Work commences on £683k Major refurbishment plan for Ty Bryngwyn / Cynllun adnewyddu mawr gwerth £683 mil ar gyfer Tŷ Bryngwyn wedi dechrau |
______________________________________________________ Ty Bryngwyn Hospice in Llanelli is delighted to announce that a £683k major refurbishment project to develop state of the art facilities for the centre has commenced. Phase 1 of the project will be funded by Hywel Dda Health Charities, the official charity of Hywel Dda University Health Board, thanks to donations from patients, families and the generous public in the local community. This phase will see major improvements to the main entrance, reception and day services area along with the addition of a designated group/therapy room and outreach clinics linking to offsite clinicians. Phase 2 is funded by the Ty Bryngwyn Hospice Committee and will include improvements to the six bedded in patient unit which will be fully refurbished along with the development of a new seventh bedroom with en-suite facilities and the ability to support families during the stay. During the planning of this essential work, patients, staff, families, trustees and the general public have all had an input to ensure this environment will meet the needs for the future. Rhian Dawson, Project Director for Ty Bryngwyn said, “There will be no disruption to services during the refurbishment works. The in-patient beds and staff have been temporarily relocated to the new Mynydd Mawr ward based in Prince Philip Hospital. Day care services will continue to be provided at Ty Cymorth Specialist Palliative Care Unit based in the grounds of Glangwili General Hospital. An outreach service will continue to be operational within the Llanelli locality.” Chair of the Board of Trustees of Ty Bryngwyn, Dr Ray Majer, commented, “I am absolutely delighted that the works have now commenced. The building and facilities are now over twenty years old and are in need of modernisation. These improvements are essential to ensure that patients have access to a positive patient and family environment in which to receive the care, treatment and support they require. We owe so much to hard work and dedication of everyone who has been involved with the hospice over the years and to a generous public for their continuing support.” Bernardine Rees OBE, Chair of Hywel Dda University Health Board, concluded, “there has been so much positive interest in this project. We have seen patients, staff and families all working in partnership together to help re-design the centre and their contribution is hugely appreciated. I thank everyone from the local community who has supported the hospice over the years and for those who have made today and the start of the refurbishment journey happen. The works are scheduled to be completed on the 2nd November when we look forward to warmly welcoming patients back to Ty Bryngwyn.”
Mae Hosbis Tŷ Bryngwyn yn Llanelli yn falch o gyhoeddi y bydd prosiect adnewyddu mawr gwerth £683 mil i ddatblygu cyfleusterau o’r radd flaenaf ar gyfer y ganolfan wedi dechrau. Bydd cam cyntaf y prosiect yn cael ei ariannu gan Elusennau Iechyd Hywel Dda, sef elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a hynny trwy roddion hael gan gleifion, teuluoedd a’r cyhoedd yn y gymuned leol. Bydd y cam hwn yn cynnwys gwelliannau mawr i’r brif fynedfa, y dderbynfa a’r ardal gwasanaethau dydd, yn ogystal â gwaith i ychwanegu ystafell therapi/grŵp dynodedig a chlinigau allgymorth sy’n cysylltu â chlinigwyr oddi ar y safle. Bydd yr ail gam, a ariennir gan Bwyllgor Hosbis Tŷ Bryngwyn, yn cynnwys gwella’r uned cleifion mewnol chwe gwely, a fydd yn cael ei hadnewyddu’n llwyr, ynghyd ag ychwanegu seithfed ystafell wely en-suite at yr uned honno, a’r gallu i gefnogi teuluoedd yn ystod eu harhosiad. Mae cleifion, staff, teuluoedd, ymddiriedolwyr a’r cyhoedd wedi cael cyfle i gyfrannu at y broses o gynllunio’r gwaith hanfodol hwn, er mwyn sicrhau bod yr amgylchedd hwn yn diwallu anghenion y dyfodol. Meddai Rhian Dawson, Cyfarwyddwr Prosiect Tŷ Bryngwyn, “Ni fydd y gwaith adnewyddu yn amharu dim ar y gwasanaethau. Mae’r staff a’r cleifion mewnol wedi cael eu hadleoli dros dro i ward newydd Mynydd Mawr yn Ysbyty Tywysog Philip. Bydd y gwasanaethau gofal dydd yn parhau i gael eu darparu yn Uned Gofal Lliniarol Arbenigol Tŷ Cymorth, a leolir ar safle Ysbyty Cyffredinol Glangwili. Bydd gwasanaeth allgymorth yn parhau i gael ei ddarparu yn ardal Llanelli.” Meddai Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Ty Bryngwyn, Dr Ray Majer, “Rwyf wrth fy modd bod y gwaith wedi dechrau. Mae’r adeilad a’r cyfleusterau bellach dros ugain mlwydd oed, ac mae angen eu moderneiddio. Mae’r gwelliannau hyn yn hanfodol i ddarparu amgylchedd cadarnhaol i gleifion a’u teuluoedd, lle gallant gael y gofal, y driniaeth a’r gefnogaeth y mae arnynt eu hangen. Mae ein dyled yn fawr i waith caled ac ymroddiad pawb sydd wedi bod yn ymwneud â’r hosbis dros y blynyddoedd, ac i’r cyhoedd hael am eu cefnogaeth barhaus.” Meddai Bernardine Rees OBE, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, “Mae yna gymaint o ddiddordeb cadarnhaol wedi bod yn y prosiect hwn. Rydym wedi gweld cleifion, staff a theuluoedd yn gweithio mewn partneriaeth i helpu i ailddylunio’r ganolfan, ac rydym yn gwerthfawrogi eu cyfraniad yn fawr. Diolch i bawb yn y gymuned leol sydd wedi cefnogi’r hosbis dros y blynyddoedd, ac i’r rheiny sydd wedi gwneud heddiw, a dechrau’r siwrnai adnewyddu, yn bosibl. Disgwylir i’r gwaith gael ei gwblhau erbyn 2 Tachwedd, pan fyddwn yn edrych ymlaen at groesawu cleifion yn ôl i Dŷ Bryngwyn.” |
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle