2018 Actif Carmarthenshire Sports Awards | Gwobrau Chwaraeon blynyddol Actif Sir Gaerfyrddin 2018

0
790

2018 Actif Carmarthenshire Sports Awards

 

The countdown is on to find Carmarthenshire’s sporting stars of 2018.

The annual Actif Carmarthenshire Sports Awards will recognise and reward those people who have made a positive difference and shown outstanding achievements in their field whether it be as an individual, coach, volunteer or sport team in disabled, non-disabled, professional and amateur sport.

Nominations are now being invited for 12 categories of awards at the 2018 Sports Awards ceremony in February 2019.

Do you know of any athlete, team, coach or volunteer who should be recognised for their achievements? If so, why don’t you nominate them for an award?

To enter, visit Carmarthenshire.gov.wales

 

Sports Personality of the Year sponsored by McDonald’s

Open to any male or female sports person. We are looking for individuals who have achieved success at an international level, representing Wales and/or Great Britain within their sport.

 

Young Sportsman of the Year

Nominees must be in the Junior Category of their Sport and U21. We are looking for an individual who has achieved success at an international level, representing Wales and/or Great Britain within their sport. If under 21 and have competed in a senior event, they can also be nominated for the Sports Personality of the Year Award.

 

Young Sportswoman of the Year

Nominees must be in the Junior Category of their Sport and U21. We are looking for an individual who has achieved success at an international level, representing Wales and/or Great Britain within their sport. If under 21 and have competed in a senior event, they can also be nominated for the Sports Personality of the Year Award.

 

Disabled Sportsperson of the Year sponsored by MAGSTIM

To be awarded regardless of age. We are looking for male and female sports people who are involved within their sport at a community, regional, national and/or international level.

 

High Performance Sports Coach of the Year sponsored by Alliance & Leisure

Nominees must be a qualified coach within their sporting field. We are looking for individuals who have achieved success in coaching athletes/teams performing at Regional, National and/or International level. The winner of this award will automatically be entered for the Sport Wales Coach of the Year.

 

Community Sports Coach of the Year

Nominees must be a qualified coach within their sporting field. We are looking for individuals who have devoted their time in getting more people active in sport and retaining their participation in a local community setting.

 

Sports Volunteer of the Year

Open to any male or female over 21, who has given up their time and energy to lead and inspire within an organisation, e.g. school, sports club, youth group. Roles undertaken could involve leading sessions, running events, officiating and administration. Voluntary work is unpaid, and predominantly within Carmarthenshire. Nominations are welcome from teachers.

 

Young Sports Volunteer of the Year sponsored by Castell Howell

Nominees, male or female, must be aged 21 and under. We are looking for individuals who give up their time to lead, inspire and support people to become more active within an organisation, e.g. school, sports club, youth group. Roles undertaken could involve leading sessions, running events, officiating and administration. Voluntary work is unpaid, predominantly within Carmarthenshire and is not part of a formal educational course.

 

Team of the Year sponsored by Coleg Sir Gâr

Male or female team who have achieved success at a high level within their sport.

 

Young Team of the Year sponsored by T.A.D. Builders Ltd

Male or female Junior team competing within the junior category of the sport who have achieved success at a high level within their sport.

 

Sports Club of the Year *new for 2018*

Awarded to a club that is affiliated to the National Governing Body. We are looking for clubs that proactively offers all members within the club (players, coaches, volunteers, officials) an opportunity to develop. Clubs that have made a significant impact on developing their sport through community engagement, promotion and fundraising.

 

The Ryan Jones Memorial Award for Outstanding Services to Sport 

Life Time Achievement Award. Male or female of any age, must be a serving member of a club in the Carmarthenshire area.  This category is restricted to volunteers only. We are looking for an individual who has dedicated over 20 years to improving sport within their community/organisation, from coaching, officiating, administrative roles to washing the kit, preparing refreshments or general maintenance of the club.

 

Sporting Hall of Fame (closed entry)

 

Athletes, coaches and volunteers can be nominated for more than one award.

Those eligible must either:

  • have been born in the County,
  • be currently resident in the County or
  • be representing a County Club or School

Gwobrau Chwaraeon blynyddol Actif Sir Gaerfyrddin 2018

 

Rydym wedi dechrau’r broses o ddod o hyd i sêr chwaraeon Sir Gaerfyrddin am 2018.

Bydd Gwobrau Chwaraeon blynyddol Actif Sir Gaerfyrddin yn cydnabod ac yn gwobrwyo’r bobl hynny sydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol ac sydd wedi dangos cyflawniadau rhagorol yn eu maes boed fel unigolyn, hyfforddwr, yn wirfoddolwr neu’n dîm chwaraeon mewn camp amaturaidd neu broffesiynol, i bobl anabl, ac i bobl nad ydynt yn anabl.

Bellach, gofynnir am enwebiadau ar gyfer 12 categori o wobrau yn y seremoni Gwobrau Chwaraeon 2018 a gynhelir ym mis Chwefror 2019.
Ydych chi’n gwybod am athletwr/athletwraig, tîm, hyfforddwr neu wirfoddolwyr sy’n haeddu cydnabyddiaeth am eu cyflawniadau? Os ydych, beth am eu henwebu i gael gwobr?

Enwebwch arlein: sirgar.llyw.cymru

 

Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn noddir gan McDonald’s

Mae’n agored i unrhyw chwaraewr neu chwaraewraig. Rydym yn chwilio am unigolion sydd wedi cael llwyddiant ar lefel ryngwladol gan gynrychioli Cymru a/neu Brydain yn eu camp.

 

Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn

Mae’n rhaid i’r rheiny sy’n cael eu henwebu fod yng Nghategori Iau eu camp ac o dan 21 oed. Rydym yn chwilio am unigolyn sydd wedi cael llwyddiant ar lefel ryngwladol gan gynrychioli Cymru a/neu Brydain yn eu camp. Os ydynt o dan 21 oed ac wedi cystadlu mewn camp ar lefel hŷn, gellir eu henwebu am Wobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn hefyd.

 

Chwaraewraig Ifanc y Flwyddyn

Mae’n rhaid i’r rheiny sy’n cael eu henwebu fod yng Nghategori Iau eu camp ac o dan 21 oed. Rydym yn chwilio am unigolyn sydd wedi cael llwyddiant ar lefel ryngwladol gan gynrychioli Cymru a/neu Brydain yn eu camp. Os ydynt o dan 21 oed ac wedi cystadlu mewn camp ar lefel hŷn, gellir eu henwebu am Wobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn hefyd.

 

Chwaraewr Anabl y Flwyddyn noddir gan MAGSTIM

Rhoddir y wobr hon beth bynnag fo oedran y person. Rydym yn chwilio am chwaraewyr gwrywaidd a benywaidd sy’n ymwneud â’u camp ar lefel gymunedol, ranbarthol, genedlaethol a/neu ryngwladol.

 

Hyfforddwr Chwaraeon o Safon Uchel y Flwyddyn noddir gan Alliance & Leisure

Mae’n rhaid i’r rheiny sy’n cael eu henwebu fod yn hyfforddwyr cymwysedig yn eu camp. Rydym yn chwilio am unigolion sydd wedi cael llwyddiant wrth hyfforddi athletwyr/timau sy’n perfformio ar lefel ranbarthol, genedlaethol a/neu ryngwladol. Bydd enillydd y wobr hon yn cael ei enwebu’n awtomatig ar gyfer Hyfforddwr y Flwyddyn Chwaraeon Cymru.

 

Hyfforddwr Chwaraeon Cymunedol y Flwyddyn

Mae’n rhaid i’r rheiny sy’n cael eu henwebu fod yn hyfforddwyr cymwysedig yn eu camp. Rydym yn chwilio am unigolion sydd wedi rhoi o’u hamser er mwyn cael mwy o bobl i gymryd rhan a pharhau i gymryd rhan mewn chwaraeon yn y gymuned leol.

 

Gwirfoddolwr Chwaraeon y Flwyddyn

Mae’r wobr hon yn agored i unrhyw ddyn neu fenyw dros 21 oed sydd wedi rhoi o’i amser a’i egni i arwain ac i ysbrydoli mewn sefydliad, e.e. ysgol, clwb chwaraeon, grŵp ieuenctid. Gallai’r rolau a gyflawnwyd gynnwys arwain sesiynau, cynnal digwyddiadau a’u gweinyddu.  Mae gwaith gwirfoddol yn waith di-dâl ac yn digwydd yn Sir Gaerfyrddin yn bennaf. Croesawir enwebiadau gan athrawon.

 

Gwirfoddolwr Chwaraeon Ifanc y Flwyddyn noddir gan Castell Howell

Mae’n rhaid i’r sawl sy’n cael ei enwebu fod yn ddyn neu’n fenyw sy’n 21 oed neu’n iau. Rydym yn chwilio am unigolion sy’n rhoi o’u hamser i arwain, ysbrydoli a chefnogi pobl i fod yn fwy egnïol mewn sefydliad, e.e. ysgol, clwb chwaraeon, grŵp ieuenctid. Gallai’r rolau a gyflawnir gynnwys arwain sesiynau, cynnal digwyddiadau, dyfarnu a gweinyddu.  Mae gwaith gwirfoddol yn waith di-dâl ac yn digwydd yn Sir Gaerfyrddin yn bennaf a heb fod yn rhan o gwrs addysg ffurfiol.

 

Tîm y Flwyddyn noddir gan Goleg Sir Gâr

Mae’r wobr hon ar gyfer timau o ddynion neu fenywod sydd wedi cael llwyddiant ar lefel uchel yn eu camp.

 

Tîm Ifanc y Flwyddyn noddir gan Adeiladwyr T.A.D. Cyf.

Mae’r wobr hon ar gyfer timau iau o fechgyn neu ferched sy’n cystadlu yng nghategori iau eu camp sydd wedi cael llwyddiant ar lefel uchel yn eu camp.

 

Clwb Cymunedol y Flwyddyn *newydd am 2018*

Mae’r wobr hon yn cael ei dyfarnu i glwb sy’n aelod o’r Corff Llywodraethu Cenedlaethol. Rydym yn chwilio am glybiau sy’n rhoi cyfleoedd cyfartal i ddatblygu i holl aelodau’r clwb (chwaraewyr, hyfforddwyr, gwirfoddolwyr, swyddogion). Mae clybiau sydd wedi cael effaith sylweddol ar ddatblygu eu camp drwy ymgysylltu â’r gymuned, hyrwyddo a chodi arian yn cael eu hannog i wneud cais.

 

Gwobr Goffa Ryan Jones am Wasanaethau Rhagorol i Chwaraeon 

Gwobr Cyflawniad Oes. Mae’r wobr hon ar gyfer dyn neu fenyw o unrhyw oed sy’n aelod presennol o glwb yn ardal Sir Gaerfyrddin.  Mae’r categori hwn wedi ei gyfyngu i wirfoddolwyr yn unig. Rydym yn chwilio am unigolyn sydd wedi rhoi dros 20 mlynedd o’i amser er mwyn gwella chwaraeon yn eu cymuned/sefydliad, boed mewn rôl hyfforddi, dyfarnu, gweinyddu, golchi dillad chwaraeon, paratoi lluniaeth neu waith cynnal a chadw o fewn y clwb.

 

Oriel yr Anfarwolion Chwaraeon (heb fod ar agor i enwebiadau)

 

Gellir enwebu athletwyr, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr ar gyfer mwy nag un wobr.

Mae’n rhaid i’r rheiny sy’n gymwys fod un ai:

  • wedi’u geni yn y Sir,
  • yn byw yn y Sir ar hyn o bryd neu’n
  • cynrychioli Clwb neu Ysgol o’r Sir

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle