High-tech monitors can play crucial role in healthier lifestyle say diabetes experts

0
588

HIGH-TECH MONITORS CAN PLAY CRUCIAL ROLE IN HEALTHIER LIFESTYLE SAY DIABETES EXPERTS

Technology which has given people with diabetes easier access to crucial information about their blood sugar levels is already making a difference across Wales.

Now researchers at Swansea University [5] are hoping the increasing use of glucose monitoring devices will help encourage patients with diabetes to lead more active lifestyles.

Swansea University Associate Professor Dr Richard Bracken said:

“HYPOGLYCAEMIA, OR LOW BLOOD SUGAR, IS A REAL FEAR FACING PEOPLE WITH TYPE 1 DIABETES.  AS EXERCISE CAN CAUSE GLUCOSE CHANGES SOME PEOPLE MAY BE DISCOURAGED FROM BEING AS ACTIVE AS THEY SHOULD BE FOR OVERALL HEALTH BENEFIT TO AVOID HAVING A ‘HYPO’.

“HOWEVER, NEW GLUCOSE MONITORS CAN HELP THEM KEEP TRACK OF THEIR GLUCOSE LEVELS AND OFFER THEM REASSURANCE ABOUT WHAT IS HAPPENING TO THEM AROUND EXERCISE.”

Known as flash glucose monitoring, it uses a small sensor worn on the skin to record blood sugar levels continuously and is read by scan whenever needed. It means people no longer have to endure the old method of finger-prick testing as frequently.

The devices hit the headlines recently with the news that an estimated 500,000 people living with diabetes in England have been denied access to them due to NHS funding decisions – despite the fact Prime Minister Theresa May has been pictured using the sensor [6].

Dr Bracken added: “WE ARE NOW ABLE TO KEEP TRACK OF OUR HEART RATE, FOOTSTEPS AND THE CALORIES AT THE TOUCH OF BUTTON ON PERSONAL FITNESS DEVICES.

“THESE FLASH SENSORS DO EXACTLY THE SAME THING FOR GLUCOSE LEVELS AND REALLY HELP PEOPLE LIVING WITH DIABETES MANAGE THEIR CONDITION. WE ARE CURRENTLY RESEARCHING THEIR USEFULNESS AROUND EXERCISE.”

The sensors provide two weeks of real-time results and pick up on changes to blood sugar throughout the day or night.

“WE DON’T WANT ANYTHING TO STAND IN THE WAY OF PEOPLE EXERCISING – AN ACTIVE LIFESTYLE HAS SO MANY MENTAL AND PHYSICAL HEALTH BENEFITS, NOT ONLY IN HELPING TO MANAGE DIABETES,” he said.

“WE KNOW THAT THE EFFECT EXERCISE HAS ON GLUCOSE LEVELS DOES PUT SOME PEOPLE OFF BUT NOW THEY CAN ACCESS MORE INFORMATION. MAKING PEOPLE AWARE OF HOW GLUCOSE LEVELS VARY IS KEY.

“CHANGES IN TECHNOLOGY MEAN THAT PATIENTS CAN NOW FEEL EMPOWERED ABOUT CONTROLLING THEIR CONDITION AND CLINICIANS HAVE MORE WEAPONS IN THEIR ARMOURY WHEN IT COMES TO TACKLING IT.”

Swansea University is at the forefront of investigation into the condition and is the home of the renowned Diabetes Research Unit Cymru [7].

Around seven per cent of the population now has diabetes but this figure is expected to rise dramatically.  More than 20 per cent of Welsh hospital in-patients have diabetes and the condition accounts for more than 10 per cent of NHS spending.

Professor Steve Bain, of Swansea University’s Medical School [8], is also Clinical Lead for the Diabetes Research Network, Wales [9]. He

said: “EXTENDING THE OPPORTUNITY FOR PEOPLE WITH DIABETES TO ENGAGE IN CLINICAL TRIALS IS A MAJOR GOAL OF THE DIABETES RESEARCH UNIT CYMRU.

THIS ALLOWS FOR EARLY ACCESS TO NEW MEDICINES AND DEVICES WHICH CONTINUALLY IMPROVE DIABETES CARE FOR PEOPLE IN WALES.”

Dr Bracken says his team is always eager to enlist new recruits for the unit’s ongoing trials.

“OUR TRIALS ARE A VITAL PART OF OUR WORK TO FIND OUT MORE ABOUT DIABETES. WELL CONDUCTED RESEARCH HAS A MAJOR IMPACT ON THE DEVELOPMENT AND MODIFICATION OF CLINICAL GUIDELINES.

“WE KNOW THAT PEOPLE WHO PARTICIPATE IN RESEARCH ENJOY A BETTER UNDERSTANDING AND BETTER MANAGEMENT OF THEIR CONDITION THROUGH THEIR ADDITIONAL CONTACT AND RELATIONSHIP WITH HEALTH PROFESSIONALS.

“ANYBODY WHO IS INTERESTED IN FINDING OUT MORE ABOUT HOW THEY CAN GET INVOLVED IS WELCOME TO GET IN TOUCH WITH ME.”

Contact Dr Bracken on (01792) 513059 or email r.m.bracken@swansea.ac.uk

 

Yn Ă´l arbenigwyr mewn diabetes, gall monitorau uwch-dechnoleg chwarae rĂ´l hollbwysig mewn ffyrdd iachach o fyw

Mae technoleg sydd wedi cynnig mynediad haws i bobl â diabetes at wybodaeth am lefelau siwgr yn eu gwaed eisoes yn gwneud gwahaniaeth ar draws Cymru.

Bellach mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe’n gobeithio y bydd y defnydd cynyddol o ddyfeisiau monitro glwcos yn annog cleifion â diabetes i fyw bywydau mwy egnĂŻol.

Meddai Athro Cyswllt Prifysgol Abertawe, Dr Richard Bracken:

“Mae hypoglysemia, neu lefel siwgr isel yn y gwaed, yn ofn mawr i bobl â diabetes math 1. Gan fod ymarfer corff yn gallu achosi newidiadau glwcos, mae’n bosibl y bydd rhai pobl yn dewis peidio â bod mor weithgar ag y dylent fod er lles eu hiechyd ar y cyfan, er mwyn osgoi cael ‘hypo’.

“Fodd bynnag, gall monitorau glwcos newydd helpu wrth gadw cofnod o’u lefelau glwcos a thawelu eu meddwl ynghylch yr hyn sy’n digwydd iddynt o ran ymarfer corff.”

Fe’i hadwaenir fel monitro glwcos fflach ac mae’n defnyddio synhwyrydd bach a gaiff ei wisgo ar y croen i gofnodi lefelau siwgr y gwaed yn barhaus ac yna gellir ei sganio i ddarllen y canlyniad pryd bynnag y bo angen.  Mae’n golygu nad oes angen i bobl ddefnyddio’r hen ddull o brawf pricio bys mor aml.

Cafodd y dyfeisiau sylw yn y cyfryngau yn ddiweddar pan adroddwyd bod oddeutu 500,000 o bobl sy’n byw gyda diabetes yn Lloegr wedi methu â chael mynediad at y dyfeisiau o ganlyniadau i benderfyniadau o ran ariannu yn y GIG – er gwaethaf y ffaith bod y Prif Weinidog, Theresa May, wedi’i gweld mewn llun yn defnyddio’r un synhwyrydd.

Meddai Dr Bracken: “Rydym bellach yn gallu cadw cofnod o gyflymder y galon, camau cerdded a chalorĂŻau a losgwn trwy wasgu botwm ar ein dyfeisiau ffitrwydd personol. 

“Mae’r synwyryddion hyn yn gwneud yr union un peth ar gyfer lefelau glwcos ac maent wir yn helpu pobl sy’n byw gyda diabetes i reoli eu cyflwr.  Rydym wrthi ar hyn o bryd yn ymchwilio i’w defnyddioldeb o ran ymarfer corff.”

Mae’r synwyryddion yn darparu dwy wythnos o ganlyniadau amser go iawn ac yn tynnu sylw at newidiadau mewn lefelau siwgr yn y gwaed trwy gydol y dydd neu’r nos.

“Nid ydym am i unrhyw beth rwystro pobl rhag gwneud ymarfer corff – mae ffordd weithgar o fyw’n cynnig llu o fuddion iechyd meddwl a chorfforol, yn ogystal â helpu i reoli diabetes,” meddai.

“Rydym yn gwybod bod ei effaith ar lefelau glwcos yn peri i rai pobl beidio â gwneud ymarfer corff ond erbyn hyn gallant gael mynediad at fwy o wybodaeth.  Mae codi ymwybyddiaeth pobl o sut y mae lefelau glwcos yn amrywio’n allweddol.

“Mae newidiadau mewn technoleg yn golygu bod cleifion bellach yn teimlo bod ganddynt y grym i reoli eu cyflwr ac mae clinigwyr wedi’u harfogi’n well i fynd i’r afael ag ef.”

Mae Prifysgol Abertawe ar flaen y gad o ran ymchwilio i’r cyflwr ac mae hefyd yn gartref i’r uned nodedig, Uned Ymchwil Diabetes Cymru.

Erbyn hyn mae tua saith y cant o’r boblogaeth yn dioddef o ddiabetes ond disgwylir i’r ffigwr hwn gynyddu’n sylweddol. Mae gan dros 20 y cant o gleifion mewnol mewn ysbytai yng Nghymru ddiabetes ac mae’r cyflwr yn cyfrif am dros 10 y cant o wariant y GIG.

Mae’r Athro Steve Bain, o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe hefyd yn Arweinydd Clinigol y Rhwydwaith Ymchwil Diabetes. Meddai: “Mae ymestyn y cyfle i bobl â diabetes gymryd rhan mewn treialon clinigol yn un o amcanion pennaf Uned Ymchwil Diabetes Cymru. Mae hyn yn caniatĂĄu mynediad cynnar at feddyginiaethau a dyfeisiau newydd sy’n gwella gofal diabetes yn barhaus i bobl yng Nghymru.”

Mae Dr Bracken yn dweud bod ei dĂŽm bob amser yn awyddus i ddenu recriwtiaid newydd ar gyfer treialon parhaus yr uned.

“Mae ein treialon yn rhan hollbwysig o’n gwaith er mwyn dysgu mwy am ddiabetes. Mae ymchwil dda’n cael effaith fawr ar ddatblygu ac addasu canllawiau clinigol. 

“Rydym yn gwybod bod gan bobl sy’n cymryd rhan mewn ymchwil ddealltwriaeth well o’u cyflwr a’u bod yn gallu rheoli eu cyflwr yn well trwy’r cyswllt ychwanegol a gânt ag ymarferwyr iechyd proffesiynol a’u perthynas â nhw.  

“Mae pob croeso i unrhyw un a hoffai wybod mwy am sut y gallant gymryd rhan gysylltu â mi.”  

Cysylltwch â Dr Bracken ar (01792) 513059 neu drwy

e-bostio  r.m.bracken@abertawe.ac.uk

 

Diabetes Monitor


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle