Ceredigion MP commends pioneering work at Pwllpeiran / AM Ceredigion yn canmol gwaith arloesol ym Mhwllpeiran

0
1048

Earlier this month Ben Lake MP travelled to the heart of the Cambrian Mountains to meet with the team of researchers at Pwllpeiran Upland Research Platform.

Pwllpeiran, part of IBERS at Aberystwyth Univeristy is the only publicly owned upland research farm in Wales and for the best part of a century it has played an important role in the development of agriculture in Wales.

80% of utilised agricultural land in Wales is classifed as ‘Less Favoured Area’, and as such a combination of altitude, soil characteristics and climatic conditions restricts most farms within these areas to extensive sheep and cattle production. Over the years, Pwllpeiran’s main aim has been to significantly improve the viability of farming in the uplands to ensure continued agricultural productivity in disadvantaged areas whilst also stemming rural depopulation.

Ben Lake MP said:

“It has been fascinating to learn more about the pioneering research being carried out in Pwllpeiran, and it particularly interesting to learn how several departments have collaborated on projects, such as the partnership with the Computer Science department in the development of auto piloted drones to record livestock movement in upland areas.”

Mr Lake was given a tour of different sets of experimental plots at the centre by Dr. Mariecia Fraser, John Davies and PhD student, Ben Roberts, including the innovative research involving the planting of 21 tonnes of daffodil bulbs.

Daffodils produce a chemical called galanthamine, a compound used in the treatment of Alzheimer’s Disease. Daffodils are the only economically feasible plant source suitable for cultivation in the UK, and preliminary studies suggested that the environmental challenges associated with upland areas could trigger a higher yield of galanthamine in daffodils.  Working alongside Harper Adams Univeristy, Pwllpeiran hopes that this project’s findings will increase the economic sustainability of hill farming by providing farmers with a high value crop while maintaining traditional farming systems in the upland areas.

Dr Fraser said:

“We were very pleased to have the opportunity to welcome Ben Lake to Pwllpeiran. Collaboration and co-operation will be essential if we are to secure a future for our uplands that safeguards the vital public goods and service they deliver and retains rural communities in marginal areas.”

Mr Lake said:

“I was delighted to see such cutting-edge research being carried out in Ceredigion. In light of the economic uncertainties that lie ahead, it is not only important that such research is conducted, but also that we are able to apply the findings so as to realise practical benefits for the industry – this is precisely why Pwllpeiran is indispensable.”

 

AS Ceredigion yn canmol gwaith arloesol ym Mhwllpeiran

Yn gynharach yn y mis, teithiodd Ben Lake AS i ganol Mynyddoedd y Cambrian i gwrdd â thîm o ymchwilwyr Canolfan Ymchwil yr Ucheldir ym Mhwllpeiran.

Pwllpeiran, sy’n rhan o IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth, yw’r unig fferm ucheldir arbrofol  yng Nghymru sy’n eiddo cyhoeddus ac ers ymron i ganrif mae wedi chwarae rhan allweddol yn natblygiad amaethyddiaeth yng Nghymru.

Mae 80% o ddefnydd tir amaethyddol yng Nghymru yn cael ei ddosbarthu fel ‘Ardal Llai Ffafriol’ a’r mwyafrif o ffermydd o fewn yr ardaloedd hyn yn cael eu cyfyngu i fagu defaid a gwartheg ar raddfa eang yn sgil cyfuniad o amodau rhwystredig megis uchder, nodweddion pridd a thywydd.  Dros y blynyddoedd, prif nod Pwllpeiran fu gwella yn sylweddol hyfywedd ffermio yn yr ucheldir er mwyn sicrhau y bydd cynhyrchiant amaethyddol yn parhau yn yr ardaloedd o dan anfantais gan atal yr un pryd ddiboblogi gwledig.

Dywedodd Ben Lake:

“Bu’n brofiad cyfareddol i ddysgu mwy am yr ymchwil arloesol sy’n mynd rhagddo ym Mhwllpeiran, ac yn arbennig o ddiddorol i ddysgu sut y mae nifer o adrannau wedi cydweithredu ar gynlluniau, megis y bartneriaeth gyda’r Adran Gyfrifiadureg yn natblygiad dronau di beilot i gofnodi symudiadau anifeiliaid yn yr ucheldir.”

Tywyswyd Mr Lake o gwmpas setiau gwahanol o randiroedd arbrofol yn y ganolfan gan Dr Mariecia Fraser, John Davies a Ben Roberts sy’n fyfyriwr PhD gan gynnwys yr ymchwil arloesol yn ymwneud â phlannu 21 tunnell o fylbiau cennin pedr. Mae cennin pedr yn cynhyrchu cemegyn o’r enw galanthamine, cyfansoddyn a ddefnyddir wrth drin afiechyd Alzheimer’s.  Cennin Pedr yw’r unig blanhigyn sy’n ddichonadwy economaidd i’w gynhaeafu ym Mhrydain, ac mae astudiaethau cynnar yn awgrymu y gall sialensiau amgylcheddol sy’n gysylltiedig â’r ucheldir sbarduno mwy o gnwd o galanthamine mewn cennin pedr. Gan weithio ar y cyd gyda Phrifysgol Harper Adams mae Pwllpeiran yn gobeithio y bydd canlyniadau’r prosiect hwn yn cynyddu cynaladwyedd economaidd ffermio mynydd trwy ddarparu cnwd gwerthfawr i ffermwyr ochr yn ochr â’r dulliau traddodiadol o ffermio yn yr ucheldir.

Dywedodd Dr Fraser:

“Roeddem yn hynod o falch o groesawu Ben Lake i Pwllpeiran.  Mae cydweithrediad yn holl bwysig os ydym am sicrhau dyfodol i’n hucheldir sy’n diogelu nwyddau cyhoeddus pwysig a’r gwasanaeth holl bwysig maent yn eu rhoi i gadw cymunedau gwledig mewn ardaloedd ymylol.”

Dywedodd Mr Lake:

“Roeddwn yn falch o weld ymchwil mor flaengar yng Ngheredigion.  Yn wyneb ansicrwydd economaidd y dyfodol mae’n bwysig ein bod ni nid yn unig yn gwneud y math hyn o waith ymchwil ymchwil ond ein bod ni’n medru defnyddio’r canlyniadau er budd ymarferol i’r diwydiant – dyma’r union reswm paham fod Pwllpeiran yn gyfleuster anhepgor.”

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle