Actif Holiday Club returns for summer holidays/Clwb Gwyliau Actif yn dychwelyd yn ystod yr haf

0
815

Actif Holiday Club returns for summer holidays

 

CARMARTHENSHIRE County Council’s Actif Holiday Clubs are returning for the school summer holidays and parents are being encouraged to book their children in early.

The yearly clubs at Carmarthenshire’s leisure centres will be running from July 25 through until August 31, Monday to Friday (except bank holidays).

Clubs run between 8.30am and 5pm, with half days available at St Clears Leisure Centre for children aged 4-7 years.

Children aged between 8 and 12 years are welcome.

With popular demand and busy parents, Actif Clubs are a great way to keep children engaged in new activities and sports, making new friends and keeping active come rain or shine during the school holidays.

Cllr Peter Hughes Griffiths, Executive Board Member for Culture, Sport and Tourism, said: “The Actif Holiday Clubs are a great option for many parents looking to keep their children active over the summer.

“The clubs have a brilliant range of activities and sports at our leisure centres so there is something for everyone.”

To book, visit www.actifsirgar.co.uk

 

Clwb Gwyliau Actif yn dychwelyd yn ystod yr haf

 

MAE Clybiau Gwyliau Actif Cyngor Sir Caerfyrddin yn dychwelyd yn ystod gwyliau’r haf ac mae rhieni yn cael eu hannog i archebu lle’n gynnar.

Bydd y clybiau, a gynhelir bob blwyddyn yng nghanolfannau hamdden Sir Gaerfyrddin, ar gael rhwng 25 Gorffennaf a 31 Awst, o ddydd Llun i ddydd Gwener (heblaw gwyliau banc).

Cynhelir y clybiau rhwng 8.30am a 5pm, ac mae sesiynau hanner diwrnod ar gael yng Nghanolfan Hamdden Sanclêr i blant 4-7 oed.

Mae croeso i blant rhwng 8 a 12 oed gymryd rhan.

Mae galw mawr am y clybiau Actif hyn ac i rieni prysur maent yn ffordd wych o sicrhau bod plant yn cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau newydd, gan wneud ffrindiau newydd a bod yn egnïol, boed glaw neu hindda, yn ystod gwyliau’r ysgol.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Mae Clybiau Gwyliau Actif yn ddewis gwych i lawer o rieni sydd am i’w plant fod yn egnïol yn ystod yr haf.

“Mae’r clybiau yn cynnig amrywiaeth gwych o weithgareddau a chwaraeon yn ein canolfannau hamdden felly mae rhywbeth i bawb.”

I archebu lle, ewch i: www.actifsirgar.co.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle