Ongoing success for Carmarthenshire Sixth Form students | Llwyddiant yn parhau i fyfyrwyr 6ed Dosbarth Sir Gaerfyrddin

0
484

Ongoing success for Carmarthenshire Sixth Form students

 

THE high quality of support and guidance received by sixth form students across  Carmarthenshire’s schools continues to impact positively on the standards achieved at both AS and A Level.

The number of entries for AS and A Level examinations continues to increase, bucking the national trend and preparing students well for their future learning and career pathways.

The commitment and dedication shown by our students and their schools has resulted in nearly 78% of students achieving A*-C grades, reflecting an increase of 1.8% in comparison to results in 2017 and remaining comfortably above the Welsh national average of 73.8%.

Almost a quarter of the grades awarded, 24.8%, are A*- A, ensuring that our pupils are well placed when competing nationally for university placements, apprenticeships and career opportunities.

The improved outcomes are also reflected in the AS Level grades with 91.8% of entries being awarded an A-E grade. The increasingly effective learning opportunities on offer to our AS students have ensured a 4.6% increase in the A-E pass rate over the last three years.

The results have been warmly welcomed by Carmarthenshire County Council which has congratulated both students and schools, acknowledging the many inspiring opportunities that these encouraging grades will enable our young people to access.

Cllr Glynog Davies, Executive Board Member for Education, said: “Education in Wales is currently undergoing an exciting period of change and reform, reflecting the changing needs of our communities. The AS and A Level grades achieved by our pupils this year reflect, yet again, the successful partnership working between students, families, schools and the county council, equipping students with an aspirational range of learning opportunities. Students are very well prepared by our schools for the demands of the AS and A level examinations and they achieve highly as a result.”

“On behalf of Carmarthenshire County Council I wholeheartedly congratulate all of our students on the progress that they have made and on the grades that they have achieved. We wish you every success for the future.”

Director of Education and Children’s services, Gareth Morgans, added: “Our schools continue to prepare our students exceptionally well for the reformed AS and A Level qualifications that they have been working so hard towards over the last 2 years. The results achieved across Carmarthenshire this year once again reflect the dedication of our students, developing considerable resilience and a positive work ethic that will equip them well in their future studies and careers. I would like to sincerely congratulate them on all that they have achieved.”

“It is also pleasing to note the ongoing trend of 100% pass rates for both the Welsh first and second language courses, as well as in history, government and politics, English Language and literature and physical education, for example.

“The number of students achieving A*-A grades increased favourably this year, by 2.8%, reflecting the high expectations that we, and our schools, have of our young people.

“Warmest congratulations to all who have contributed so positively towards today’s success. Our students have many exciting decisions to make as they embrace their future journeys.”

 

Llwyddiant yn parhau i fyfyrwyr 6ed Dosbarth Sir Gaerfyrddin

 

MAE ansawdd uchel y cymorth a’r arweiniad y mae myfyrwyr chweched dosbarth wedi’u cael ledled ysgolion Sir Gaerfyrddin yn parhau i gael effaith gadarnhaol ar y safonau a gyflawnwyd yn yr arholiadau Safon Uwch a Safon Uwch Gyfrannol (UG).

Mae nifer y cofrestriadau ar gyfer arholiadau Safon Uwch ac UG yn parhau i gynyddu, gan fynd yn groes i’r duedd genedlaethol a pharatoi myfyrwyr yn dda ar gyfer eu llwybrau dysgu a’u gyrfaoedd yn y dyfodol.

Mae’r ymrwymiad a’r ymroddiad a ddangoswyd gan ein myfyrwyr a’u hysgolion wedi arwain at bron i 78% o’r myfyrwyr hynny yn cael graddau A*-C, sy’n adlewyrchu cynnydd o 1.8% o gymharu â chanlyniadau 2017 ac yn parhau’n uwch na chyfartaledd cenedlaethol Cymru o 73.8%.

Mae bron i chwarter y graddau a ddyfarnwyd, 24.8% yn A*- A, sy’n sicrhau bod ein disgyblion mewn sefyllfa dda wrth gystadlu yn genedlaethol am leoedd mewn prifysgolion, ar brentisiaethau ac o ran cyfleoedd gyrfa.

Adlewyrchir y canlyniadau gwell hyn hefyd yn y graddau Safon Uwch Gyfrannol gyda 91.8% o geisiadau yn cael eu dyfarnu â gradd A-E. Mae’r cyfleoedd dysgu effeithiol sydd fwyfwy ar gael i’n myfyrwyr UG wedi sicrhau cynnydd o 4.6% yn y gyfradd lwyddo A-E dros y tair blynedd diwethaf.

Mae’r canlyniadau wedi cael croeso cynnes gan Gyngor Sir Caerfyrddin sydd wedi llongyfarch y myfyrwyr a’r ysgolion, gan gydnabod y cyfleoedd ysbrydoledig niferus fydd ar gael i’n pobl ifanc o ganlyniad i’r canlyniadau calonogol hyn.

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg: “Mae addysg yng Nghymru yng nghanol cyfnod cyffrous o newid a diwygio ar hyn o bryd, sy’n adlewyrchu anghenion newidiol ein cymunedau. Mae graddau UG a Safon Uwch ein myfyrwyr eleni yn adlewyrchu unwaith eto’r bartneriaeth lwyddiannus rhwng y myfyrwyr, y teuluoedd, yr ysgolion a’r Cyngor Sir, gan roi amrywiaeth uchelgeisiol o gyfleoedd dysgu i’r myfyrwyr. Mae myfyrwyr yn cael eu paratoi yn dda iawn gan ein hysgolion ar gyfer gofynion arholiadau UG a Safon Uwch ac maent yn sicrhau llwyddiant o safon uchel o ganlyniad.”

“Ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin hoffwn longyfarch ein holl fyfyrwyr ar eu cynnydd ac ar y graddau y maent wedi’u cyflawni. Dymunwn bob llwyddiant i chi ar gyfer y dyfodol.”

Ychwanegodd Gareth Morgans, y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant : “Mae ein hysgolion yn parhau i baratoi ein myfyrwyr yn eithriadol o dda ar gyfer y cymhwyster UG a Safon Uwch diwygiedig y maent wedi gweithio mor galed tuag atynt yn ystod y 2 flynedd diwethaf. Mae’r canlyniadau a gafwyd ledled Sir Gaerfyrddin unwaith eto eleni yn adlewyrchu ymroddiad ein myfyrwyr, sy’n datblygu gwydnwch sylweddol ac agwedd gadarnhaol at waith a fydd o fantais iddynt yn eu hastudiaethau a’u gyrfaoedd yn y dyfodol. Hoffwn longyfarch bob un ohonynt ar yr hyn y maent wedi’i gyflawni.”

“Mae hefyd yn galonogol nodi’r gyfradd lwyddo o 100% sy’n duedd barhaus o ran y cyrsiau Cymraeg iaith gyntaf ac ail iaith, yn ogystal â hanes, llywodraeth a gwleidyddiaeth, Saesneg iaith a llenyddiaeth ac addysg gorfforol, er enghraifft.

“Mae nifer y myfyrwyr sy’n cyflawni graddau A*- A wedi cynyddu’n ffafriol eleni, o 2.8%, gan adlewyrchu’r disgwyliadau uchel sydd gennym ni, a’n hysgolion, o’n pobl ifanc.

“Llongyfarchiadau gwresog i bawb sydd wedi cyfrannu mor gadarnhaol at lwyddiant heddiw. Mae gan ein myfyrwyr lawer o benderfyniadau cyffrous i’w gwneud wrth iddynt ddechrau ar eu taith tua’r dyfodol.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle