Spotted a green bike? /Ydych chi wedi gweld beic gwyrdd?

0
868

Spotted a green bike?

 

DISTINCTIVE green bikes have been located around Carmarthenshire to mark the route of the Tour of Britain on September 2.

The bikes are part of a wider marketing campaign to get the whole county involved in celebrating the biggest professional cycling race in the UK which is starting in Carmarthenshire.

All bikes have been donated and sprayed green with Tour of Britain branding to raise awareness of the world famous event.

The Tour of Britain has made its way through other Welsh counties over recent years, but it’s the first time for it to visit Carmarthenshire.

World famous cyclists will gather at Pembrey on Sunday 2 September to begin the race, which will make its way through Kidwelly, Carmarthen, Nantgaredig, Llanarthne, Ffairfach, Bethlehem, Llangadog and Llandovery.

A detailed map of the route can be found on the council’s DiscoverCarmarthenshire.com website, along with the best viewing areas and parking spots for spectators. Please note that anybody attending Pembrey Country Park will have to be inside the park by 9.30am latest.

Carmarthenshire County Council wants to get everyone involved throughout the county to celebrate this prestigious event.

Cllr Peter Hughes Griffiths, executive board member for Culture, Sport and Tourism, said: “There are many ways to get involved with the Tour of Britain either with your local community or as an individual, this is a fantastic opportunity for everyone to get out and enjoy. We’d like to hear about all the promotional activities going on in the county so we can share them on our websites and social media feeds ahead of the event.”

 

  • Spotted a bike? If it’s safe to do so, send pictures of your family with a green bikes to Carmarthenshire County Council’s Twitter and Facebook pages using #CycleCarms
  • If you know of a visible and safe location along the route where a green bike could be located get in touch with the Marketing and Media team at Carmarthenshire County Council, marketing@carmarthenshire.gov.uk

Ydych chi wedi gweld beic gwyrdd?

 

MAE beiciau gwyrdd arbennig wedi cael eu gosod o gwmpas Sir Gaerfyrddin i nodi llwybr Taith Prydain ar 2 Medi.

Mae’r beiciau’n rhan o ymgyrch farchnata ehangach i annog pawb yn y sir i ddathlu’r ras feicio broffesiynol fwyaf yn y Deyrnas Unedig sy’n dechrau yn Sir Gaerfyrddin.

Mae’r holl feiciau wedi cael eu rhoi a’u paentio’n wyrdd â brand Taith Prydain i gynyddu ymwybyddiaeth o’r digwyddiad byd enwog.

Mae Taith Prydain wedi mynd drwy siroedd eraill yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond dyma’r tro cyntaf iddi ddod i Sir Gaerfyrddin.

Bydd beicwyr byd enwog yn ymgynnull ym Mhen-bre ddydd Sul, 2 Medi i ddechrau’r ras, a fydd yn mynd drwy Gydweli, Caerfyrddin, Nantgaredig, Llanarthne, Ffair-fach, Bethlehem, Llangadog a Llanymddyfri.

Gellir gweld map manwl o’r llwybr ar wefan Darganfodsirgar.com y Cyngor, ynghyd â’r mannau gorau i wylio’r ras a manylion parcio. Nodwch y bydd yn rhaid i unrhyw un sydd am fynd i Barc Gwledig Pen-bre fynd i mewn i’r parc erbyn 9.30am fan hwyraf.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin am i bawb ledled y sir ddathlu’r digwyddiad pwysig hwn.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Mae llawer o ffyrdd o fod yn rhan o ras Taith Prydain naill ai gyda’ch cymuned leol neu fel unigolyn ac mae’n gyfle gwych i bawb fynd allan a mwynhau. Hoffem glywed am yr holl weithgareddau hyrwyddo sy’n digwydd yn y sir er mwyn inni allu eu rhannu ar ein gwefannau a’r cyfryngau cymdeithasol cyn y digwyddiad.”

 

  • Wedi gweld beic? Os yw’n ddiogel gwneud hynny, postiwch luniau o’ch teulu gyda beic gwyrdd ar dudalennau Twitter a Facebook Cyngor Sir Caerfyrddin gan ddefnyddio #BeicioSirGâr
  • Os ydych yn gwybod am leoliad amlwg a diogel ar hyd y llwybr lle y gellid gosod beic gwyrdd cysylltwch â’r tîm Marchnata a’r Cyfryngau yng Nghyngor Sir Caerfyrddin, marketing@sirgar.gov.uk

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle