Technoleg newydd ar fferm yng Nghymru yn echdynnu 90% o ddŵr o slyri / New technology at Welsh farm shown to extract 90% of water from slurry

0
777

New technology at Welsh farm shown to extract 90% of water from slurry

 

A dairy farm with a 500-cow herd could potentially make savings of nearly £50,000 a year and reduce its risk of polluting watercourses by removing the water from slurry and purifying it, according to a Welsh farm trial.

 

Coleg Sir Gâr’s Gelli Aur Farm, a Farming Connect Innovation Site, is trialling technology that de-waters and purifies slurry, a £1.1 million Prosiectslyri project funded by the Welsh Government through the Rural Development Programme.

 

The treatment plant at Coleg Sir Gâr’s, Gelli Aur Campus is in its first week of operation and farmers have had an opportunity to see how it works and potential benefits of introducing the technology in their own systems.

 

More than 250 farmers from across the UK attended the joint Prosiectslyri Project and Farming Connect open day.

 

The equipment at Gelli Aur is processing 35 tonnes of slurry daily and is already exceeding expectation – the company behind the technology, Swansea-based Power and Water, had anticipated extracting 80% of liquid from the slurry but is achieving 90%.

 

The purification process needs further work – the filtered water is not yet clean enough for discharge into local watercourses or to re-use on the farm but this is within reach, says Gareth Morgan, Power and Water’s chief executive officer.

 

“We are refining the processes as we go along,’’ he explains. “The treated water does need analysis before being discharged. We are working with Natural Resources Wales to define discharge quality parameters.’’

 

The system works by pumping slurry in its original form from the cubicle housing into a separator.

 

The solid material, a tenth of its original volume because the water has been extracted, drops into a storage area below the separator. Once the holding area is full this stackable material is scooped up and stored in a covered area, ready for spreading.

 

The filtered liquid, which is around 4-5% dry matter (DM) once it has been through the separator, passes to another part of the plant where a patented system of oxidation breaks down the ammonia to nitrogen and hydrogen and removes those remaining solids which are routed back to front-end of the treatment process for adding to the compressed slurry beneath the separator.

 

There are two separation systems being trialled – one uses centrifugal force to remove the solids and the other, a screw press filter, forces slurry through a mesh screen.

 

Mr Morgan says the centrefuge system is more energy intensive but produces more solids while the screw press is considerably less capital outlay but there is less separation.

 

“We will establish which produces the optimum results,’’ he explains.

 

The project calculates substantial savings from this approach. At Gelli Aur with its 500-cow herd it could mean annual savings of £16,908 on bagged fertiliser due to the higher nutrient content of the compressed slurry and better use being made of these nutrients. The project will also seek to confirm these estimates, and assess the nutrient value of the dehydrated slurry when applied to the land.’

 

Re-using the water and reducing spreading and diesel costs would result in further cost savings of £32,296.

 

John Owen, farm manager at Gelli Aur, who is managing the project, says the farming industry is very aware of issues associated with on-farm nutrient management.

 

“As an industry we are taking the lead, adopting new technology that has been used in other sectors to make better use of the nutrients we produce.

 

“It is new technology so the next two years will be all about evaluating.’’

 

The system, says Mr Owen, needs to be appropriate to all farms, whatever their scale.

 

“It is not just about the big boys, it has to be suitable for everyone. If it wasn’t it wouldn’t make much of a difference to overall water quality.’’

 

Slurry is a nutrient for grass but a pollutant in rivers and lakes so reducing its volume while producing a good quality fertiliser will minimise the risks associated with nutrient storage and management on Welsh farms, says Dewi Hughes, Technical Development Manager at Farming Connect.

 

“There is an appetite for this type of technology,’’ he says.

 

“Farming Connect is looking forward to working with Gelli Aur in communicating the results from this project to the industry so that farmers can make informed decisions to see if it is suitable for their farms and systems.’’

 

Farmers can also learn more about nutrient management through other Farming Connect projects and events.

 

Technical advice through the Advisory Service is 100% funded for groups or 80% on a one-to-one basis.

 

There is also an opportunity for farmers to tap into European Innovation Partnership (EIP) Wales funding. Up to £40,000 is available for farmers to come together to find technical solutions to increasing productivity or resource efficiency.

 

Funding for the project has been provided by the Welsh Government’s Rural Communities Rural Development Programme 2014-2020.

John Owen, Gelli Aur

Technoleg newydd ar fferm yng Nghymru yn echdynnu 90% o ddŵr o slyri

 

Mae’n bosibl y gallai fferm laeth gyda buches o 500 o wartheg wneud arbedion o bron i £50,000 y flwyddyn a lleihau ei risg o lygru cyrsiau dŵr drwy dynnu’r dŵr o’r slyri a’i buro, yn ôl arbrawf ar fferm yng Nghymru.

 

Mae Fferm Gelli Aur Coleg Sir Gâr, un o Safleoedd Arloesedd Cyswllt Ffermio, yn treialu technoleg sy’n tynnu dŵr ac yn puro slyri, prosiect gwerth £1.1 miliwn, sef Prosiectslyri, a ariennir gan Lywodraeth Cymru drwy’r Rhaglen Datblygu Gwledig.

 

Mae’r safle trin ar Gampws Gellir Aur Coleg Sir Gâr yn ei wythnos gyntaf ac mae ffermwyr wedi cael y cyfle i weld sut mae’n gweithio a manteision posiblcyflwyno’rdechnoleg yn eu systemau eu hunain.

 

Mynychodd dros 250 o ffermwyr o ledled y DU ddiwrnod agored a gynhaliwyd ar y cyd rhwng Prosiectslyri a Cyswllt Ffermio.

 

Mae’r safle trin yng Ngelli Aur yn prosesu 35 tunnell o slyri bob dydd ac mae eisoes yn gwneud mwy na’r hyn a ddisgwyliwyd – roedd y cwmni y tu ôl i’r dechnoleg, Power and Water o Abertawe, wedi rhagweld y byddai 80% ohylif yn cael ei echdynnu o’r slyri ond mae’n cyrraedd 90%.

 

Mae angen gwaith pellach ar y broses buro – nid yw’r dŵr wedi’i hidlo yn ddigonglân eto i’w ryddhau i gyrsiau dŵr lleol neu i’w ail-ddefnyddio ar y fferm ond mae hyn o fewn cyrraedd, meddai Gareth Morgan, prif weithredwr Power and Water.

 

“Rydym yn mireinio’rprosesau wrth i ni fynd ymlaen,” meddai. “Mae angen dadansoddi’r dŵr sy’n cael ei drin cyn iddo gael ei ryddhau. Rydym yn gweithio gyda CyfoethNaturiol Cymru i ddiffinioparamedrau ansawdd rhyddhau.”

 

Mae’r system yn gweithio drwy bwmpio slyri yn ei ffurf wreiddiol o’r ciwbiclau i wahanwr.

 

Mae’r deunydd solet, sy’n un rhan o ddeg o’i gyfaintgwreiddiol oherwydd bod y dŵr wedi’i echdynnu, yn disgyn i’r ardal storio o dan y gwahanwr. Unwaith y bydd yr ardal dal yn llawn mae’r deunydd hwn y gellir ei bentyrru yn cael ei gasglu a’i storio mewn ardal dan do, yn barod i’w wasgaru.

 

Mae’r hylif wedi’i hidlo, sydd tua 4-5% oddeunydd sych (DM) unwaith mae wedi bod drwy’r gwahanwr, yn symud i ran arall o’r safle trin lle mae system ocsideiddio â phatent yn torri’ramonia i lawr yn nitrogen a hydrogen ac yn cael gwared ar y solidau hynny sy’n weddill ac sydd yna’n cael eu cludo’n ôl i ddechrau’r broses drin ar gyfer ychwanegu at y slyri cywasgedig o dan y gwahanwr.

 

Mae dwy system wahanu yn cael eu treialu – mae un yn defnyddio grymallgyrchol i gael gwared ar y solidau ac mae’r llall, hidlyddgwasgusgriw, yn gwthio’r slyri drwy sgrinrhwyll.

 

Dywed Mr Morgan bod y system allgyrchol yn fwy dwys o ran ynni ond mae’n cynhyrchu mwy o solidau tra bod y gwasgsgriw yn gryndipyn yn llai o wariantcyfalaf ond mae llai o wahanu’n cael ei gyflawni.

 

“Byddwn yn canfod pa un sy’n cynhyrchu’r canlyniadau gorau,” meddai.

 

Mae’r prosiect yn cyfrifoarbedion sylweddol o’r dull gweithredu hwn. Yng Ngelli Aur gyda’r fuches o 500 o wartheg, gallai olyguarbedion blynyddol o £16,908 ar wrtaithartiffisial oherwydd cynnwys maethol uwch y slyri cywasgedig a gwell defnydd yn cael ei wneud o’r maetholion hyn. Bydd y prosiect hefyd yn ceisio cadarnhau’ramcangyfrifon hyn, ac yn asesu gwerth maethol slyri wedi’i ddadhydradu pan fydd yn cael ei roi ar y tir.

 

Byddai ailddefnyddio’r dŵr a lleihau costau gwasgaru a disel yn arwain at arbedion pellach o £32,296.

 

Dywed John Owen, rheolwr fferm yng Ngelli Aur, sy’n rheoli’r prosiect, bod y diwydiant ffermio yn ymwybodol iawn o’r materion sy’n gysylltiedig â rheoli maetholion ar ffermydd.

 

“Fel diwydiant rydym yn cymryd yr awenau, gan fabwysiadu technoleg newydd sydd wedi’i defnyddio mewn sectorau eraill i wneud gwell defnydd o’r maetholion a gynhyrchwn.

 

“Mae’n dechnoleg newydd felly bydd y ddwy flynedd nesaf yn ymwneud â gwerthuso.”

 

Yn ôl Mr Owen, mae angen i’r system fod yn briodol i bob fferm, beth bynnag eu maint.

 

“Nid rhywbeth i’r ffermydd mawr yn unig yw hwn, mae’n rhaid iddo fod yn addas i bawb. Os na fyddai, ni fyddai’n gwneud llawer o wahaniaeth i ansawdd dŵr cyffredinol.”

 

Mae slyri yn cynnig maeth i’r glaswellt ond yn llygru afonydd a llynnoedd felly bydd lleihau ei gyfaint wrth gynhyrchu gwrtaith o ansawdd uchel yn lleihau’r risgiau cysylltiedig â storio a rheoli maeth ar ffermydd yng Nghymru, meddai Dewi Hughes, Rheolwr Datblygu Technegol Cyswllt Ffermio.

 

“Mae galw am y math hwn o dechnoleg,” meddai.

 

“Mae Cyswllt Ffermio yn edrych ymlaen at weithio gyda Gelli Aur wrth gyfleucanlyniadau’r prosiect hwn i’r diwydiant fel y gall ffermwyr wneud penderfyniadau gwybodus i weld ayw’n addas ar gyfer eu ffermydd a’u systemau.”

 

Hefyd, gall ffermwyr ddysgu mwy am reoli maeth drwy ddigwyddiadau a phrosiectau eraill Cyswllt Ffermio.

 

Mae cyngor technegol drwy’r Gwasanaeth Cynghori yn cael ei ariannu 100% ar gyfer grwpiau neu 80% ar sail un i un.

 

Hefyd mae cyfle i ffermwyr fanteisio ar gyllid Partneriaeth Arloesi Ewrop (EIP Wales). Mae hyd at £40,000 ar gael i ffermwyr ddod ynghyd i ddarganfod datrysiadautechnegol i gynyddu cynhyrchiant neu effeithlonrwydd adnoddau.

 

Darparwyd cyllid ar gyfer y prosiect gan Raglen Datblygu Gwledig Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020.

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle