over the last few weeks so we hope to open the track up to the public in a few weeks’ time.

“This will be the best off road cycling circuit in Wales, if not the UK, which will no doubt attract cyclists from far and wide. There’s already been a huge amount of interest so we are expecting this will be a welcome boost to our tourism and leisure economy as people stay in the area to enjoy everything else Carmarthenshire has to offer, including miles of scenic cycle routes and trails.”

The circuit will be open to the public day to day and free to use, but will also be available for exclusive bookings, which will be managed by Welsh Cycling.

Further details on availability and how to book will be available on www.DiscoverCarmarthenshire.com/cycling over the coming weeks.

 

Ysgolion yn rhoi cynnig ar gwrs beicio ffordd gaeedig Pen-bre

 

PLANT ysgolion lleol oedd y cyntaf i roi cynnig ar y Cwrs Beicio Ffordd Gaeedig newydd ym Mharc Gwledig Pen-bre.

Agorwyd rhan fach o’r cwrs ddydd Gwener diwethaf ar gyfer gŵyl beicio ysgolion a hynny cyn yr agoriad cyhoeddus llawn a fydd yn cael ei gynnal ddechrau mis Awst.

Mae’r gwaith terfynol a phrofion diogelwch yn cael eu cynnal ar y cwrs 1.9km pwrpasol, a fydd yn darparu amgylchedd diogel, di-draffig ar gyfer darparu hyfforddiant yn ogystal â digwyddiadau beicio cystadleuol a chyfleuster hamdden i’r cyhoedd.

Dyluniwyd ac adeiladwyd y cwrs i safon beicio Prydain gyda wyneb tarmac 6 metr o led â graddiannau a throeon amrywiol. Bydd yn denu digwyddiadau, rasys a gwersylloedd hyfforddiant lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

Bydd rhai o feicwyr gorau’r byd hefyd yn defnyddio’r cwrs fel rhan o Daith fawreddog Prydain a fydd yn dechrau ym Mharc Gwledig Pen-bre ddydd Sul, 2 Medi.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cyfrannu £500,000 o gyllid cyfalaf tuag at y cwrs, gyda chefnogaeth gan Beicio Cymru a Chwaraeon Cymru.

Mae’n fuddsoddiad arall y mae’r Cyngor wedi’i wneud i seilwaith beicio yn y Sir fel rhan o’i uchelgais i Sir Gaerfyrddin ddod yn ganolbwynt beicio Cymru.

Mewn lleoliadau eraill mae’r Cyngor wedi cyfrannu at adnewyddu felodrom Caerfyrddin, ac mae’n gwario miliynau ar lwybrau teithio llesol, gan gynnwys Llwybr Dyffryn Tywi sydd ar y gweill ar hyn o bryd.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Roedd yn wych gweld plant ysgolion lleol yn defnyddio’r cwrs beicio ffordd gaeedig am y tro cyntaf. Cafwyd ychydig o oedi yn y gwaith oherwydd y tywydd cynnes eithafol yr ydym wedi’i gael dros yr wythnosau diwethaf felly rydym yn gobeithio agor y trac i’r cyhoedd ymhen ychydig wythnosau.

“Hwn fydd y cwrs beicio oddi ar y ffordd gorau yng Nghymru, os nad yn y DU, a fydd heb os yn denu beicwyr o bell ac agos. Mae llawer o ddiddordeb wedi bod eisoes felly rydym yn disgwyl y bydd hyn yn hwb i’n heconomi twristiaeth a hamdden oherwydd bydd pobl yn aros yn yr ardal i fwynhau popeth arall y mae Sir Gaerfyrddin yn ei chynnig, gan gynnwys milltiroedd o lwybrau beicio â golygfeydd hardd.”

Bydd y cwrs yn agored i’r cyhoedd o ddydd i ddydd ac am ddim i’w ddefnyddio, ond bydd hefyd ar gael ar gyfer archebion unigryw, a fydd yn cael eu rheoli gan Beicio Cymru.

Bydd manylion pellach o ran argaeledd a sut i archebu lle ar gael ar www.darganfodsirgar.com/beicio dros yr wythnosau nesaf.

 

Dywedwyd yn y gorffennol….

Dywedodd Alan Smith, Ysgrifennydd Clwb Beicio’r Bynea: “Bydd y cwrs ffordd gaeedig newydd ym Mhen-bre yn lleoliad perffaith i feicwyr wella eu sgiliau beicio mewn amgylchedd diogel. Bydd y cwrs yn cael ei ddefnyddio ar gyfer hyfforddiant a rasio, a bydd o fudd i feicwyr profiadol sydd eisiau bod ychydig yn gyflymach mewn sportives o bosibl, yn ogystal â beicwyr rhyngwladol a phroffesiynol yn ne-orllewin Cymru a fydd yn defnyddio’r cwrs i baratoi ar gyfer eu cystadlaethau. Mae Clwb Beicio’r Bynea yn edrych ymlaen at gefnogi’r cyfleuster gwych hwn.”

Mae Roger Bowen o glwb lleol, sef Clwb Beicio Amigo, wedi croesawu’r cyfleuster hefyd: “Bydd y cwrs hwn yn cynnig beicio diogel oddi ar y ffordd i feicwyr newydd a beicwyr profiadol fel ei gilydd. Mae gan y cwrs gysylltiadau â’r llwybr arfordirol a’r rhwydweithiau beicio eraill o amgylch Pen-bre, Porth Tywyn, Cydweli a Llanelli, felly dylai fod o fudd mawr i gymuned feicio Sir Gaerfyrddin

 

Cycle circuit opening, Pembrey Country Park, Pembrey, Carmarthenshire.
Cycle circuit opening, Pembrey Country Park, Pembrey, Carmarthenshire.

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle