Staff from across Hywel Dda University Health Board are once again joining the global effort to raise awareness of a life-threatening illness on World Sepsis Day, Thursday 13 September 2018.
Sepsis is a deadly reaction to infection in any part of the body. The most common sites of infection leading to sepsis are the lungs, urinary tract, tummy (abdomen) and pelvis. It remains the number one preventable cause of death in hospital, although 70% of sepsis starts in the community.
It is estimated to be responsible for 44,000 deaths annually in the UK and causes more deaths than breast, bowel and prostate cancer combined. This equates to approximately 2,200 people in Wales each year which represents approximately 13% of all hospital deaths. Sepsis also carries a terrible cost not only in the number of deaths but in the after effects that survivors may have to carry with them for the rest of their lives. Sepsis survivors often have to cope with physical and physiological challenges that mean that they may have to stop working and radically alter their lifestyles.
Sepsis can develop very quickly, recognising and getting treatment early is vital. It affects all age groups irrespective of lifestyle choices, with vulnerable groups such as new mothers, new born babies, small children and the elderly the most at risk, as well as those with chronic disease and weakened immune systems. In the early stages sepsis is often difficult to distinguish from flu. This is why vaccination is such a high priority. No other medical intervention has done more to save lives and improve quality of life. We will soon have an improved pneumococcal vaccine that offers protection against more strains of the disease, and there’s promising work on longer-lasting vaccines against flu.
Anyone who has, or has recently had a fever or a very low temperature and who develops any of the following symptoms, should seek medical advice without delay:
Slurred speech, or confusion
- Extreme shivering or muscle pain
- Passing no urine (in 18 hours or a day)
- Severe breathlessness
- Feelings of severe discomfort
- Skin that is mottled, bluish or very pale
However, the good news is that treatment for sepsis is straightforward and early recognition can save lives.
Dr Phil Kloer, Medical Director at Hywel Dda University Health Board, said: “If sepsis isn’t recognised or treated promptly, it can be fatal. Untreated, sepsis usually leads to multiple organ failure. However, the worst effects of sepsis can be countered with simple treatments, provided it is identified quickly. The sooner treatment is started the lower the risk of death and the harmful effects of sepsis can be reduced.”
World Sepsis Day is being marked by healthcare organisations around the world to increase awareness of sepsis with staff and the public. For further information, visit www.world-sepsis-day.org
Unwaith eto, bydd staff o bob rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ymuno yn yr ymdrech fyd-eang i godi ymwybyddiaeth o salwch sy’n bygwth bywydau, a hynny ar Ddiwrnod Sepsis y Byd, sef dydd Iau 13 Medi 2018.
Mae sepsis yn adwaith marwol i haint yn unrhyw ran o’r corff. Y mannau mwyaf cyffredin o’r corff lle mae haint yn arwain at sepsis yw’r ysgyfaint, y llwybr wrinol, y bol (yr abdomen) a’r pelfis. Mewn ysbytai, hwn, o hyd, yw’r un achos marwolaeth sy’n ataliadwy, er bod 70% o’r achosion o sepsis yn dechrau yn y gymuned.
Amcangyfrifir ei fod yn gyfrifol am 44,000 o farwolaethau yn flynyddol yn y Deyrnas Unedig, ac mae’n achosi mwy o farwolaethau na chanser y fron, y coluddyn a’r prostad gyda’i gilydd. Mae hyn yn cyfateb i tua 2,200 o bobl yng Nghymru bob blwyddyn, sy’n cynrychioli oddeutu 13% o’r holl farwolaethau mewn ysbytai. Mae sepsis hefyd yn costio’n ofnadwy, nid yn unig oherwydd nifer y marwolaethau, ond hefyd oherwydd yr ôl-effeithiau y gallai fod yn rhaid i oroeswyr eu goddef am weddill eu bywydau. Yn aml, mae’n rhaid i oroeswyr sepsis ymdopi â heriau corfforol a ffisiolegol, sy’n golygu y bydd yn rhaid iddynt, efallai, roi’r gorau i weithio, a newid eu ffordd o fyw yn sylweddol.
Gall sepsis ddatblygu’n gyflym dros ben, ac mae ei adnabod a chael triniaeth gynnar yn hanfodol. Mae’n effeithio ar bob grŵp oedran, ni waeth beth yw’r ffyrdd dewisol o fyw, a grwpiau agored i niwed, er enghraifft mamau newydd, babanod newyddanedig, plant bach a’r henoed sy’n wynebu’r perygl mwyaf, yn ogystal â’r rhai sydd â chlefyd cronig a systemau imiwnedd gwan. Yn y camau cynnar, mae’n aml yn anodd gwahaniaethu rhwng sepsis a’r ffliw. Dyna pam y mae brechu yn flaenoriaeth mor uchel. Nid oes unrhyw ymyrraeth feddygol arall wedi gwneud mwy i achub bywydau a gwella ansawdd bywyd. Yn fuan, bydd gennym well brechlyn niwmococol, sy’n cynnig amddiffyniad yn erbyn mwy o fathau o’r clefyd, ac mae yna waith addawol ar y gweill ar frechlynnau mwy parhaol yn erbyn y ffliw.
Dylai unrhyw un sy’n dioddef o dwymyn neu dymheredd isel iawn, neu sydd wedi dioddef ohonynt yn ddiweddar, ac sy’n datblygu unrhyw un o’r symptomau canlynol, geisio cyngor meddygol yn ddi-oed:
- Lleferydd bloesg, neu ddryswch
- Cryndod eithafol neu boen eithafol yn y cyhyrau
- Ddim yn pasio wrin o gwbl (am 18 awr neu am ddiwrnod)
- Diffyg anadl difrifol
- Teimladau o anghysur difrifol
- Croen brycheulyd, glasaidd neu lwyd iawn.
Fodd bynnag, y newyddion da yw bod y driniaeth ar gyfer sepsis yn syml, a gall adnabod y salwch yn gynnar arbed bywydau.
Meddai Dr Phil Kloer, Cyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Os na chaiff sepsis ei adnabod neu ei drin yn brydlon, gall fod yn angheuol. Heb ei drin, mae sepsis fel arfer yn arwain at fethiant mewn nifer o organau. Fodd bynnag, gellir gwrthsefyll effeithiau gwaethaf sepsis gyda thriniaethau syml, ar yr amod ei fod yn cael ei adnabod yn gyflym. Po gynharaf y mae’r driniaeth yn cael ei rhoi ar waith, isaf yw’r risg o farwolaeth, a gall effeithiau niweidiol sepsis gael eu lleihau.”
Mae Diwrnod Sepsis y Byd yn cael ei nodi gan sefydliadau gofal iechyd ledled y byd, a hynny er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth staff a’r cyhoedd o sepsis. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.world-sepsis-day.org
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle