Free summer reading challenge / Sialens Ddarllen yr Haf yn rhad ac am ddim

0
634

Free summer reading challenge

 

CHILDREN are being urged to take part in this year’s free Summer Reading Challenge.

This year’s challenge, which launched on Saturday, July 14, is Mischief Makers – celebrating the 80th anniversary of the Beano comic.

To take part, all children need to do is to head to their local library where they will be given a colourful collector’s map of Beanotown to keep a record of their reading journey. Visit Ammanford, Carmarthen or Llanelli town libraries along with any of the 15 local community libraries and the three mobile library vans in Carmarthenshire, to be able to enter a competition for the most read books over the summer to win a family ticket to a Pantomime near you. As children read at least six library books over the summer, they will collect stickers which will help them crack the clues and help Dennis, Gnasher and friends find the buried treasure!

The Summer Reading Challenge, a unique partnership between The Reading Agency and public libraries across the UK, last year got over three quarters of a million children borrowing, reading and talking about their favourite books.

For pre-schoolers there is a mini-challenge while young people (aged 13 to 24) can volunteer and support younger children taking part, as part of The Reading Agency’s Reading Hack programme.  Volunteering provides a quality workplace experience for young people in libraries, inspires them to think about their future career and increases their employability as they gain useful life skills and confidence. Last year over 7,500 young people across the UK volunteered.

Carmarthenshire County Council’s executive board member responsible for culture, sport and tourism, Cllr Peter Hughes-Griffiths said: “The Summer Reading Challenge is a fun way for families and children to take part, whilst also inspiring children to read over the holidays, making use of all libraries and mobile vans throughout the county.”

To take part in this free event, all your child has to do is sign up at the library where they will be given a collector poster to keep a record of their Summer Reading Challenge journey. As they read their books, each child will receive special sticker, games, wristband and much more.

For more information on the Summer Reading Challenge including how to get involved contact your local library.

Find your nearest library here

www.carmarthenshire.gov.wales/home/council-services/libraries-archives/find-a-library/

 

Sialens Ddarllen yr Haf yn rhad ac am ddim

 

MAE plant yn cael eu hannog i gymryd rhan yn Sialens Ddarllen yr Haf eleni, sy’n rhad ac am ddim.

Dyfeiswyr Direidi yw thema y sialens eleni, lansiwyd ar ddydd Sadwrn 14 Gorffennaf, i ddathlu 80 mlynedd ers dechrau’r comic, Beano.

I gymryd rhan yn y sialens, y cyfan mae’n rhaid i blant ei wneud yw mynd i’w llyfrgell leol, lle byddant yn cael map lliwgar o Beanotown i gadw cofnod o’u taith ddarllen. Ewch i lyfrgelloedd tref Rhydaman, Caerfyrddin neu Lanelli, yn ogystal ag unrhyw un o’r 15 o lyfrgelloedd cymunedol lleol a’r tair fan lyfrgell deithiol yn Sir Gaerfyrddin, er mwyn cymryd rhan mewn cystadleuaeth ar gyfer y nifer fwyaf o lyfrau a ddarllenwyd yn ystod yr haf, i ennill tocyn teulu ar gyfer pantomeim yn eich ardal chi. Wrth i blant ddarllen o leiaf chwe llyfr llyfrgell dros wyliau’r haf, byddant yn casglu sticeri a fydd yn eu helpu i ddatrys y cliwiau a helpu Dennis, Gnasher a’u ffrindiau i ddod o hyd i’r trysor cudd!

Y llynedd, roedd Sialens Ddarllen yr Haf, partneriaeth unigryw rhwng y Reading Agency a llyfrgelloedd cyhoeddus ledled y DU, wedi ysgogi dros dri chwarter miliwn o blant i fenthyg, darllen a siarad am eu hoff lyfrau.

Mae sialens fach ar gyfer plant cyn oed ysgol, a gall pobl ifanc (rhwng 13 a 24 oed) wirfoddoli a chefnogi’r plant iau sy’n cymryd rhan, fel rhan o raglen Hac Darllen y Reading Agency. Mae gwirfoddoli yn gyfle i bobl ifanc gael profiad gwaith gwerthfawr mewn llyfrgelloedd, yn eu hannog i feddwl am eu gyrfa yn y dyfodol ac yn gwella eu cyflogadwyedd wrth iddynt ddatblygu sgiliau bywyd defnyddiol a magu hyder. Y llynedd, gwirfoddolodd dros 7,500 o bobl ifanc ledled y DU.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn ffordd hwyliog i deuluoedd a phlant gymryd rhan, ac mae hefyd yn ysbrydoli plant i ddarllen dros wyliau’r haf, gan ddefnyddio’r holl lyfrgelloedd a faniau teithiol ledled y Sir.”

Gallwch gymryd rhan yn y sialens yn rhad ac am ddim, a’r cyfan mae’n rhaid i’ch plentyn ei wneud yw ymuno â’r llyfrgell a bydd yn cael poster i gofnodi ei daith drwy Sialens Ddarllen yr Haf. Wrth i’r plant ddarllen eu llyfrau, bydd pob un yn cael sticer arbennig, gemau, band garddwn a llawer mwy.

I gael rhagor o wybodaeth am Sialens Ddarllen yr Haf, gan gynnwys sut i gymryd rhan yn y sialens, cysylltwch â’ch llyfrgell leol.

Chwiliwch am eich llyfrgell agosaf yma:

https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/gwasanaethaur-cyngor/llyfrgelloedd-ac-archifau/dod-o-hyd-i-lyfrgell/#.W0iOYv5THoo


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle