Hywel Dda Chief Executive thanks residents for getting involved in Our Big NHS Change / Prif Weithredwr Hywel Dda yn diolch i drigolion am gymryd rhan yn ein hymgynghoriad ynghylch Trawsnewid ein Gwasanaeth Iechyd |
Over the last twelve weeks we’ve heard from thousands of people about our plans to radically overhaul healthcare services to ensure that they are safe, sustainable, accessible and kind for current and future generations.
Each proposal that we have consulted on has been tested by our clinicians and members of the public were asked to provide their feedback in a multitude of different ways, which will be independently analysed and considered before any formal proposal is put before the Health Board later this year. Hywel Dda’s Chief Executive, Steve Moore, said: “I’d like to thank everyone who has been involved in Our Big NHS Change. This has been the biggest and most important public consultation ever undertaken on the future of healthcare services in west Wales and we recognise the strength of feeling and passion our local communities have for our local NHS, so I’m glad that many residents took part in the consultation by completing the questionnaire, talking with us at our public drop-in or stakeholder events, or by providing feedback through a number of other ways throughout the 12 week period. “The conversation that you have been involved in has been critical in terms of helping to challenge and shape our way of thinking. All of the questionnaires and feedback received will now be independently analysed by an external organisation, Opinion Research Services (ORS). We will hold further discussions with our clinicians, staff and stakeholders to consider this feedback to enable our clinicians to put forward their recommendation to the Board in September. We appreciate that some people are concerned about potential changes in our local health and care services, and we wish to reassure people that we will continue to provide regular updates so that everyone is informed on latest developments.” ——————————————————————————— Dros yr 12 wythnos diwethaf, rydym wedi cael adborth gan filoedd o bobl am ein cynlluniau i drawsnewid gwasanaethau gofal iechyd er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel, yn gynaliadwy, yn hygyrch ac yn garedig ar gyfer y genhedlaeth bresennol, yn ogystal â chenedlaethau’r dyfodol. Cafodd pob cynnig yr ymgynghorwyd yn ei gylch ei brofi gan ein clinigwyr, ac aethom ati i ofyn i’r cyhoedd roi adborth mewn nifer o ffyrdd gwahanol. Bydd yr adborth hwn yn cael ei ddadansoddi a’i ystyried yn annibynnol cyn i unrhyw gynnig ffurfiol gael ei roi gerbron y Bwrdd Iechyd yn ddiweddarach eleni. Dywedodd Prif Weithredwr Hywel Dda, Steve Moore: “Hoffwn ddiolch i bawb a fu’n rhan o’n hymgynghoriad ynghylch Trawsnewid ein Gwasanaeth Iechyd. Dyma’r ymgynghoriad cyhoeddus mwyaf a phwysicaf a gynhaliwyd erioed ynghylch dyfodol gwasanaethau gofal iechyd yng ngorllewin Cymru, ac rydym yn cydnabod cryfder teimladau ac angerdd ein cymunedau lleol tuag at ein GIG lleol, felly rwy’n falch bod cynifer o drigolion wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad, boed hynny trwy neilltuo amser i lenwi holiadur, mynychu un o’n digwyddiadau galw heibio cyhoeddus neu ddigwyddiadau ar gyfer rhanddeiliaid, neu trwy roi adborth mewn nifer o ffyrdd eraill yn ystod y cyfnod 12 wythnos. “Mae’r sgwrs y buoch yn rhan ohoni wedi bod yn hanfodol o ran helpu i herio ein ffordd o feddwl, a’i llywio. Bydd yr holl holiaduron a’r adborth a gafwyd bellach yn cael eu dadansoddi’n annibynnol gan sefydliad allanol, sef Opinion Research Services (ORS). Byddwn yn cynnal trafodaethau pellach â’n clinigwyr, ein staff a’n rhanddeiliaid i ystyried yr adborth hwn, er mwyn galluogi ein clinigwyr i gyflwyno eu hargymhellion i’r Bwrdd ym mis Medi. Rydym yn gwerthfawrogi bod rhai pobl yn pryderu am newidiadau posibl i’n gwasanaethau iechyd a gofal lleol, ac rydym am roi sicrwydd i bobl y byddwn yn parhau i ddarparu diweddariadau rheolaidd fel bod pawb yn cael gwybod am y datblygiadau diweddaraf.” |
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle