Call to childcare providers to benefit from new scheme

0
562

Childcare providers who service the area of Neath Port Talbot are set to benefit from a new Welsh Government childcare scheme.

 

The scheme, known as The Childcare Offer for Wales, provides 30 hours a week of funded early education and childcare for eligible working parents of 3 to 4 year olds, for up to 48 weeks of the year.

 

Childcare providers are being urged to register in time for the start of the scheme this September to ensure they are ready to accept and receive funding for children accessing the Offer.

 

Although the scheme is only initially available to parents living in selected pilot areas throughout Neath Port Talbot, parents can choose to place their child at any provider who is registered to The Childcare Offer for Wales. Providers are also being encouraged to register to the Offer early so they are ready for a further planned rollout of the scheme.

 

The benefits to providers include being added to a list of settings which will be advertised on the Council’s website, and receiving payments a month in advance for eligible childcare placements.

 

Councillor Peter Rees, cabinet member for education, skills and culture, said:

 

“I would encourage all childcare providers to register to the Offer and take full advantage of the possible benefits. This could be a great opportunity for providers to fill vacant places at their childcare setting or view it as a chance to grow their business.”

 

For more information and to find out how to become a registered childcare provider in Neath Port Talbot, contact the Council’s Childcare Offer Team by emailing childcareoffer@npt.gov.uk or visiting www.nptfamily.com/childcareoffer .

 

The Childcare Offer for Wales scheme is funded by Welsh Government and administered by Neath Port Talbot Council’s Childcare Offer Team.

Galwad i ddarparwyr gofal plant elwa o gynllun newydd

 

Bwriedir i ddarparwyr gofal plant sy’n gweithio yng Nghastell-nedd Port Talbot elwa o gynllun gofal plant newydd gan Lywodraeth Cymru.

 

Mae’r cynllun, sef y Cynnig Gofal Plant i Gymru, yn darparu 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant a ariennir am hyd at 48 wythnos y flwyddyn ar gyfer plant 3 a 4 oed y mae eu rhieni’n gymwys ac yn gweithio.

 

Mae darparwyr gofal plant yn cael eu hannog i gofrestru mewn pryd ar gyfer dechrau’r cynllun ym mis Medi i sicrhau eu bod yn barod i dderbyn cyllid ar gyfer plant sy’n cael mynediad at y cynnig.

 

Er bod y cynllun ar gael i rieni sy’n byw mewn ardaloedd peilot dewisol yng Nghastell-nedd Port Talbot yn unig yn y lle cyntaf, gall rhieni ddewis cofrestru eu plentyn gydag unrhyw ddarparwr cofrestredig. Mae darparwyr hefyd yn cael eu hannog i gofrestru’n gynnar fel eu bod yn barod pan gaiff y cynllun ei estyn ymhellach.

 

Mae’r buddion i ddarparwyr sy’n cofrestru ar gyfer y cynllun yn cynnwys cael eu hychwanegu at restr gymeradwy o leoliadau a fydd yn cael eu hysbysebu ar wefan y cyngor a derbyn taliadau fis ymlaen llaw ar gyfer lleoliadau cymwys.

 

Meddai’r Cynghorydd Peter Rees, Aelod y Cabinet dros Addysg, Sgiliau a Diwylliant,

 

“Byddwn yn annog pob darparwr gofal plant i gofrestru ar gyfer y cynllun a manteisio’n llawn ar y buddion posib. Gallai hyn fod yn gyfle gwych i ddarparwyr lenwi lleoedd gwag yn eu lleoliad gofal plant neu ei weld fel cyfle i ddatblygu eu busnes.”

 

Am fwy o wybodaeth ac i ganfod sut i ddod yn ddarparwr gofal plant cofrestredig yng Nghastell-nedd Port Talbot, cysylltwch â Thîm Cynnig Gofal Plant y cyngor drwy e-bostio childcareoffer@npt.gov.uk neu drwy fynd i www.nptfamily.com/childcareoffer.

 

Mae cynllun y Cynnig Gofal Plant i Gymru wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i weinyddu gan Dîm Cynnig Gofal Plant Cyngor Castell-nedd Port Talbot.

 

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle