Hywel Dda patient demonstrates the “write” stuff / Claf yn Hywel Dda yn arddangos gwaith ysgrifennu “go iawn”

0
581

Hywel Dda patient demonstrates the “write” stuff

 

The Clinical Research Centre at Hywel Dda University Health Board are delighted to have recently been presented with two beautifully framed pieces of calligraphy artwork by patient Mike James.

”Mike, who has had a lifelong interest in artwork and history, recently took up calligraphy to challenge himself to learn a new skill. The artwork he created for the Centre uses a medieval script system called half insular majuscule that was used to scribe important documents and sacred texts, the most famous one being the Book of Kells which is widely regarded as Ireland’s finest national treasure.

He regularly attends a Lifelong Learning Service calligraphy class run by tutor, Judith Porch, Community Education Development Officer for the City & County of Swansea. Commenting on Mike’s works Judith went on to say “Mike joined the group just last September and I am incredibly proud of what he has achieved. Calligraphy is not an easy skill to master and Mike has produced outstanding pieces which incorporate not just calligraphy but design and gilding with pure gold leaf. I am thrilled that his work will grace the walls of the new Research Centre and hopefully will inspire future patients.”

Professor Kier Lewis who heads up the Clinical Research team at Hywel Dda, said “I am delighted Mike has shown such interest in our Centre and created these pieces specifically for us to remind everyone that the human-being is always central to clinical care and all research endeavours. The pieces now take pride of place in our Centre’s foyer in Prince Philip Hospital.

 

Claf yn Hywel Dda yn arddangos gwaith ysgrifennu “go iawn”

Mae’r Ganolfan Ymchwil Glinigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wrth ei bodd gyda dau ddarlun fframiedig o waith celf caligraffeg hyfryd a gyflwynwyd iddi yn ddiweddar gan y claf Mike James.

”Mae Mike wedi bod â diddordeb gydol oes mewn gwaith celf a hanes ac, yn ddiweddar, aeth ati i’w herio ei hun i ddysgu sgìl newydd trwy roi cynnig ar galigraffeg. Mae’r gwaith celf a greodd ar gyfer y Ganolfan yn defnyddio system ysgrifennu ganoloesol, o’r enw llythrennau bras hanner ynysol (insular majuscule), ac roedd hon yn cael ei defnyddio i ysgrifellu dogfennau pwysig a thestunau sanctaidd. Yr enwocaf o’r rhain yw The Book of Kells, sy’n cael ei ystyried gan lawer yn brif drysor cenedlaethol Iwerddon.

Mae’n aelod selog o ddosbarth caligraffeg gan y Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes a gynhelir gan y tiwtor Judith Porch, sef Swyddog Datblygu Addysg Gymunedol Dinas a Sir Abertawe. Wrth sôn am waith Mike, dywedodd Judith, “Ymunodd Mike â’r grŵp fis Medi diwethaf, ac rwy’n hynod o falch o’r hyn y mae wedi’i gyflawni. Nid yw caligraffeg yn sgìl hawdd ei feistroli, ac mae Mike wedi cynhyrchu darnau rhagorol sy’n ymgorffori nid yn unig galligraffeg, ond hefyd waith dylunio a goreuro gyda dail aur pur. Rwyf wrth fy modd bod ei waith yn mynd i harddu waliau’r Ganolfan Ymchwil newydd, a gobeithio y bydd yn ysbrydoli cleifion yn y dyfodol.”

Dywedodd yr Athro Kier Lewis, sy’n arwain y tîm Ymchwil Glinigol yn Hywel Dda, “Rwyf wrth fy modd bod Mike wedi dangos cymaint o ddiddordeb yn ein Canolfan, a mynd ati i greu’r darnau hyn yn benodol ar ein cyfer, a hynny er mwyn atgoffa pawb fod y bod dynol bob amser yn ganolog i ofal clinigol a phob ymdrech ymchwil. Mae’r darnau bellach yn coroni cyntedd y Ganolfan yn Ysbyty’r Tywysog Philip.

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle