Heddlu Dyfed-Powys – Operation Sceptre

0
701

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn mynd i’r afael ag achosion o feddu ar gyllyll yn anghyfreithlon fel rhan o Ymgyrch Sceptre, sef wythnos genedlaethol o weithredu sy’n rhedeg o 18 – 24 Medi.

Nod yr wythnos yw cynyddu ymwybyddiaeth ynghylch peryglon cario cyllyll a’r cyfreithiau o gwmpas prynu a gwerthu cyllyll a llafnau.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd ar gyfer gweithrediadau arbenigol, Craig Templeton:

“Mae cario cyllell yn drosedd sy’n cyflwyno’r perygl y gall mater mân waethygu’n rhywbeth llawer mwy difrifol a allai newid bywydau.

“Gall y difrod a achosir gan gyllyll fod yn drychinebus ar gyfer dioddefwyr a’u teuluoedd, yn ogystal â’r gymuned ehangach. Byddwn ni’n gwneud pob dim o fewn ein gallu i ledaenu’r neges nad yw cario cyllell yn dderbyniol.”

Ar gyfer cyngor sy’n berthnasol i chi, ewch i www.dyfed-powys.police.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle