Council cracks down on litter louts | Cosbau llym i’r rhai sy’n taflu sbwriel

0
480

Council cracks down on litter louts

 

ALMOST £2,000 in on-the-spot fines have been handed out to litter louts in Carmarthenshire in recent weeks.

Carmarthenshire County Council enforcement officers have witnessed offences and followed up reports from members of the public to catch offenders caught littering.

They have been making use of new powers to hand out larger fines for more serious offences too.

Here is a summary of offences and fixed penalty notices (FPN) issued:

 

  • £350 FPN issued to a male who fly-tipped garden waste and concrete products in the Ponthenri area
  • £350 FPN issued to a male for leaving bags on the ground at Llwynhendy Library’s recycling facilities, ignoring warning signs not to do so
  • £350 FPN issued to a female leaving bags on the ground at Tir Ynys Recycling facilities, Felinfoel, ignoring warning signs not to do so
  • £300 FPN issued to male who failed to produce waste transfer notes within seven days at our offices for waste taken from his business
  • £100 FPN issued to male for failing to clear after his dog fouled in the Caswell Street area of Llanelli
  • £100 FPN issued to a male for failing to clean up after his dog fouled at Llanelli’s North Dock
  • £75 FPN issued to a male who dropped a cigarette butt in the area of Penygaer  playing fields, Llanelli
  • £75 FPN issued to a male who dropped a cigarette butt in Morrison’s car park, Llanelli
  • £75 FPN issued to a female who threw a cigarette butt from her vehicle, in the area of Cross Hands Business Park, Cross Hands
  • £75 FPN issued to a male throwing fast food litter on the ground at B&Q Trostre
  • £75 FPN issued to a female throwing fast food litter on the ground at B&Q Trostre
  • £75 FPN issued to a male at Heol Cropin in Dafen for throwing can of coke into a hedge
  • £75 FPN issued to a female for placing empty cardboard boxes on floor at Morrisons Recycling Centre, Parc Pemberton, ignoring warning signs not to do so
  • £75 FPN issued to a male for littering at Morrisons recycling centre, Parc Pemberton, Llanelli

 

Two enforcement notices have also been issued.

A S47 enforcement notice was issued to a business in Llanelli town centre who was found disposing waste in a mixture of purple trade and blue domestic recycling bags and also putting them out several days too early.

A S46 enforcement notice was issued to a householder in Llanelli who put needles in a black bag for kerbside collection, a health and safety hazard for bin collection crews and members of the public.

Cllr Philip Hughes, Executive Board Member for enforcement, said: “This is completely unacceptable behaviour. Fly-tipping and littering is not only bad for our environment, but costly to clear. There are plenty of facilities for proper disposal of rubbish and recycling, and a weekly kerbside collection service – there really is no excuse.”

Further information about waste and recycling facilities and bin collections can be found on Carmarthenshire County Council’s website www.carmarthenshire.gov.wales

 

Cosbau llym i’r rhai sy’n taflu sbwriel

 

MAE bron £2,000 o ddirwyon wedi cael eu rhoi i bobl sy’n taflu sbwriel yn Sir Gaerfyrddin dros yr wythnosau diwethaf.

Mae swyddogion gorfodi Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gweld troseddau ac wedi cymryd camau ynghylch adroddiadau gan y cyhoedd er mwyn dal troseddwyr sy’n taflu sbwriel.

Yn ogystal, maent wedi defnyddio pwerau newydd i roi dirwyon mwy ar gyfer troseddau mwy difrifol.

Dyma grynodeb o’r troseddau a’r hysbysiadau cosb benodedig a roddwyd:

 

  • Dirwy o £350 i ddyn a adawodd wastraff gardd a chynnyrch concrid yn ardal Pont-henri
  • Dirwy o £350 i ddyn a adawodd fagiau ar y ddaear yng nghyfleusterau ailgylchu Llyfrgell Llwynhendy, gan anwybyddu’r arwyddion sy’n rhybuddio yn erbyn hynny
  • Dirwy o £350 i fenyw a adawyd bagiau ar y ddaear yng nghyfleusterau ailgylchu Tir Ynys, Felin-foel, gan anwybyddu’r arwyddion sy’n rhybuddio yn erbyn hynny
  • Dirwy o £300 i ddyn a fethodd â dod i’n swyddfeydd o fewn saith niwrnod i ddangos nodiadau trosglwyddo gwastraff ar gyfer gwastraff a gasglwyd o’i fusnes
  • Dirwy o £100 i ddyn a fethodd â chodi baw ei gi yn ardal Stryd Caswell, Llanelli
  • Dirwy o £100 i ddyn a fethodd â chodi baw ei gi yn Noc y Gogledd, Llanelli
  • Dirwy o £75 i ddyn a ollyngodd stwmpyn sigarét yn ardal meysydd chwarae Pen-y-gaer, Llanelli
  • Dirwy o £75 i ddyn a ollyngodd stwmpyn sigarét ym maes parcio Morrisons, Llanelli
  • Dirwy o £75 i fenyw a daflodd stwmpyn sigarét o’i cherbyd yn ardal Parc Busnes Cross Hands, Cross Hands
  • Dirwy o £75 i ddyn a ollyngodd wastraff bwyd brys ar y ddaear yn B&Q, Trostre
  • Dirwy o £75 i fenyw a ollyngodd wastraff bwyd bryd ar y ddaear yn B&Q, Trostre
  • Dirwy o £75 i ddyn yn Heol Cropin, Dafen, am daflu can o Coke i mewn i glawdd
  • Dirwy £74 i fenyw a roddodd focsys cardbord gwag ar y ddaear yng Nghanolfan Ailgylchu Morrisons, Parc Pemberton, gan anwybyddu’r arwyddion sy’n rhybuddio yn erbyn hynny
  • Dirwy o £75 i ddyn a ollyngodd sbwriel yng Nghanolfan Ailgylchu Morrisons, Parc Pemberton, Llanelli

 

Yn ogystal, mae dau hysbysiad gorfodi wedi’u rhoi.

Rhoddwyd hysbysiad gorfodi S47 i fusnes yng nghanol tref Llanelli, a oedd yn gwaredu gwastraff mewn cymysgedd o fagiau ailgylchu masnach porffor a bagiau gwastraffu domestig glas yn ogystal â rhoi’r bagiau allan sawl diwrnod yn rhy gynnar.

Rhoddwyd hysbysiad gorfodi S46 i breswylydd yn Llanelli a roddodd nodwyddau mewn bag du i’w gasglu wrth ymyl y ffordd, sy’n berygl iechyd a diogelwch i griwiau casglu sbwriel ac i’r cyhoedd.

Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Faterion Gorfodi: “Mae’r ymddygiad hwn yn gwbl annerbyniol. Nid yn unig y mae tipio anghyfreithlon a thaflu sbwriel yn wael i’n hamgylchedd, ond mae’n gostus i’w glirio. Mae digon o gyfleusterau i waredu gwastraff ac ailgylchu mewn modd priodol, yn ogystal â gwasanaeth casglu wrth ymyl y ffordd bob wythnos – does dim esgus.”

Gallwch weld rhagor o wybodaeth am gyfleusterau gwastraff ac ailgylchu a chasgliadau sbwriel ar wefan Cyngor Sir Caerfyrddin: www.sirgar.llyw.cymru

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle