International partnership sees Swansea University launch new course for Italian students

0
980
Bob Davies, Senior Lecturer

A pioneering international collaboration has seen Swansea University team up with an osteopathic college in Italy to offer a new degree.

Beginning in October, the Accademia per lo Sviluppodell’Osteopatia e dellaMedicinaIntegrativa (ASOMI) in Turin will have primarily responsibility for delivering a one-year BSc (Hons) Osteopathy ‘top-up’ programme .

Lecturers from the University’s M.Ost Osteopathy programme and the College of Human and Health Sciences student support section will have responsibility for the overall management, teaching input and quality assurance of the course.

Bob Davies, Senior Lecturer on the M.Ost Osteopathy programme and Programme Director/Lead for the ASOMI course, was delighted about securing the partnership.

He said: “This agreement is the first of its kind for the University. As well as developing students’ knowledge around the issues relating to the osteopathic profession, the successful completion of the programme in Turin and the issue of a degree by Swansea University – an accredited UK teaching institution for the delivery of an undergraduate osteopathic programme – will also develop an enhanced student pedigree as graduates put into practice their newly acquired skills and enhanced professionalism.”

Around 40 students are expected to enrol in September in the first cohort. They will study in Turin for one academic year and undertake four Level 6 modules, including one delivered by Swansea University staff in Italy.

It is also hoped that over the next couple of years, students on osteopathy programmes at both institutions will visit and work in respective clinics to widen and promote student experience. The collaboration also offers the potential for research into areas of osteopathy not yet studied.

The development of this new collaboration has been supported by the University’s Academic Partnerships Directorate which facilitatesoverseas collaborations with education and commercial organisations across the world.

This collaboration is based on a validation arrangement where the partner has lead responsibility in proposing, delivering and assessing the academic content while Swansea University quality assures that content, moderates the assessment and awards the final qualification of a BSc (Hons) Osteopathy.

Bob added: “I have worked closely with Mark Narusberg from the University’s Academic Partnership team to secure this project. Mark has been very supportive from its initial inception and has provided important guidance and support over the past 18 months.”

Director of Academic Partnerships Huw Morris said his team was proud to have been able to employ its expertise to help develop the innovative programme and to have set the foundations for a successful and sustainable partnership.

He added: “Our aim is ensure that any student or learner, wherever they study and at whichever level of award, will have a rewarding and excellent learning experience.”

Osteopathy students in Swansea
Friday 23 March 2018
Swansea University CHHS Photoshoot

Lansio cwrs newydd i fyfyrwyr Eidalaidd ym Mhrifysgol Abertawe o ganlyniad i bartneriaeth ryngwladol

 

Mae Prifysgol Abertawe yn ymuno â choleg osteopathig yn yr Eidal i gynnig gradd newydd o ganlyniad i gydweithio rhyngwladol arloesol.

 

Gan ddechrau ym mis Hydref, bydd gan Accademia per lo Sviluppodell’Osteopatia e dellaMedicinaIntegrativa (ASOMI) yn Turin y prif gyfrifoldeb dros gyflwyno rhaglen Osteopathig ‘ychwanegol’ BSc (Anrhydedd) un flwyddyn o hyd.

 

Bydd gan ddarlithwyr o raglen M.OstOsteopathig ac adran cefnogi myfyrwyr Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd gyfrifoldeb dros reolaeth gyffredinol, mewnbwn addysgu a sicrhau ansawdd y cwrs.

 

Roedd Bob Davies, Uwch Ddarlithydd ar y rhaglen M.OstOsteopathig a Chyfarwyddwr/Arweinydd Rhaglen y cwrs ASOMI wrth ei fodd am sicrhau’r bartneriaeth.

 

Meddai, “Dyma’r cytundeb cyntaf o’i fath i’r Brifysgol.Yn ogystal â datblygu dealltwriaeth y myfyrwyr ynghylch materion sy’n berthnasol i’r alwedigaeth osteopatheg, bydd cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus yn Turin a chyhoeddi gradd gan Brifysgol Abertawe – sy’n sefydliad addysgu achrededig yn y DU ar gyfer darparu rhaglen oestopathig israddedig – hefyd yn datblygu tras cyfoethocach o fyfyrwyr wrth i raddedigion ddefnyddio eu sgiliau newydd a’u proffesiynoldeb datblygedig.”

 

Disgwylir i tua 40 o fyfyrwyr gofrestru ym mis Medi yn y garfan gyntaf. Byddant yn astudio yn Turin am un flwyddyn academaidd ac yn cwblhau pedwar modiwl Lefel 6, gan gynnwys un a gyflwynir gan staff Prifysgol Abertawe yn yr Eidal.

 

Yn ogystal, y gobaith yw y bydd myfyrwyr ar raglenni osteopatheg yn y ddau sefydliad yn ymweld â chlinigau priodol ac yn gweithio ynddynt dros y blynyddoedd nesaf, gan hyrwyddo profiad y myfyrwyr. Mae’r cydweithrediad hefyd yn cynnig y posibilrwydd o ymchwilio i feysydd o osteopatheg nad ydynt wedi’u hastudio eto.

 

Cefnogwyd datblygiad y cydweithrediad hwn gan Gyfarwyddiaeth Partneriaethau Academaidd y Brifysgol sy’n hwyluso cydweithrediadau tramor â sefydliadau addysgol a masnachol ar draws y byd.

 

Mae’r cydweithrediad hwn yn seiliedig ar drefniant dilysu lle mae gan y partner arweiniol gyfrifoldeb dros gynnig, darparu ac asesu cynnwys academaidd tra bydd Prifysgol Abertawe yn sicrhau ansawdd y cynnwys hwnnw, yn cymedroli’r asesiad ac yn dyfarnu’r cymhwyster terfynol o BSc (Anrhydedd) Osteopatheg.

 

Ychwanegodd Bob, “Rwyf wedi gweithio’n agos gyda Mark Narusberg o dîm Partneriaethau Academaidd y Brifysgol i sicrhau’r prosiect hwn.Mae Mark wedi bod yn gefnogol iawn o’r dechrau un ac wedi darparu arweiniad a chefnogaeth bwysig dros y 18 mis diwethaf.”

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Partneriaethau Academaidd, Huw Morris, fod ei dîm yn falch o’r ffaith ei fod e wedi gallu defnyddio ei arbenigedd i helpu i ddatblygu rhaglen arloesol a gosod seiliau partneriaeth lwyddiannus a chynaliadwy.

Ychwanegodd, “Ein nod yw sicrhau bod gan unrhyw fyfyriwr neu ddysgwr, ni waeth lle bydd yn astudio neu lefel ei ddyfarniad, yn cael profiad dysgu rhagorol a gwerthfawr.”

 

 

Nodiadau i olygyddion:

Prifysgol dau gampws yw Prifysgol Abertawesy’n cael ei harwain gan ymchwil. Sefydlwyd y Brifysgol ym 1920 a bellach mae’n cynnig oddeutu 330 o gyrsiau israddedig a 120 o gyrsiau ôl-raddedig i 16,800 o fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig.

 

Mae Campws Parc Singleton wedi’i lleoli mewn parcdir prydferth â golygfeydd ar draws Bae Abertawe. Mae Campws y Bae yn gampws gwyddoniaeth ac arloesi sydd wedi’i leoli ar safle 65 acer ar y ffordd i mewn i Abertawe o gyfeiriad y dwyrain.  Hwn yw un o’r ychydig gampysau yn y byd sydd â mynediad uniongyrchol at draeth a’i bromenâd glan môr ei hun. Mae’r ddau gampws ar gyrion penrhyn Gŵyr, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol cyntaf y Deyrnas Gyfunol.

 

Dangosodd Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014 fod y Brifysgol wedi  cyflawni ei huchelgais i fod yn y 30 uchaf o brifysgolion ymchwil, gan neidio i safle 26 yn nhabl cynghrair y Deyrnas Gyfunol, gyda’r ‘naid fwyaf ymysg sefydliadau ymchwil- dwys’ (TimesHigherEducation, Rhagfyr 2014) yn y Deyrnas Gyfunol.

 

Mae gan y Brifysgol gynlluniau ehangu uchelgeisiol wrth iddi symud tuag at ei chanmlwyddiant yn 2020, ac wrth iddi barhau i ehangu ei chyrhaeddiad byd-eang , mae’r brifysgol yn symud yn nes at wireddu ei huchelgais o ddod yn y 200 uchaf o brifysgolion byd-eang.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle