Antiques fair organiser fined for illegal fly-posting | Dirwyo trefnydd ffair am osod posteri yn anghyfreithlon

0
602

Antiques fair organiser fined for illegal fly-posting

A CARMARTHEN woman has been ordered to pay almost £500 after fly-posting about an antiques fair on a public highway without permission.

Carmarthenshire County Council brought the prosecution against Brita Rogers, of Groesffordd Fach, who had illegally advertised the Derwen Antiques fair, held at the National Botanic Gardens in January.

She appeared at Llanelli Magistrates Court on August 17, where she pleaded guilty to an offence under s.224 of the Town and Country Planning Act 1990 of advertising without consent. She was fined £80, with costs of £374.46 and a £30 victim surcharge.

The court heard that a council environmental enforcement officer noticed a number of advertising signs whilst on patrol in Pontyates, and in the days that followed also spotted the adverts on posts at the Pontabraham roundabout, along the A48, on directional signs along the A40, and along the High Street in St Clears.

During interview, Rogers stated that although she had not placed the signs herself, she had agreed for others to do so on her behalf.

She had previously been issued with a fixed penalty notice for flyposting in 2014, and had signed a declaration to the council that she understood she needed to seek authorisation from them before displaying further advertisements in Carmarthenshire.

In mitigation at court, Rogers said that although she had permitted other people to place advertising signs on her behalf, she thought that these would be placed on private land.

She also stated that she didn’t make a lot of profit out of the event and that she helped organise it to bring increased foot fall to the Gardens.

Cllr Philip Hughes, Executive Board Member for enforcement, said: “Fly-posting is potentially very dangerous as it is distracting to drivers and when broken down by the weather causes litter on our roadways and verges. It is a shame, having previously been warned about fly-posting, that this lady found herself in court.”

 

Dirwyo trefnydd ffair am osod posteri yn anghyfreithlon

CAFODD menyw o Gaerfyrddin orchymyn i dalu bron £500 ar ôl gosod posteri am ffair hen bethau ar briffordd gyhoeddus, heb ganiatâd.

Bu i Gyngor Sir Caerfyrddin ddwyn yr erlyniad yn erbyn Brita Rogers, o Groesffordd Fach, oedd wedi hysbysebu ffair Derwen Antiques, a gynhaliwyd yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol ym mis Ionawr, yn anghyfreithlon.

Ymddangosodd yn Llys Ynadon Llanelli ar 17 Awst, pan blediodd yn euog i drosedd dan adran 224 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, sef hysbysebu heb ganiatâd. Cafodd ddirwy o £80, a gorchmynnwyd iddi dalu costau o £374.46 a gordal dioddefwyr sef £30.

Clywodd y llys fod swyddog gorfodi materion amgylcheddol y cyngor wedi sylwi ar nifer o arwyddion hysbysebu wrth fod ar batrôl yn ardal Pont-iets, a’i fod hefyd wedi gweld yr hysbysebion yn y diwrnodau dilynol ar byst wrth gylchfan Pont Abraham, ar hyd yr A48, ar arwyddion cyfeirio ar hyd yr A40, ac ar hyd y Stryd Fawr yn Sanclêr.

Yn ystod y cyfweliad, dywedodd Rogers er nad oedd hi yn bersonol wedi gosod yr arwyddion, roedd wedi cytuno i eraill eu gosod ar ei rhan.

Roedd eisoes wedi cael hysbysiad cosb benodedig am osod posteri’n anghyfreithlon yn 2014, ac wedi llofnodi datganiad i’r cyngor yn nodi ei bod yn deall bod angen iddi gael caniatâd gan y cyngor cyn gosod rhagor o hysbysebion yn Sir Gaerfyrddin.

Yn ei datganiad lliniaru yn y llys, dywedodd Rogers er ei bod wedi rhoi caniatâd i bobl eraill osod arwyddion hysbysebu ar ei rhan, roedd hi’n meddwl y byddai’r rhain yn cael eu gosod ar dir preifat.

Dywedodd hefyd nad oedd hi wedi gwneud llawer o elw ar gefn y digwyddiad a’i bod wedi helpu i drefnu’r ffair er mwyn denu mwy o bobl i’r Ardd.

Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Faterion Gorfodi: “Gallai gosod posteri yn anghyfreithlon fod yn beryglus iawn gan ei fod yn tynnu sylw gyrwyr ac yn achosi sbwriel ar ein ffyrdd a’n hymylon ffyrdd ar ôl iddyn nhw gael eu dinistrio gan y tywydd. Mae’n drueni bod y ddynes hon wedi gorfod mynd i’r llys, ar ôl iddi gael rhybudd yn y gorffennol am osod posteri yn anghyfreithlon.”

 

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle