Communities’ voice on health and care / Llais cymunedau ar iechyd a gofal

0
674

What has been heard?

Hywel Dda – Our Big NHS Change consultation was held between 19 April and 12 July 2018. From a population of around 400,000, the consultation received 5,395 questionnaire responses, and reached out face-to-face at more than 160 events, attracting more than 4,000 attendees. Five petitions were received with almost 51,000 signatures and there was significant debate on social media.

There was support for some elements of consultation (*see reminders about key elements of the consultation below), including the case for change, strengthening community models, separating planned and urgent care (but most suggesting this should be done on the same site) and provision of a new hospital in the south of the Hywel Dda area.

However, there was considerable disagreement around locations of proposed community hubs and hospitals, with recurring suggestions for hubs to be considered in Milford Haven/Neyland, Fishguard/Goodwick, Crymych, Lampeter and Llandysul, and concern generally over loss of community beds, particularly in regards to Amman Valley Hospital.

There was high level of disagreement over the proposed location for a new urgent and emergency care hospital. Feedback demonstrated competing arguments for building the new hospital near Carmarthen, due to population density both from town itself and being central between Haverfordwest and Llanelli; and further west given that access from these locations is already an important recognised issue.

Key themes of concern have emerged, including travel and access to services, particularly for the more vulnerable or isolated; the infrastructure of roads and public transport limitations; resourcing requirements including costs and staffing; regional impacts, such as those on other health boards and the Welsh Ambulance Services NHS Trust, and the ability to deliver the community and primary care required for such a model to work, amongst others.

Overall, Proposals A and B carried considerably more support than Proposal C, and there was substantial support for alternative options – the vast majority of alternatives relating to the retention or enhancement of existing services at Withybush Hospital in Haverfordwest and some calling for integration or amalgamation between Hywel Dda and Abertawe Bro Morgannwg University Health Boards.

It was generally recognised that Proposal A was likely to maximise the resources available for investment and the delivery of community-based services and many believed the benefits of adopting the most cost-effective option shouldn’t be understated given the ongoing financial pressures and increasing needs of an ageing population.

The feedback suggested that the main advantages in support of Proposal B was the ability to deliver services locally within the Health Board area for as many people as possible. Many had concerns that if Prince Philip Hospital did not remain a Local General Hospital, then large numbers of residents from the most populated areas would inevitably choose to receive services in ABMU Health Board.

People in Ceredigion tended to support Proposal A, followed by B; people from Carmarthenshire tended to support Proposal B, followed by C; and people in Pembrokeshire tended to support  Proposal A over B and C but with substantial support for an alternative proposal. NHS staff tended to favour Proposal B over Proposal A.

What next?

The Health Board is now going through a period of ‘conscientious consideration’, where it will consider views and implications heard in consultation and assess any alternative options put forward, before re-evaluating and proposing a future service model.

A series of meetings have been organised with clinical staff and key stakeholders such as other organisations that provide care and Hywel Dda Community Health Council to undertake this work. Two meetings are with broader stakeholders, one with representatives from protected characteristic groups and another wider group, with invitations issued to those who have already been significantly involved in the consultation. A summary of the outcome of these meetings will be published in the Health Board’s consultation web resource available at www.hywelddahb.wales.nhs.uk/hddchange under ‘Next Steps’, to share this more widely.

Any alternative proposals suggested as part of consultation will go through the same process as those explored pre-consultation. The Health Board will review if any of these alternatives were already considered, assessed and discounted prior to consultation. Any new, alternative proposal will be analysed (based on strengths, weaknesses, opportunities and threats (SWOT analysis)) by a range of clinical staff to assess if it is viable and if so, modelling of activity, travel time, affordability etc would be undertaken. A scoring exercise will then be carried out on any proposals that reach this stage. If any alternative proposal scores equivalent to or more than the proposals taken to public consultation, an equalities impact assessment will take place and the proposal will be presented to the Executive Team of the Health Board to determine if it is viable.

If the alternative proposal is broadly the same as one of the proposals already consulted on but with some adjustments that don’t have any undue negative impacts, this proposal could be adopted without the need for further consultation. If, however, the alternative proposal is radically different to the proposals already consulted on, there may be a requirement for further public consultation by the Health Board.

A recommended way forward, led by clinicians, will be presented to the public Health Board on Wednesday 26 September in Carmarthenshire County Council Chambers and webcast for ease of public access to the full discussion and debate.

The consultation will not be determined by numbers alone, or a single aggregated result, as the population will inevitably have different perspectives on proposals and all views are important and valid.

Board members will need to consider the clinical views, all they heard in the discover phase (engagement during summer 2017) and everything they have heard in formal consultation, as well as issues such as safety, quality, sustainability of services and equalities when making any decision.

The Health Board will continue to update staff, stakeholders and the public and encourages all those interested in the development of health and care services to join the involvement and engagement scheme Siarad Iechyd / Talking Health. You can join by using the link www.talkinghealth.wales.nhs.uk or by telephoning 01554 899 056.

Llais cymunedau ar iechyd a gofal

Mae cymunedau yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru wedi lleisio eu barn yn rhan o ymgynghoriad 12 wythnos ynghylch dyfodol gwasanaethau iechyd a gofal y GIG.

Mae adroddiad annibynnol ar yr ymgynghoriad wedi dod i law Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, sy’n manylu ar rychwant a chwmpas barn cymunedau y Canolbarth a’r Gorllewin. Rhoddodd y bwrdd iechyd lawer o gyfleoedd gwahanol i bobl leisio’u barn, o lenwi holiaduron ffurfiol ac ysgrifennu i mewn, i fynychu digwyddiadau a chyfarfodydd wyneb yn wyneb a thrafodaethau ar gyfryngau cymdeithasol. Mae’r adroddiad yn cynnwys barn y rhai wnaeth ddewis ymateb ac yn amlygu rhai o’r materion allweddol i aelodau’r Bwrdd eu hystyried yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau.

Mae’r Bwrdd Iechyd wedi penderfynu cyhoeddi’r adroddiad hwn (www.bihyweldda.wales.nhs.uk/trawsnewidhdd), cyn iddo gael ei dderbyn yn swyddogol gan y Bwrdd Iechyd mewn cyfarfod eithriadol, sydd i’w gynnal yn Siambrau Sir Caerfyrddin, a’i ddarlledu ar y We, ddydd Mercher 26 Medi 2018, a lle y bydd model o’r gwasanaeth ar gyfer y dyfodol yn cael ei drafod.

Dywedodd y Prif Weithredwr, Steve Moore: “Trwy gydol y broses hon, rydym wedi ymrwymo i fod mor agored a chynhwysol â phosibl, ac wedi ymdrechu i fynd y tu hwnt i’r disgwyliadau o ran ymgysylltu’n barhaus gan mai dyma’r peth iawn i’w wneud, ac oherwydd ein bod wedi dysgu cymaint trwy drafodaethau, syniadau newydd a heriau. Felly, rydym yn sicrhau bod yr adroddiad hwn ar gael i’n cleifion, ein staff, ein rhanddeiliaid a’n cymunedau er mwyn i bob un ohonom allu neilltuo amser i ddarllen ac ystyried ei gynnwys.”

Beth sydd wedi cael ei ddweud?

Cymerodd llawer o bobl ran yn ein hymgynghoriad, Hywel Dda – Trawsnewid Ein Gwasanaeth Iechyd, a gynhaliwyd rhwng 19 Ebrill a 12 Gorffennaf 2018. O boblogaeth o tua 400,000, cafwyd 5,395 o ymatebion i’r holiadur, a gwelwyd pobl wyneb yn wyneb mewn mwy na 160 o ddigwyddiadau a ddenodd dros 4,000 o bobl. Daeth pum deiseb i law gyda bron 51,000 o lofnodion, a bu trafodaethau sylweddol ar y cyfryngau cymdeithasol.

Roedd yna gefnogaeth i rai elfennau o’r ymgynghoriad (*gweler y nodiadau atgoffa ynghylch elfennau allweddol yr ymgynghoriad isod), gan gynnwys yr achos dros newid, cryfhau modelau cymunedol, gwahanu gofal wedi’i gynllunio a gofal brys (ond roedd y mwyafrif yn awgrymu y dylid gwneud hyn ar yr un safle), a darparu ysbyty newydd yn ne ardal Hywel Dda.

Fodd bynnag, roedd yna anghytuno sylweddol ynghylch lleoliadau’r ysbytai a’r hybiau cymunedol arfaethedig, gydag awgrymiadau cyson y dylid ystyried lleoli hybiau yn Aberdaugleddau/Neyland, Abergwaun/Wdig, Crymych, Llanbedr Pont Steffan a Llandysul, ynghyd â phryder cyffredinol ynghylch colli gwelyau cymunedol, yn enwedig mewn perthynas ag Ysbyty Dyffryn Aman.

Roedd yna lefel uchel o anghytuno dros y lleoliad arfaethedig ar gyfer ysbyty gofal brys ac argyfwng newydd. Roedd yr adborth yn amlygu dadleuon cystadleuol dros adeiladu’r ysbyty newydd ger Caerfyrddin, oherwydd dwysedd poblogaeth y dref ei hun ac oherwydd bod y lleoliad yn ganolog rhwng Hwlffordd a Llanelli; ac ymhellach i’r Gorllewin o ystyried bod mynediad o’r lleoliadau hyn eisoes yn fater pwysig cydnabyddedig.

Mae themâu pryder allweddol wedi dod i’r amlwg, gan gynnwys teithio a mynediad at wasanaethau, yn enwedig ar gyfer y rhai sy’n fwy agored i niwed neu sy’n ynysig; seilwaith y ffyrdd a chyfyngiadau o ran trafnidiaeth gyhoeddus; gofynion o ran adnoddau, gan gynnwys costau a staffio; effeithiau rhanbarthol, er enghraifft yr effaith ar fyrddau iechyd eraill ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru; a’r gallu i ddarparu’r gofal sylfaenol a’r gofal cymunedol sy’n ofynnol er mwyn i fodel o’r fath weithio, ymhlith eraill.

Yn gyffredinol, roedd yna dipyn mwy o gefnogaeth i Gynigion A a B nag i Gynnig C, ac roedd yna gefnogaeth sylweddol i opsiynau amgen – roedd y mwyafrif helaeth yn galw am gadw neu wella’r gwasanaethau presennol yn Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd, a rhai yn galw am integreiddio neu uno Byrddau Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac Abertawe Bro Morgannwg.

Yn gyffredinol, cydnabuwyd bod Cynnig A yn debygol o wneud y gorau o’r adnoddau sydd ar gael i’w buddsoddi ac i ddarparu gwasanaethau yn y gymuned, ac roedd llawer o’r farn na ddylid tanbwysleisio manteision mabwysiadu’r opsiwn mwyaf costeffeithiol o ystyried y pwysau ariannol parhaus ac anghenion cynyddol poblogaeth sy’n heneiddio.

Awgryma’r adborth mai’r prif fanteision o blaid Cynnig B oedd y gallu i ddarparu gwasanaethau yn lleol, yn ardal y Bwrdd Iechyd, a hynny i gynifer o bobl â phosibl. Roedd llawer yn pryderu y byddai’r niferoedd mawr o breswylwyr o’r ardaloedd mwyaf poblog, yn anochel, yn dewis cael gwasanaethau gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg pe na fyddai Ysbyty’r Tywysog Philip yn parhau i fod yn Ysbyty Cyffredinol Lleol.

Roedd pobl yng Ngheredigion yn tueddu i gefnogi Cynnig A, yn cael ei ddilyn gan B; roedd pobl o Sir Gaerfyrddin yn tueddu i gefnogi Cynnig B, yn cael ei ddilyn gan C; ac roedd pobl Sir Benfro yn tueddu i gefnogi Cynnig A dros B ac C, ond gyda chefnogaeth sylweddol yn cael ei roi i gynnig amgen. Roedd staff y GIG yn tueddu i ffafrio Cynnig B dros Gynnig A.

Beth nesaf?

Mae’r Bwrdd Iechyd bellach yn mynd trwy gyfnod o ymgynghori o’r enw ‘ystyriaeth gydwybodol’, lle bydd yn ystyried y farn a’r goblygiadau a ddaeth i’r amlwg yn yr ymgynghoriad, ac yn asesu unrhyw opsiynau amgen a gyflwynir, cyn ailwerthuso a chynnig model o’r gwasanaeth ar gyfer y dyfodol.

Mae cyfres o gyfarfodydd â staff clinigol a rhanddeiliaid allweddol wedi cael eu trefnu, er enghraifft sefydliadau eraill sy’n darparu gofal, ynghyd â’r Cyngor Iechyd Cymuned, i ymgymryd â’r gwaith hwn. Cynhelir dau gyfarfod â rhanddeiliaid ehangach, un â chynrychiolwyr o grwpiau â nodweddion gwarchodedig, ac un arall â grŵp ehangach, ac estynnwyd gwahoddiadau i’r rhai sydd eisoes wedi cymryd rhan sylweddol yn yr ymgynghoriad. Er mwyn rhannu hyn yn ehangach, bydd crynodeb o ganlyniad y cyfarfodydd hyn yn cael ei gyhoeddi yn adnodd ymgynghorol y Bwrdd Iechyd ar y We, sydd ar gael yn www.bihyweldda.wales.nhs.uk/trawsnewidhdd o dan ‘Y Camau Nesaf’.

Bydd unrhyw gynigion amgen a awgrymir yn rhan o’r ymgynghoriad yn mynd trwy’r un broses â’r rhai a ystyriwyd cyn yr ymgynghoriad. Bydd y Bwrdd Iechyd yn adolygu a oedd unrhyw ddewisiadau amgen eisoes wedi cael eu hystyried, eu hasesu a’u diystyru cyn yr ymgynghoriad. Bydd unrhyw gynnig newydd amgen yn cael ei ddadansoddi (ar sail cryfderau, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau (dadansoddiad SWOT)) gan amrywiaeth o staff clinigol er mwyn asesu a yw’n ymarferol. Os yw’r cynnig yn ymarferol, byddai’r gweithgarwch, yr amser teithio, fforddiadwyedd, ac ati, yn cael eu modelu, a byddai ymarfer sgorio yn cael ei gynnal rhwng y cynigion gwahanol sy’n cyrraedd y cam hwn. Os bydd cynnig arall yn cael sgôr gyfwerth neu fwy na’r cynigion a aeth i ymgynghoriad cyhoeddus, cynhelir asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb, a chyflwynir y cynnig i Dîm Gweithredol y Bwrdd Iechyd iddo bennu a yw’n ymarferol.

Os bydd y cynnig amgen yr un peth, yn fras, ag un o’r cynigion yr ymgynghorwyd arnynt, ond bod iddo rai addasiadau nad oes iddynt unrhyw effeithiau negyddol gormodol, gellir mabwysiadu hwn heb orfod ymgynghori ymhellach. Fodd bynnag, os bydd y cynnig amgen yn wahanol iawn i’r cynigion yr ymgynghorwyd arnynt eisoes, efallai y bydd angen i’r Bwrdd Iechyd gynnal ymgynghoriad cyhoeddus arall.

Bydd ffordd ymlaen, dan arweiniad clinigwyr, yn cael ei hargymell i’r Bwrdd Iechyd cyhoeddus ddydd Mercher 26 Medi, yn Siambrau Sir Caerfyrddin, a darlledir hyn ar y We er mwyn hwyluso mynediad i’r cyhoedd at y drafodaeth a’r ddadl lawn.

Ni fydd yr ymgynghoriad yn cael ei bennu yn ôl niferoedd yn unig, na chan un canlyniad cyfunol, gan ei bod yn anochel y bydd gan y boblogaeth safbwyntiau gwahanol ar y cynigion, a chan fod pob barn yn bwysig ac yn ddilys.

Wrth wneud unrhyw benderfyniad, bydd angen i aelodau’r Bwrdd ystyried y farn glinigol, popeth y maent wedi’i glywed yn ystod y cyfnod darganfod (ymgysylltu yn ystod haf 2017) a phopeth y maen nhw wedi’i glywed yn ystod yr ymgynghoriad ffurfiol, yn ogystal â materion yn ymwneud â diogelwch, ansawdd, cynaliadwyedd y gwasanaethau a chydraddoldeb.

Bydd y Bwrdd Iechyd yn parhau i ddiweddaru’r staff, y rhanddeiliaid a’r cyhoedd, ac anogir pawb sydd â diddordeb mewn datblygu gwasanaethau iechyd a gofal i ymuno â’r cynllun cyfranogi ac ymgysylltu, Siarad Iechyd/Talking Health. Gallwch ymuno trwy ddefnyddio’r ddolen www.siaradiechyd.wales.nhs.uk neu drwy ffonio 01554 899 056.

Nodiadau i olygyddion:

Ymgynghoriad Trawsnewid ein Gwasanaeth Iechyd – nodiadau atgoffa cryno o elfennau allweddol yr ymgynghoriad – mae’r manylion llawn i’w gweld yn yr adnoddau sydd wedi’u harchifio: www.bihyweldda.wales.nhs.uk/trawsnewidhdd


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle